Mae'r sbectrwm radio (y tonnau anweladwy sy'n galluogi technoleg ddi-wifr) yn adnodd meidraidd sy'n hanfodol i gyflwyno ystod eang o gymwysiadau di-wifr y gall gwahanol ddefnyddwyr elwa ohonynt, ac mae gan Ofcom y dasg o sicrhau y caiff ei ddefnyddio er budd pennaf pawb yn y DU. Saif yr ymagwedd hon wrth wraidd cenhadaeth Ofcom i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb
Mae gan gyfathrebiadau di-wifr ran gynyddol bwysig i'w chwarae ar draws sawl sector yn yr economi – gan ddarparu ein newyddion, ein cysylltu â ffrindiau a theulu, awtomeiddio ffatrïoedd, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a monitro'r amgylchedd naturiol.
Mae datblygiadau technolegol yn galluogi cymwysiadau a modelau busnes newydd ac arloesol, sy'n golygu bod mwy o bobl a sefydliadau yn defnyddio technoleg ddi-wifr. Yn wyneb y cynnydd hwn ac, mewn llawer o achosion, y galw cystadleuol am sbectrwm, amlinellodd Ofcom Strategaeth Rheoli Sbectrwm newydd ym mis Gorffennaf 2021.
Yn y Map Ffordd Sbectrwm hwn rydym yn amlinellu'r gwaith rydym yn bwriadu ei gyflawni ar y strategaeth hon, drwy ein prosiectau presennol (fel yr amlinellir yng Nghynllun Gwaith 2022-23) a thrwy feysydd gwaith arfaethedig yn y dyfodol.
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi fersiwn wedi'i ddiweddaru o'i Fap Ffordd Sbectrwm. Mae'r ddogfen hon yn cadarnhau ein bwriad i fwrw ymlaen â'r meysydd newydd o waith sy'n gysylltiedig â sbectrwm a gynigiwyd gennym yn y ddogfen drafod Map Ffordd Sbectrwm ym mis Mawrth 2022. Bydd y meysydd gwaith newydd hyn yn ein galluogi i gyflwyno'r weledigaeth ar gyfer rheoli sbectrwm a nodir yn ein Strategaeth Rheoli Sbectrwm. Rydym hefyd wedi cyhoeddi atodiad sy'n crynhoi ymatebion i'n dogfen drafod.
Ymatebion
Manylion cyswllt
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA