Trwyddedau Mynediad a Rennir

Cyhoeddwyd: 9 Rhagfyr 2019

Mae’r drwydded mynediad a rennir yn rhan o fframwaith newydd ar gyfer galluogi rhannu’r defnydd o sbectrwm, gyda’r nod o’i gwneud yn haws i bobl a busnesau gael mynediad at sbectrwm ar gyfer ystod eang o raglenni cysylltedd di-wifr lleol.

Mae’r drwydded rhannu mynediad ar gael ar hyn o bryd mewn pedwar band sbectrwm sy’n cefnogi technoleg symudol:

  • Band 1800 MHz: 1781.7 i 1785 MHz wedi’i baru gydag 1876.7 i 1880 MHz
  •  Band 2300 MHz: 2390 i 2400 MHz;
  • band 3800 i 4200 MHz; a
  • 24.25-26.5 GHz. Dim ond ar gyfer trwyddedau pŵer isel dan do y mae’r band hwn ar gael.

Mae dau fath o drwydded ar gael:

  •  Trwydded pŵer isel. Mae’r drwydded hon yn awdurdodi defnyddwyr i ddefnyddio cymaint o orsafoedd â phosibl mewn ardal gylchol sydd â radiws o 50 metr yn ogystal â’r terfynellau sefydlog, nomadaidd neu symudol cysylltiedig sydd wedi’u 
    cysylltu â’r gorsafoedd sylfaen sy’n gweithredu yn yr ardal
  •  Trwydded pŵer canolig. Mae’r drwydded hon yn awdurdodi un orsaf sylfaen a’r terfynellau sefydlog, nomadaidd neu symudol cysylltiedig sydd wedi’u cysylltu â’r orsaf sylfaen.

Mae ein canllaw mynediad a rennir (PDF, 1.1 MB) yn cynnwys manylion am ffioedd trwyddedau, y broses gwneud cais, a thelerau ac amodau’r drwydded. Mae’r trwyddedau 
rhannu mynediad rydym yn eu rhoi yn cael eu cyhoeddi yn ein porth gwybodaeth am sbectrwm.

Shared access application form (PDF, 1.5 MB)

Mae’r un ffi trwydded flynyddol yn berthnasol ar gyfer trwyddedau pŵer isel neu ganolig. Mae hyn yn £80 yn y band 1800 MHz a 2300 MHz, a £80 am bob 10 MHz yn y band 3.8 i 4.2 GHz

Mae’r tabl hwn yn dangos ffi flynyddol y drwydded ar gyfer sianeli o wahanol feintiau.

Maint y sianel

Pris fesul sianel

2x3.3 MHz

£80

10 MHz

£80

20 MHz

£160

30 MHz

£240

40 MHz

£320

50 MHz

£400

60 MHz

£480

80 MHz

£640

100 MHz

£800

Ar gyfer y band 26 GHz, mae ffi flynyddol y drwydded yn £320 ac nid yw’n amrywio yn ôl lled band.

Bydd trwyddedau tymor byr o lai na blwyddyn yn y 1800 MHz, 2300 MHz, 3.8 i 4.2 GHz a’r 26 GHz yn cael eu prisio ar sail pro-rata, gyda chost sylfaenol o £32 y drwydded.

Ar 9 Rhagfyr 2019, cafodd y sbectrwm 1781.7-1785.0 MHz wedi’i baru â 1876.7-1880.0 MHz ei ymgorffori yn y cynnyrch trwydded Mynediad a Rennir newydd

Cafodd yr holl drwyddedau Cydamserol blaenorol naill ai eu hildio o’r dyddiad hwnnw ymlaen, neu eu hamrywio i adlewyrchu’r meini prawf aseinio technegol newydd. Mae data tri o drwyddedeion sy’n defnyddio’r rhain ar hyn o bryd wedi cael eu symud i drwyddedau Mynediad a Rennir newydd.

Mae’r trwyddedeion hynny nad oeddent wedi dewis ildio eu trwyddedau heb eu defnyddio yn cadw dogfennau trwydded, ond nid oedd unrhyw aseiniadau wedi’u cofnodi. Bydd unrhyw geisiadau am adleoliadau newydd yn y dyfodol yn cael eu prosesu o dan y trefniadau Mynediad a Rennir.

Yn ôl i'r brig