Datganiad: Newidiadau i ofynion adrodd am reoleiddio'r Post Brenhinol

Cyhoeddwyd: 20 Medi 2022
Ymgynghori yn cau: 1 Tachwedd 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae Ofcom eisiau i bobl gael mynediad at wasanaethau post syml, fforddiadwy a dibynadwy sy'n diwallu eu hanghenion.

Ym mis Gorffennaf 2022, bu i ni gyhoeddi ein datganiad adolygiad o reoleiddio'r post. Roedd hyn yn cynnwys penderfyniad i gryfhau ein cyfundrefn fonitro i sicrhau bod y gwasanaeth post cyffredinol yn gynaliadwy ac yn effeithlon.

Bydd yn ofynnol yn awr i'r Post Brenhinol gyflwyno trosolwg blynyddol o gynaladwyedd ariannol y gwasanaeth cyffredinol dros gyfnod o bum mlynedd. Bydd hefyd yn ofynnol iddo ddarparu rhagolwg manwl o effeithlonrwydd bob pum mlynedd; ac i gyhoeddi dau fesur o'i ddisgwyliadau o ran effeithlonrwydd o'r rhagolwg hwnnw. Bydd yn ofynnol iddo adrodd ar gynnydd yn erbyn y disgwyliadau hynny ar sail flynyddol.

Bu i ni ymgynghori ar ein cynigion manwl ar gyfer y rhagolygon hyn a'r adrodd blynyddol, ac mae'r datganiad hwn yn cadarnhau nhw. Bydd y newidiadau i'r gofynion adrodd yn dod i rym ar ddechrau blwyddyn ariannol 2023/24.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Royal Mail Regulatory Reporting team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig