Datganiad: Galluogi cyfleoedd ar gyfer arloesi

Cyhoeddwyd: 18 Rhagfyr 2018
Ymgynghori yn cau: 12 Mawrth 2019
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Dyddiad cyhoeddi'r datganiad: 25 Gorffennaf 2019

Mae amleddau radio yn hynod bwysig i economi a chymdeithas y DU gan eu bod yn caniatáu i bob dyfais gyfathrebu ddi-wifr, yn cynnwys ffonau symudol a band eang di-wifr, weithredu.  Rydym eisiau cefnogi arloesedd a galluogi defnyddio sbectrwm mewn ffyrdd newydd, ac rydym yn cydnabod bod diddordeb cynyddol mewn defnyddio technoleg symudol, yn cynnwys 5G, i ddatblygu atebion i anghenion cysylltedd di-wifr lleol. I sicrhau nad yw diffyg mynediad i’r sbectrwm radio yn atal arloesi, rydym yn cyflwyno trefn drwyddedu newydd i ddarparu mynediad lleol at fandiau sbectrwm sy’n gallu cynnal technoleg symudol.

Mae’r datganiad hwn yn egluro sut byddwn ni’n caniatáu i fwy o bobl a busnesau ddefnyddio sbectrwm o blith dewis o fandiau amledd. Gallai mynediad lleol at y bandiau hyn gynnal twf ac arloesedd ar draws amryw o sectorau, er enghraifft gweithgynhyrchu, menter, logisteg, amaethyddiaeth, mwyngloddio ac iechyd. Gallai alluogi sefydliadau i sefydlu’u rhwydweithiau lleol eu hunain gyda mwy o reolaeth dros ddiogelwch, cadernid a dibynadwyedd nag sydd ganddynt ar hyn o bryd. Er enghraifft, gweithgynhyrchwyr yn cysylltu peiriannau’n ddi-wifr, ffermwyr yn cysylltu dyfeisiau amaethyddol fel systemau dyfrhau a thractorau clyfar yn ddi-wifr, defnyddwyr menter yn sefydlu rhwydweithiau llais a data preifat diogel o fewn safle, yn ogystal â chysylltedd band eang di-wifr gan ddefnyddio mynediad di-wifr sefydlog mewn ardaloedd gwledig (FWA).

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Siew Yoon Tan
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig