Gŵyl Glastonbury yw un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf y DU – eleni daeth 210,000 o bobl i’r digwyddiad i wylio’r artistiaid niferus ac yn eu plith Dua Lipa, Coldplay a SZA.
Ac er bod y torfeydd mwyaf yn heidio i wylio’r perfformwyr ar y prif lwyfan Pyramid, mae llawer iawn mwy i’w weld yno. Mae’n ddigwyddiad enfawr gydag artistiaid a pherfformwyr yn diddanu ar draws mwy na 100 o lwyfannau.
Mae digwyddiad o’r maint hwn – gyda pherfformiadau o bob lliw a llun – yn dibynnu ar lawer iawn o offer i redeg yn esmwyth. Mae llawer o’r cyfarpar hwn, gan gynnwys microffonau di-wifr, monitorau clust, camerâu a dyfeisiau di-wifr eraill, yn defnyddio sbectrwm radio i weithredu.
Mae angen mwy o offer di-wifr ar rai o’r perfformiadau nag eraill – er enghraifft eleni, roedd Coldplay wedi defnyddio 140 o amleddau gwahanol ar gyfer eu holl offer, gan gynnwys 42 o fonitorau clust.
Ac fel arfer, roedd Ofcom ar y safle i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn hwylus yn hyn o beth.
Rhaid trwyddedu’r holl offer di-wifr hyn a’u rheoli’n ofalus i wneud yn siŵr nad yw’n achosi unrhyw ymyriant – naill ai gydag unrhyw gitiau perfformio eraill neu gydag offer cyfathrebu sy’n cael eu defnyddio yn yr ŵyl ac yn y cyffiniau. I wneud hyn, rhaid i bob darn o offer ddefnyddio ei amledd ei hun ar y sbectrwm radio.
Mae ein tîm trwyddedu a’n tîm gwneud rhaglenni a digwyddiadau arbennig (tîm PMSE) yn gweithio’n galed cyn ac yn ystod y digwyddiad, gan gyhoeddi trwyddedau ar gyfer yr amleddau a ddefnyddir gan yr offer ac mae ein timau wrth law i helpu i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau.
Eleni, fe wnaethom drwyddedu dros 2,000 o amleddau unigo. Ac am y tro cyntaf eleni, defnyddiwyd band sbectrwm a oedd newydd gael ei awdurdodi.
Ni chafwyd unrhyw adroddiadau o ymyriant yn ystod y digwyddiad, sy’n golygu bod popeth wedi mynd yn hwylus diolch i waith caled ein timau.
Roedd cyfarwyddwr cynllunio sbectrwm Ofcom, Graham Plumb, wedi mynychu’r ŵyl gyda’n timau i gadw golwg ar y gwaith paratoi. Tynnodd y lluniau hyn sy’n rhoi blas ar yr holl waith sy’n mynd rhagddo wrth lwyfannu digwyddiad mor fawr.