Ymgynghoriad: Cefnogi'r defnydd cynyddol o sbectrwm a rennir

Cyhoeddwyd: 23 Tachwedd 2023
Ymgynghori yn cau: 2 Chwefror 2024
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae rhannu sbectrwm yn rhan allweddol o strategaeth Ofcom ar gyfer rheoli sbectrwm. Mae'r fframwaith Mynediad a Rennir yn darparu mecanwaith i gyrchu amleddau gydag ecosystemau offer symudol sefydledig neu ddatblygol, ar sail leol. Rydym wedi gweld diddordeb cynyddol yn y math hwn o fynediad dros y pedair blynedd diwethaf, gyda mwy na 1,500 o drwyddedau bellach wedi’u rhoi, a nifer o wledydd eraill yn mabwysiadu dulliau tebyg.

Yng ngoleuni’r galw hwn a’r twf a ragwelir yn y dyfodol, rydym bellach yn cynnig camau i wella’r cyflenwad sbectrwm sydd ar gael, yn enwedig yn y band 3.8-4.2 GHz poblogaidd. Rydym yn bwriadu gwneud hyn trwy lacio rhai rhagdybiaethau cydlynu penodol i adlewyrchu amodau'r byd go iawn, a thrwy ganiatáu mewnbwn ychwanegol gan ddefnyddwyr mewn penderfyniadau cydlynu. Rydym hefyd yn cynnig cefnogi defnyddiau ychwanegol drwy gynyddu lefel pŵer a ganiateir ein cynnyrch Pŵer Isel, a llacio rhai cyfyngiadau penodol ar gadw cofnodion o derfynellau ar gyfer y fath osodiadau Pŵer Isel dan do.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 50.8 KB) (Saesneg yn unig).

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

Jack Hindley
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig