Cwestiynau cyffredin am EMF

Cyhoeddwyd: 6 Mawrth 2024

Mae'r dudalen hon yn ateb rhai cwestiynau y gallai fod gennych am rôl Ofcom mewn perthynas â meysydd electromagnetig (EMF).

Mae Ofcom yn awdurdodi ac yn rheoli’r defnydd o sbectrwm radio yn y DU drwy gyhoeddi trwyddedau a/neu drwy osod amodau ar gyfer defnyddio sbectrwm ar sail eithriad trwydded.

Rydym hefyd yn mesur lefelau meysydd electromagnetig (EMF) amleddau radio a gallwn gymryd camau yn erbyn trwyddedeion os bydd y lefelau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol ar amlygiad i EMF yn cael eu torri. Mae ystod eang o bwerau gorfodi ar gael i ni os bydd methiant i gydymffurfio, gan gynnwys y pŵer i osod dirwyon, cychwyn achos troseddol a dirymu trwyddedau sbectrwm, os ystyrir bod y camau hyn yn briodol.

Nid ydym yn gorff iechyd cyhoeddus. Mae Public Health England (PHE) yn gyfrifol am faterion iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig ag EMF ac rydym yn cymryd eu cyngor i ystyriaeth wrth gyflawni ein swyddogaethau rheoli sbectrwm. Prif gyngor PHE yw y dylai lefelau EMF gydymffurfio â'r lefelau cytunedig yng Nghanllawiau ICNIRP. Felly, dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am effaith bosib dyfeisiau sy'n allyrru pelydriad electromagnetig ar iechyd at PHE. Mae rhagor o wybodaeth am gylch gwaith Ofcom a PHE ar gael yn ein datganiad ar gydymffurfiaeth EMF (PDF, 140.6 KB) (gweler Adran 3) a'n diweddariad ar gydymffurfiaeth EMF (PDF, 629.6 KB) (gweler Adran 3).

Nid oes gennym ychwaith unrhyw ran yn y broses o gynllunio adeileddu ffisegol fel mastiau, adeiladau etc. a all gynnal offer radio, Mater i awdurdodau cynllunio lleol yw hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we mastiau a chynllunio ac yn ein datganiad ar gydymffurfiaeth EMF (PDF, 1.1 MB) (PDF, 1.1 MB)(gweler paragraffau 4.37 – 4.43).

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yw adran llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddiogelu ein hamgylchedd naturiol.

Mae 5G yn cael ei reoleiddio mewn nifer o ffyrdd. Rôl Ofcom yw gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant i helpu’r DU i fod yn arweinydd byd-eang mewn 5G.

Rydym yn darparu rhagor o wybodaeth am rôl Ofcom mewn perthynas â 5G ar ein tudalen we 'Beth yw 5G?' a'n dogfen drafod, Galluogi 5G yn y DU.

Mae ein cynlluniau gwaith blynyddol yn cynnwys y gwaith rydym yn bwriadu ei wneud mewn perthynas â 5G.

Fel y rheoleiddiwr cyfathrebiadau rydym yn cywain gwybodaeth, sy'n cynnwys gwybodaeth a ddarperir gan weithredwyr rhwydwaith symudol y DU am eu safleoedd ffôn symudol, i gynorthwyo, er enghraifft, gyda'n hadroddiadau Cysylltu'r Gwledydd a seilwaith.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth EM wedi codi pryderon sylweddol gydag Ofcom ynghylch rhyddhau gwybodaeth am leoliadau mastiau ffôn symudol ar sail diogelwch cenedlaethol ac wedi cynghori y byddai datgelu'r wybodaeth hon yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch cenedlaethol.

Gan gymryd cyngor Llywodraeth y DU i ystyriaeth, ein barn ar hyn o bryd yw bod y rhesymau o blaid dal gwybodaeth yn ôl am leoliadau mastiau ffôn symudol yn drech na budd y cyhoedd o ran ei datgelu.

Mae rhagor o wybodaeth am y fframwaith statudol perthnasol ac asesiadau budd y cyhoedd diweddar rydym wedi'u cynnal ar gael ar ein gwefan.

Nid yw Ofcom yn cadw gwybodaeth am ble a phryd y bydd mastiau telathrebu neu 5G yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol.

Mae gan weithredwyr rhwydwaith symudol drwyddedau a roddir gan Ofcom sy'n awdurdodi'r defnydd o flociau o sbectrwm yn genedlaethol ar sail niwtraliaeth technoleg a gwasanaeth.  Mae'r rhwydweithiau MNO yn hunan-gynllunio o ran cyflwyno safleoedd a thechnoleg symudol ledled y DU a gallant benderfynu pa dechnoleg i'w defnyddio neu ba wasanaeth i'w darparu mewn band amledd penodol cyn belled â'i fod yn cydymffurfio â'r amodau technegol rydym wedi'u pennu.

Cyhoeddir copïau o drwyddedau'r rhwydweithiau MNO ar ein gwefan yn band eang symudol a di-wifr o dan 5 GHz a band eang symudol a di-wifr uwchben 5 GHz. Cyhoeddir gwybodaeth dechnegol arall sy'n ymwneud â thrwyddedau'r rhwydweithiau MNO o dan 'Gwybodaeth amlder a thechnegol' ar ein tudalen band eang symudol a di-wifr.

Fodd bynnag, efallai y bydd gwefannau'r rhwydweithiau MNO yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'u cynlluniau ar gyfer defnyddio 5G yn y dyfodol ac mae gan bob un o'r pedwar MNO (Vodafone, O2, EE a Three) fapiau darpariaeth ar eu gwefannau, sydd ar gael i'r cyhoedd, y gellir eu chwilio i weld a oes gan ardal benodol ddarpariaeth 5G.

hree) have coverage prediction maps on their websites, available to the public, which can be searched to see whether an area has 5G coverage.

Mae Ofcom yn gwneud mesuriadau o lefelau amlygiad i EMF ger mastiau ffôn symudol. Mae ein gwefan yn darparu gwybodaeth am brofion a mesuriadau diweddar o lefelau EMF yr ydym wedi'u gwneud ger mastiau ffôn symudol. Mae ein mesuriadau, sy'n cael eu cyhoeddi'n rhyngwladol, wedi dangos yn gyson bod lefelau EMF yn is o lawer na’r lefelau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol a gyhoeddir yng Nghanllawiau ICNIRP.

Dim ond gwybodaeth am lefelau amlygiad i EMF yn y lleoliadau a nodir yn yr adroddiadau ar ein gwefan sydd gennym.  Fodd bynnag, byddwn yn parhau i wneud mesuriadau EMF a chyhoeddi’r canlyniadau ar ein gwefan.

Os ydych eisiau gwybodaeth am amlygiad i EMF o fast yn eich ardal nad yw wedi'i nodi ar ein gwefan, gallwch ofyn i Ofcom gymryd mesuriadau. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar gael ar ein gwefan.

Mae gan weithredwyr rhwydwaith symudol drwyddedau a roddir gan Ofcom sy'n awdurdodi defnyddio blociau sbectrwm yn genedlaethol. Mae'r rhywdweithiau MNO yn hunan-gynllunio'r broses o gyflwyno safleoedd a thechnoleg symudol ledled y DU er y gallai fod angen caniatâd cynllunio arnynt, er enghraifft, os ydynt yn adeiladu mast newydd neu mewn rhai amgylchiadau, uwchraddio mastiau sy'n bodoli eisoes.

Nid oes gan Ofcom unrhyw gyfranogiad yn y broses gynllunio ar gyfer adeileddau ffisegol a allai gynnal offer radio (megis mastiau, adeiladau, polion golau neu ddodrefn stryd arall), nac wrth orfodi'r gyfraith gynllunio. Mater i awdurdodau cynllunio lleol yw hwn. Mae'r MHCLG – y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn gyfrifol am bolisi cynllunio yn Lloegr. Yn benodol, mae Adran 10 (paragraffau 112–116) Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol MHCLG (Chwefror 2019) yn amlinellu'r meini prawf cynllunio ar gyfer y seilwaith cyfathrebu yn Lloegr.

Ceir hefyd Cod arfer gorau ar ddatblygu rhwydweithiau symudol yn Lloegr. Mae'r Cod Ymarfer hwn yn esbonio bod y rhwydweithiau MNO wedi ymrwymo i gydymffurfio â lefelau amlygiad y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol i feysydd electromagnetig ac yn ei gwneud yn ofynnol i rwydweithiau MNO lofnodi datganiad yn cadarnhau eu bod wedi cydymffurfio â'r lefelau hyn wrth wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer safle newydd neu newid i safle sy'n bodoli eisoes.

Mae awdurdodau cynllunio unigol yn gweinyddu'r cyfreithiau cynllunio yn lleol ac yn rhoi caniatâd i adeiladu drwy'r broses gynllunio arferol. Os oes gennych unrhyw farn neu gwestiynau am geisiadau cynllunio ar gyfer unrhyw safle penodol, gallwch gyfeirio'r rheiny at yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Mastiau a chynllunio ac yn ein datganiad ar gydymffurfiaeth EMF (gweler paragraffau 4.37 – 4.43).

Yn y DU, mae Public Health England (PHE) yn arwain ar faterion iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â meysydd electromagnetig (EMF) o amleddau radio, ac mae'n ddyletswydd statudol arno i roi cyngor i Lywodraeth y DU ynghylch unrhyw effeithiau iechyd a allai gael eu hachosi gan amlygiad i EMF. Mae PHE yn cyhoeddi gwybodaeth am effeithiau posib amlygiad i EMF ar iechyd ar ei wefan.

Prif gyngor PHE yw y dylai lefelau EMF gydymffurfio â'r lefelau cytunedig yng Nghanllawiau ICNIRP. Mae'r Canllawiau hyn yn cwmpasu amleddau rhwng 100 kHz a 300 GHz, sef yr holl ddefnydd presennol ac arfaethedig ar gyfer telathrebu symudol yn y DU yn y dyfodol (gan gynnwys gwasanaethau 5G newydd).

Mae cyngor cyhoeddedig gan PHE a chyrff iechyd eraill a gydnabyddir yn rhyngwladol gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a'r Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelwch Pelydriad Anionieddiol (ICNIRP) yn cefnogi'r farn nad yw amlygiad i EMF islaw'r terfynau a argymhellir yng Nghanllawiau ICNIRP i'w weld yn cael unrhyw effaith ar iechyd y gwyddys amdani.

Nid yw Ofcom yn gorff iechyd cyhoeddus ac nid oes ganddi arbenigedd ym meysydd meddygaeth ac iechyd. Nid ydym yn cynnal unrhyw astudiaethau sy'n ymwneud â risgiau iechyd posib o amlygiad i EMF. Mae rhagor o wybodaeth am gylch gwaith Ofcom a PHE ar gael yn ein datganiad ar Gydymffurfiaeth EMF (PDF, 140.6 KB) (gweler Adran 3) a'n diweddariad ar Gydymffurfiaeth EMF (PDF, 629.6 KB) (gweler Adran 3).

Yn y tymor byr, mae 5G yn cael ei ddefnyddio ar fastiau symudol presennol, ond dros amser, efallai y bydd defnydd cynyddol o 'gelloedd bach' (trawsyryddion llai sy'n cwmpasu ardal lai), a gall hyn gynnwys gosodiadau ar ddodrefn stryd, polion golau etc.

Gall celloedd bach (gan gynnwys unrhyw rai sydd wedi'u gosod ar ddodrefn stryd) fod yn ddefnyddiol o ran darparu capasiti mewn lleoliadau penodol sydd â galw mawr a dwys am fand eang di-wifr. Er y gallai fod angen mwy o 'gelloedd bach', byddant yn gweithredu ar bŵer is na'r 'safleoedd macro' presennol (h.y. mastiau symudol presennol).

Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd yr amlygiad cyfanredol i EMF o gelloedd bach lluosog yn wahanol iawn i'r hyn a geir o safleoedd macro. Y naill ffordd na'r llall, bydd yn ofynnol i weithredwyr symudol sicrhau nad yw eu holl safleoedd, yn unigol ac yn gyfanredol, yn mynd y tu hwnt i'r terfynau EMF cyhoeddus cyffredinol yng Nghanllawiau ICNIRP.

Nodwn hefyd fod rhai adeiladau, adeileddau, polion golau a dodrefn stryd arall wedi cael eu defnyddio fel mannau gosod offer radio ers degawdau lawer, gan ddarparu ystod o wasanaethau (fel Wi-Fi cyhoeddus a rheoli/monitro teledu cylch cyfyng) trwy dechnolegau amrywiol. Er y bydd dodrefn stryd heddiw, ac yn y dyfodol, yn cludo 5G o bosib, nid cysyniad newydd mo hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am 5G ar gael yn ein canllaw i dechnoleg 5G (PDF, 604.2 KB) (PDF, 604.2 KB) a'n tudalen ' Beth yw 5G'.

Mae Ofcom yn cymryd mesuriadau o lefelau amlygiad i EMF ger mastiau ffôn symudol 5G. Rydym wedi canolbwyntio'n benodol ar ardaloedd prysur lle y byddem yn disgwyl gweld y lefelau uchaf o ddefnyddio ffonau symudol. Rydym hefyd wedi ceisio cymryd mesuriadau mewn lleoliadau sy'n hygyrch i'r cyhoedd â'r signal cryfach ger y safle symudol (gweler tudalen 12 ein hadroddiad cryno ar brofion EMF (PDF, 973.8 KB) (PDF, 973.8 KB) am ragor o wybodaeth).

Mae'r holl fesuriadau yr ydym wedi'u cymryd yn y rhaglen hon hyd yma wedi bod ymhell o fewn y terfynau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol ar gyfer amlygiad i EMF yng Nghanllawiau ICNIRP.

Byddwn yn parhau i gymryd mesuriadau EMF a chyhoeddi’r canlyniadau ar ein gwefan.

Mae'r defnydd presennol o 5G yn ailddefnyddio amleddau sydd wedi cael eu defnyddio ers blynyddoedd lawer. Er y bydd 5G, yn y dyfodol, yn dechrau defnyddio amleddau uwch na'r rhai a ddefnyddir ar hyn o bryd gan rwydweithiau di-wifr (e.e. amleddau mmWave), nid yw'r defnydd o'r amleddau hyn yn newydd ychwaith. Mae 5G yn ailddefnyddio sbectrwm a ddefnyddiwyd yn flaenorol i ddarparu gwasanaethau fel darllediadau teledu, band eang di-wifr a chysylltiadau lloeren, linciau microdon pwynt-i-bwynt ynghyd â mathau eraill o drawsyriadau sydd wedi bodoli yn yr amgylchedd ers blynyddoedd lawer.

Mae'r terfynau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol yng Nghanllawiau ICNIRP hefyd yn berthnasol i amleddau a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau 5G yn yr un modd ag y maent yn berthnasol i amleddau a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau eraill.

Mewn perthynas â 5G, mae PHE wedi dweud mai’r “disgwyliad yw y bydd yr amlygiad cyffredinol yn parhau’n isel o’i gymharu â’r canllawiau, a chan hynny, ni ddylai fod unrhyw oblygiadau ar gyfer iechyd y cyhoedd”.

Darparwn ragor o wybodaeth am y cwestiwn hwn yn ein canllaw i dechnoleg 5G (PDF, 604.2 KB).

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yw adran llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddiogelu ein hamgylchedd naturiol.

Nodwn nad oes yr un o'r adroddiadau neu'r asesiadau amgylcheddol y cyfeirir atynt yn yr atebion i gwestiynau ar y pwnc hwn a ofynnwyd gan Aelodau Seneddol wedi nodi bod amlygiad i EMF yn fygythiad sylweddol i'r amgylchedd. Yn hytrach, maent wedi amlygu bygythiadau allweddol fel colli cynefinoedd, defnydd amhriodol o blaleiddiaid a rhywogaethau goresgynnol. Gweler, er enghraifft, y nodyn canlynol o 2018 ar gasgliad yr astudiaeth 'EKLIPSE' a ariannwyd gan yr UE sy'n dweud mai"ychydig iawn o astudiaethau ecolegol sy'n bodoli, ond pan fyddant, mae'r effeithiau [EMF] a adroddir yn ddibwys, yn wrthgyferbyniol, neu nid oes modd eu gwahanu oddi wrth ffactorau amgylcheddol eraill”.

Nodwn hefyd ei bod yn ofynnol i weithredwyr rhwydwaith symudol a chynghorau lleol gymryd materion amgylcheddol i ystyriaeth wrth gyflwyno/asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer mastiau newydd. Gweler, er enghraifft, y Cod arfer gorau ar ddatblygu rhwydweithiau symudol yn Lloegr (yn benodol, tudalennau 27, 32, 36-37 a 39-40).

Nid oes un pellter diogel unigol o fast ffôn symudol. Fel y mae ICNIRP (y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelwch Pelydriad Anionieddiol) yn ei nodi ar ei wefan, "gall llawer o ffactorau, megis uchder, teils a chyfeiriad erialau, amsugniad o ganlyniad i goed a phlanhigion neu adlewyrchiadau o adeiladau, yn ogystal â phellter, ddylanwadu ar yr amlygiad gwirioneddol. Nid yw pellter yn unig yn brocsi dibynadwy ar gyfer amlygiad i drawsyrrydd.”

Y prif gyngor gan Public Health England (PHE) yw y dylid mabwysiadu Canllawiau ICNIRP ar gyfer cyfyngu ar amlygiad i EMF. Mae cyngor cyhoeddedig gan PHE a chyrff iechyd eraill a gydnabyddir yn rhyngwladol gan gynnwys ICNIRP a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cefnogi'r farn nad yw amlygiad i EMF islaw'r terfynau a argymhellir yng Nghanllawiau ICNIRP i'w weld yn cael unrhyw effaith y gwyddys amdani ar iechyd.

Rydym wedi cymryd mesuriadau EMF ger mastiau ffôn symudol ers blynyddoedd lawer. Mae'r holl fesuriadau hyn wedi dangos lefelau amlygiad i EMF sydd ymhell o fewn Canllawiau ICNIRP ar gyfer amlygiad cyffredinol y cyhoedd.

Mae Public Health England (PHE) wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan ynglŷn â thonnau radio Wi-Fi ac iechyd. Felly, dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am effaith bosib dyfeisiau sy'n allyrru pelydriad electromagnetig ar iechyd at PHE.

Nodwn hefyd fod deddfwriaeth diogelwch cynnyrch, sy'n nodi gofynion o ran iechyd a diogelwch, yn cwmpasu offer Wi-Fi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein datganiad ar gydymffurfiaeth EMF (PDF, 140.6 KB) (gweler paragraffau 4.32 - 4.36) ac ar ein gwefan.

Fel y rheoleiddiwr cyfathrebu rydym yn cywain gwybodaeth, sy'n cynnwys gwybodaeth a ddarperir gan weithredwyr rhwydwaith symudol y DU am eu safleoedd ffôn symudol, er enghraifft, i gynorthwyo gyda'n hadroddiadau Cysylltu'r Gwledydd a seilwaith.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth EM wedi codi pryderon sylweddol gydag Ofcom mewn perthynas â rhyddhau gwybodaeth am leoliadau mastiau ffôn symudol ar sail diogelwch cenedlaethol ac wedi cynghori y byddai datgelu'r wybodaeth hon yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch cenedlaethol.

Ystyrir ceisiadau am wybodaeth am leoliad mastiau ffôn symudol o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 ('EIR') yn hytrach na Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. O dan ddarpariaethau EIR, gallwn wrthod datgelu gwybodaeth os byddai'n cael effaith andwyol ar ddiogelwch cenedlaethol ac o dan holl amgylchiadau'r achos, mae budd y cyhoedd o blaid cynnal yr eithriad yn drech na budd y cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth (rheoliad 12(1) a (5)(a) EIR).

Gan gymryd cyngor Llywodraeth y DU i ystyriaeth, ein barn ar hyn o bryd yw bod y rhesymau o blaid dal gwybodaeth yn ôl am leoliadau mastiau ffôn symudol yn drech na budd y cyhoedd o ran ei datgelu.

Mae rhagor o wybodaeth am y fframwaith statudol perthnasol ac asesiadau budd y cyhoedd rydym wedi'u cynnal yn ddiweddar ar gael ar ein gwefan. Gweler (yn Saesneg yn unig):

Yn ôl i'r brig