Galwadau mud a galwadau sy'n cael eu gadael

Cyhoeddwyd: 1 Awst 2023

Mae’r ffôn yn canu, rydych yn brysio i'w ateb, ond does neb ar y lein.

Mae galwadau mud a galwadau sy’n cael eu gadael yn gallu bod yn niwsans ac yn boen ar y gorau.

Ond i rai pobl - er enghraifft, pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain -mae’r galwadau hyn yn gallu codi ofn arnynt.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio rhagor am y galwadau hyn, beth sy’n eu hachosi a beth y gallwch ei wneud amdanynt.

Mae galwad sy’n cael ei gadael yn golygu galwad sy’n dod i ben pan fyddwch yn codi’r ffôn. Yn hytrach na bod rhywun ar ben arall y ffôn, rydych yn clywed neges yn rhoi gwybodaeth gan y cwmni sy’n ceisio’ch ffonio.

Gyda galwad mud, rydych yn cael galwad ond yn clywed dim wrth ateb a does dim modd gwybod a oes unrhyw un ar ochr arall y ffôn.

Dydy’r rhan fwyaf o alwadau mud a galwadau sy’n cael eu gadael ddim yn cael eu gwneud yn fwriadol o anghenraid. Yn hytrach, gallant gael eu hachosi gan y dechnoleg a ddefnyddir gan sefydliadau i wneud y mwyaf o'r amser y mae eu hasiantau galw defnyddwyr yn ei dreulio yn siarad â defnyddwyr.

Mae'r rhan fwyaf o alwadau sy’n cael eu gadael yn cael eu hachosi gan systemau galw awtomatig o’r enw deialwyr.

Mae’r deialwyr hyn, a ddefnyddir mewn canolfannau galwadau yn bennaf, yn deialu rhifau ffôn yn awtomatig ac yn cysylltu pobl ag asiantau yn y ganolfan alwadau pan fydd yr alwad ffôn yn cael ei hateb.

Ond nid yw deialwyr bob amser yn gweithio fel y bwriadwyd. Er enghraifft, os yw’r deialydd yn gwneud galwad ond dim asiant ar gael yn y ganolfan alwadau i ddelio â'r alwad, efallai y byddwch yn derbyn galwad sy’n cael ei gadael.

Gall galwadau mud ddigwydd, er enghraifft, pan fydd y dechnoleg a ddefnyddir gan ganolfannau galwadau i ganfod peiriannau ateb yn eich camgymryd chi wrth i chi ateb am beiriant ateb, ac yn terfynu’r alwad heb chwarae neges wybodaeth, neu heb i chi glywed dim.

Mae Ofcom yn rhoi sylw i alwadau mud a galwadau sy'n cael eu gadael ac mae wedi cyhoeddi datganiad polisi ar gyfer y diwydiant er mwyn lleihau’r niwed mae’r galwadau hyn yn ei achosi.

Pan fydd rhywun yn gwneud galwadau mud a/neu alwadau sy’n cael eu gadael dro ar ôl tro, gall Ofcom gymryd camau gorfodi, gan gynnwys dirwyo’r sawl sy’n galw hyd at £2 filiwn.

Mae Ofcom yn monitro cwynion am alwadau mud a galwadau sy’n cael eu gadael yn gyson, a gall lansio ymchwiliad os yw’n credu nad yw galwr yn dilyn y gyfraith.

Os ydych chi’n cael galwadau mud neu alwadau sy’n cael eu gadael, rydym yn argymell i chi gymryd y camau canlynol:

Ceisio adnabod y sawl sy’n galw: Dylai pob cwmni sy’n defnyddio deialwyr awtomatig ddarparu rhif Adnabod y Galwr ar sgrin arddangos eich ffôn, a gadael i chi gael rhif ffôn y galwr drwy ddeialu 1471.

Neu dylai’r neges awtomatig o alwad sy’n cael ei gadael ddatgelu enw'r sefydliad a darparu rhif y gallwch ei ffonio er mwyn dweud nad ydych am dderbyn rhagor o alwadau ganddynt.

Cwyno wrth Ofcom

Gallwch gwyno drwy:

  • ffonio ein Tîm Cyswllt Defnyddwyr ar 0300 123 3333
  • gyflwyno cwyno ar-lein
  • neu drwy'r post at: Ofcom, Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, Llundain, SE1 9HA

Dylech geisio darparu cymaint â phosibl o wybodaeth am yr alwad fud neu'r alwad sy'n cael ei gadael, gan gynnwys:

  • enw a rhif y galwr;
  • sawl galwad arall gawsoch chi o'r un rhif; a hefyd
  • dros ba gyfnod ydych chi wedi bod yn cael y galwadau.

Os nad ydych yn gallu adnabod y galwr, dylech gysylltu â'ch cwmni ffôn. Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau ffôn dîm galwadau niwsans, a all roi cyngor i chi am y camau nesaf i’w cymryd.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig