Yn dilyn llawer o ymgynghori â rhanddeiliaid ac ymchwil defnyddwyr, rydym yn cynnig pecyn o ddiwygiadau i’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol (USO) ar y Post Brenhinol a newidiadau cyfatebol i rwymedigaeth y Post Brenhinol i ddarparu mynediad i’w rwydwaith llythyrau.
Newidiadau i amlder danfon llythyrau Ail Ddosbarth
Ar hyn o bryd mae’r USO yn mynnu bod llythyrau Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth yn cael eu danfon chwe diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Sadwrn).
- Rydym yn cynnig dileu’r gofyniad ar y Post Brenhinol i ddanfon llythyrau Ail Ddosbarth chwe diwrnod yr wythnos a chaniatáu iddo ddanfon llythyrau o’r fath bob yn ail ddiwrnod yn ystod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener). Mae’r newid hwn yn adlewyrchu’r ffaith nad oes angen dau wasanaeth chwe-diwrnod-yr-wythnos ar ddefnyddwyr post mwyach i ddiwallu eu hanghenion a'i fwriad yw cefnogi cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth.
- Byddwn yn cynnal y gofynion i ddanfon llythyrau Dosbarth Cyntaf – byddant yn dal i gael eu danfon y diwrnod canlynol, chwe diwrnod yr wythnos.
- Byddwn yn cynnal manyleb bresennol yr USO ar gyfer parseli.
Ansawdd gwasanaethau
Mae’n rhaid i’r Post Brenhinol gyrraedd targedau ansawdd gwasanaeth penodol i’w gymell i ddarparu gwasanaeth o safon uchel.
Rydym yn cynnig cyflwyno targedau post hwyr newydd i adlewyrchu’r ffaith bod defnyddwyr post bellach yn gwerthfawrogi gwasanaeth dibynadwy yn hytrach na gwasanaeth cyflym. Ar gyfer post Dosbarth Cyntaf, byddai’n rhaid danfon 99.5% o fewn tri diwrnod i bostio. Ar gyfer post Ail Ddosbarth, byddai’n rhaid danfon 99.5% o fewn pum niwrnod i bostio.
Rydym yn cynnig newid y prif darged ar gyfer danfon post Dosbarth Cyntaf y diwrnod canlynol o 93% i 90% a newid y prif darged ar gyfer danfon post Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod o 98.5% i 95% er mwyn adlewyrchu dewisiadau pobl yn well a chefnogi cynaliadwyedd ariannol. Byddai’r targedau arfaethedig yn dal yn uchel yn ôl safonau rhyngwladol. Rydym hefyd yn cynnig ailosod y targed ardal cod post Dosbarth Cyntaf cysylltiedig ar gyfer danfon y diwrnod canlynol o 91.5% i 87%.
Rhwymedigaeth llythyrau mynediad
‘Post swmp’ yw’r rhan fwyaf o’r llythyrau a anfonir heddiw – y llythyrau a anfonir gan sefydliadau mawr megis banciau, adrannau’r llywodraeth, y GIG neu awdurdodau lleol. Anfonir y llythyrau hyn y tu allan i’r gwasanaeth cyffredinol. I gefnogi cystadleuaeth yn y farchnad hon, rydym yn mynnu bod y Post Brenhinol yn darparu mynediad i’w rwydwaith llythyrau, sy’n golygu bod yn rhaid iddo ddanfon llythyrau sy’n cael eu casglu gan gwmnïau post eraill. Er mwyn gwireddu manteision diwygio’r USO, mae angen newid y rhwymedigaethau mynediad sydd ar y Post Brenhinol i sicrhau ei fod yn gallu gweithredu’r un model danfon bob yn ail ddiwrnod yn ystod yr wythnos ar gyfer y mwyafrif helaeth o bost. Nod ein cynigion yw galluogi hyn wrth barhau i gefnogi marchnad gystadleuol ar gyfer post swmp sy’n diwallu anghenion sefydliadau mawr a’u cwsmeriaid.
- Mae’r Post Brenhinol yn cyflwyno gwasanaeth mynediad newydd i ddanfon bob yn ail ddiwrnod yn ystod yr wythnos, a fyddai’n ceisio danfon llythyrau o fewn tri diwrnod yn ystod yr wythnos (D+3) ar ôl casglu gan yr anfonwr. Rydym yn cynnig rheoleiddio’r gwasanaeth newydd hwn yn yr un ffordd ag yr ydym yn rheoleiddio’r gwasanaethau mynediad presennol ar hyn o bryd.
- Byddwn yn parhau i reoleiddio’r gwasanaeth mynediad D+2 presennol ar gyfer post swmp â blaenoriaeth, o leiaf tra bydd y farchnad yn ymateb i’r diwygio.
- Rydym hefyd yn cynnig dileu danfon ar ddydd Sadwrn o wasanaethau mynediad D+5.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad.
Prif ddogfennau
Sut i ymateb
Future development of the postal USO team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA