Spectrum Paris 2024

Ofcom yn gosod safon aur yng Ngemau Paris

Cyhoeddwyd: 18 Medi 2024

Roedd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Paris 2024 yn llwyddiant ysgubol – i’r cyfranogwyr a’r rhai a enillodd fedalau, wrth gwrs, ond hefyd i gynulleidfa fyd-eang o wylwyr a gwrandawyr a oedd yn gallu mwynhau’r cyffro.

Roedd y gemau hefyd yn llwyddiant technegol diolch i gyfraniadau arbenigwyr sbectrwm Ofcom, a helpodd i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddidrafferth.

Sicrhau llwyddiannau y tu ôl i’r llenni

Bu cydweithwyr o’n timau Sicrhau Sbectrwm a Pheirianneg Sbectrwm yn gweithio gyda chymheiriaid o’r asiantaeth rheoleiddio sbectrwm yn Ffrainc, ‘Agence Nationale Des Frequencies’ (ANFR), er mwyn helpu i gynllunio a monitro gweithgarwch sbectrwm cyn ac yn ystod y gemau.

Mewn digwyddiad mawr fel y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, defnyddir llawer o offer di-wifr. O offer cyfathrebu ar y safle fel ‘walkie-talkies’ a monitorau clust, i offer darlledwyr fel camerâu a microffonau di-wifr. 

Camera Image

Mae pob darn o offer di-wifr yn defnyddio ei amledd ei hun ar y sbectrwm radio, felly mae angen eu gwirio a’u trwyddedu i sicrhau bod sbectrwm yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel a heb ymyrryd â thechnolegau eraill.

Spectrum Monitoring

Roedd profiad Ofcom o gynllunio a goruchwylio digwyddiadau mawr yn y DU, fel Glastonbury ac Euro 2020, yn golygu bod ein harbenigwyr mewn sefyllfa dda i helpu ein cymheiriaid yn Ffrainc i baratoi ar gyfer y gemau.

Backstage

Roedden ni yno mor gynnar â mis Mawrth, yn rhannu ein harbenigedd ac yn profi cyn i’r digwyddiad ddechrau. Arhosom yno i gefnogi gwaith yr ANFR yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd hefyd.

Olympics 2024

Ymweliad gan ein Prif Weithredwr

Yn ystod y Gemau Paralympaidd, fe wnaeth ein Prif Swyddog Gweithredol Melanie Dawes groesi'r Sianel i gael gweld â’i llygaid ei hun sut roedd ein cydweithwyr wedi bod yn gweithio mewn lleoliadau ar hyd a lled Paris i sicrhau bod y darllediadau’n rhedeg yn ddidrafferth.

Bu’n ymweld â lleoliad Paralympaidd yr ‘Invalides’ ym Mharis, lle cafodd ei chyfarch gan Lywydd a Chyfarwyddwr Cyffredinol ANFR. Roedd ei chydweithwyr o Ofcom – Bryan Mason, Uwch Beiriannydd Sicrhau Sbectrwm Arweiniol, a Camilla Bustani, Cyfarwyddwr Rhyngwladol – yno’n gwmni iddi.

ANFR OFCOM

Yn ystod ei hymweliad, cafodd Melanie gip y tu ôl i’r llenni, lle roedd peirianwyr yn monitro am unrhyw ymyriant sbectrwm. Cafodd hefyd weld rhywfaint o bara-saethyddiaeth yn fyw, gan gynnwys tîm Paralympaidd Prydain Fawr a aeth ymlaen i ennill medal aur.

Roedd cydweithwyr yn ANFR yn awyddus i ddiolch i Ofcom am y gefnogaeth a’r arbenigedd a ddarparwyd gan ein peirianwyr yng Ngemau Paris 2024, a hefyd am fentrau blaenorol – fel pan fu staff ANFR ac aelodau o’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC) yn ymweld ag Ofcom yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 yn Birmingham, i arsylwi sut roedden ni wedi cyflawni gweithrediadau sicrwydd yno.

Hefyd yn ystor ei hymweliad, cafodd Melanie gyfarfodydd gyda Chadeirydd ac Aelodau Bwrdd Arcep (rheoleiddiwr telegyfathrebiadau Ffrainc) i drafod pynciau fel rheoleiddio telegyfathrebiadau, deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (GenAI), mynd i’r afael â sgamiau, a chynaliadwyedd. O’r fan honno, aeth ar draws Paris i gwrdd â Llywydd ac Aelod o Fwrdd Arcom (rheoleiddiwr cyfryngau Ffrainc), lle trafodwyd lluosogrwydd yn y cyfryngau, rhyddid mynegiant, a chydweithio rhyngwladol ym maes diogelwch ar-lein.

Yn ôl i'r brig