Neidio i'r cynnwys
Global Search

Dolenni cyflym



English

Galwadau marchnata awtomatig

Cyhoeddwyd: 6 Ebrill 2021

Nid yw pob galwad farchnata yn alwad gan ganolfan alwadau sy'n ceisio gwerthu cynnyrch-weithiau dim ond clywed neges wedi ei recordio y byddwch chi.

Mae'n bosibl y bydd y negeseuon hyn yn honni bod iawndal yn ddyledus i chi, oherwydd damwain bersonol o bosibl neu oherwydd bod polisi yswiriant wedi cael ei gamwerthu i chi, neu dim ond ceisio marchnata cynnyrch neu wasanaeth i chi, o bosibl.

Mae'r canllaw hwn yn esbonio rhagor am alwadau marchnata sy'n cynnwys negeseuon wedi eu recordio a beth allwch chi ei wneud i'w stopio.

Os nad oedd y neges yn cynnwys unrhyw farchnata, ond yn neges wybodaeth gan gwmni yn dweud ei fod wedi ceisio eich ffonio chi ond nad oes staff yn rhydd i gymryd yr alwad, gelwir hyn yn 'alwad sy'n cael ei gadael'. Gallwch ddysgu rhagor am hyn drwy ddarllen y canllaw am alwadau mud a galwadau sy'n cael eu gadael.

Mae sawl pwrpas i’r galwadau hyn. Er enghraifft:

Rheoli hawliadau - mae’r rhain yn ymwneud yn bennaf â hawliadau am anafiadau personol a hawliadau am gamwerthu yswiriant gwarchod taliadau (PPI).

Rheoli dyledion – mae’r negeseuon hyn yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau rheoli dyledion.

Mae sefydliadau’n defnyddio’r galwadau hyn i greu rhestr o gwsmeriaid posibl y maent wedyn yn ei gwerthu i gwmnïau sy’n cynnig y gwasanaeth yn y neges.

Yn achos hawliadau anafiadau personol, byddai’r rhestr yn cynnwys enwau pobl sydd â diddordeb mewn hawlio iawndal am anaf personol.

Mae’r rhestr hon wedyn yn cael ei gwerthu i gwmni sy’n rheoli hawliadau anafiadau personol. Bydd yn cysylltu â’r bobl ar y rhestr ac yn cynnig iddynt y gwasanaethau y maent yn eu darparu ar gyfer delio â hawliadau posibl.

Mae’n bosibl y bydd y galwadau hyn yn gofyn i chi bwyso ar rif er mwyn siarad ag asiant byw. Gallwch wrth gwrs ddewis rhoi’r ffôn i lawr. Ond, os byddwch yn derbyn neges farchnata awtomatig ac yn dewis gwasgu rhif i siarad â rhywun, ni fydd raid i chi dalu am yr alwad.

Os oedd rhif ffôn wedi ei gynnwys yn yr alwad, byddem yn eich cynghori i beidio â ffonio’r rhif, oni bai eich bod yn gyfarwydd â’r cwmni sy’n ceisio cysylltu â chi. Os byddwch yn penderfynu ffonio’r rhif, bydd costau’r alwad yn dibynnu ar sawl ffactor, fel y rhif y gwnaethoch ei alw ac a ydych yn galw o’ch ffôn llinell dir neu o’ch ffôn symudol, fel y nodir yn ein canllaw ar gostau galwadau.

Rhaid i gwmnïau neu sefydliadau sy’n gwneud galwadau marchnata awtomatig gael eich caniatâd chi cyn iddyn nhw eich ffonio.

Os ydych chi’n cael negeseuon marchnata awtomatig a heb roi eich caniatâd ymlaen llaw, gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Y Swyddfa honno sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau yn y maes hwn.

Ceisiwch roi gymaint o wybodaeth â phosibl i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am yr alwad, yn arbennig:

  • y sefydliad a gyflwynodd y neges wedi ei recordio;
  • rhif yr alwad;
  • dyddiad ac amser yr alwad; a
  • natur y gwerthu/marchnata a ddigwyddodd yn ystod yr alwad.

Cwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gallwch gwyno i'r Comisiynydd drwy:

Hyd yn oed os nad ydych yn gwybod pwy wnaeth eich ffonio, mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn dal yn dymuno clywed gennych chi.

Dylech fod yn ymwybodol o alwadau sgam, fel y rheini sy’n gofyn i chi anfon arian ymlaen llaw neu brynu rhywbeth ymlaen llaw cyn i chi gael y wobr neu’r cynnig, gofyn i chi wneud galwadau ffôn drud i gael y wobr neu’r cynnig, neu ofyn i chi am eich manylion banc neu wybodaeth bersonol arall.

Am yr wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am y sgamiau diweddaraf, dylech gysylltu ag Action Fraud - canolfan genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer rhoi gwybod am dwyll. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y ganolfan.

Dylai cwmnïau tramor sy’n galw ar ran sefydliad yn y Deyrnas Unedig barhau i gydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Os ydych chi’n cael galwadau marchnata awtomatig o dramor ar ran cwmni yn y Deyrnas Unedig, dylech ddilyn yr arweiniad sydd wedi ei roi uchod.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig