HERO Natalie Black Tech UK speech (1336 × 560px)

Araith: Rheoleiddio i dyfu’r rhwydwaith

Cyhoeddwyd: 12 Chwefror 2025

Araith gan Natalie Black CBE, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom, Cynhadledd Telegyfathrebiadau’r Dyfodol techUK 2025, 6 Chwefror 2025, London.

Prynhawn da.

Diolch am y gwahoddiad i siarad â chi heddiw. Mae’n wych bod yn ôl yn techUK yn fy rôl newydd yn arwain rhwydweithiau a chyfathrebiadau yn Ofcom. Rydw i wedi cael y pleser o weithio gyda techUK ers dros ddeng mlynedd bellach ac yn fwyaf diweddar fel Comisiynydd Masnach cyntaf y DU i Asia a’r Môr Tawel lle sefydlon ni Fforwm Technoleg y DU-APAC a ddaeth â buddsoddwyr i’r DU ac a helpodd cwmnïau technoleg y DU i dyfu yn y rhanbarth.

Mae fy nghyfnod yn byw yn Asia yn sicr wedi codi fy nisgwyliadau o’r hyn y dylem ei ddisgwyl gan ein rhwydweithiau cyfathrebu. Ar ôl i chi gymryd rhan mewn galwad Teams yng nghanol archipelago Indonesiaidd a delio â’ch holl negeseuon e-bost ar drên bwled o Tokyo i Osaka – fyddwch chi ddim yn synnu fy mod i’n dod i’r rôl newydd hon yn gofyn sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod gan y DU y cysylltedd gorau yn y byd.

Yn ôl nawr yn y DU, mae’n briodol ein bod ni yn Ninas Llundain heddiw wrth i mi siarad â chi am reoleiddio i dyfu, a ninnau yng nghanol cadarnleoedd o ddiogelwch a chewri cyfalafiaeth. 

Mae The Old Bailey ar un ochr, a’r Llysoedd Barn Brenhinol ar yr ochr arall. Y naill a’r llall yn sefydliadau i’n diogelu. Ac ar garreg eu drws, yng nghanol ein prifddinas brysur, mae rhai o’r banciau buddsoddi mwyaf yn y byd. 

Mae bod yn y canol rhwng dwy ideoleg sy’n ymddangos yn groes i’w gilydd, yn rhywbeth cyfarwydd i Ofcom. Ond nid dyna sut gwelwn ni bethau mewn gwirionedd. Mae’r naill a’r llall wedi’u hintegreiddio i bopeth a wnawn, yn hytrach na bod yn ymarferion annibynnol ar wahân. 

Yn union fel caiff tystiolaeth ei thafoli ar glorian cyfiawnder i sicrhau dyfarniad teg a diduedd, felly hefyd diogelwch a thwf i sicrhau’r canlyniadau iawn i gwsmeriaid telegyfathrebiadau heddiw ac yn y dyfodol.

Mae defnyddwyr a busnesau yn disgwyl mwy gan eu rhwydweithiau – o’r cefnogwr pêl-droed sy’n eistedd ar drên ac yn ffrydio’r gêm fawr yn fyw, i’r perchennog busnes sy’n eistedd wrth ei ymyl ar alwad fideo. 

Yn ystod y degawd diwethaf, mae faint o ddata band eang mae aelwyd gyffredin yn ei ddefnyddio wedi cynyddu ddeg gwaith – o tua 50 gigabeit y mis i fwy na 500 gigabeit. Ac mae mwy o ddata symudol yn cael ei ddefnyddio hefyd, er gwaethaf y cynnydd mewn WIFI. 

Mae angen i rwydweithiau gyfateb i’r galw hwn. Ond mae hynny’n gofyn am gynllunio a buddsoddi tymor hir. Nid yw twf yn digwydd dros nos. Mae’n gallu digwydd ar ei ben ei hun, ond mae’n fwy tebygol o ddigwydd gydag ychydig o anogaeth. 

Felly, beth mae Ofcom yn ei wneud i ddatgloi cyfleoedd, hybu buddsoddiad, ac agor drysau i arloesi? Sut ydym yn rheoleiddio i dyfu’r rhwydwaith? Wel, hoffwn sôn am dri pheth rydym yn eu gwneud.

Twf mewn band eang

Yn gyntaf, band eang. Nid oedd y DU yn un o’r gwledydd cyntaf i gyflwyno ffeibr llawn yn eang. Mae Singapore, Hong Kong, Tsieina a De Korea i gyd wedi cael mwy na 90% o ddarpariaeth ers tro. A minnau yn byw yn Asia cyn dechrau yn y swydd hon, gwelais y gwahaniaeth y gall cael cysylltiad rhyngrwyd da ei wneud i gymunedau.

Ar ddwy fil ar bymtheg a hanner o ynysoedd Indonesia, mae’n golygu addysg; mae’n golygu swyddi; mae’n golygu cadw mewn cysylltiad â theulu; mae’n golygu taliadau mewn amser real.

Ond rydym wedi bod yn dal i fyny’n gyflym, ac yn ystod y chwe blynedd diwethaf, mae band eang wedi bod yn un o lwyddiannau twf y DU. Mewn gwirionedd, y DU sydd â’r gyfradd gyflymaf o ran cyflwyno ffeibr llawn yn Ewrop. 

Yn 2019, dim ond 7% o gartrefi a swyddfeydd Prydain oedd yn gallu cael gafael ar fand eang ffeibr llawn gwibgyswllt a oedd yn addas i’r dyfodol. Erbyn heddiw mae hynny bellach yn 75%. Fe wnaethom lwyddo i wneud hynny gyda’n gilydd. Agorodd Ofcom y drws, ac roedd y diwydiant yn barod i ateb yr her.

Rydym wedi gweld ffrwyth y cynllunio hirdymor hwnnw y soniais amdano – a ddechreuodd i gyd gyda’n Hadolygiad o Gyfathrebiadau Digidol ddegawd yn ôl. Ers hynny, rydym wedi bod yn mireinio ein hadolygiadau o’r farchnad i greu’r amodau i fuddsoddi mewn rhwydweithiau cystadleuol. 

Ni oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i adolygu – yn ei rhinwedd ei hun – y farchnad ar gyfer y twneli tanddaearol a’r polion telegraff sy’n cludo’r ceblau ffeibr. Roedd hynny’n gwella mynediad at bibellau a pholion Openreach yn sylweddol, i gystadleuwyr a oedd yn gosod eu llinellau eu hunain, gan haneru’r gost gyfalaf i rai newydd-ddyfodiaid. 

Yna, ar ôl blynyddoedd o reoleiddio traddodiadol sy’n seiliedig ar gostau a phrisiau gostyngol, fe wnaethom drawsnewid ein dull o gymell buddsoddiad. Fe wnaethom ganiatáu i Openreach wneud elw. A oedd yn caniatáu i’w gystadleuwyr wneud elw. A doedd dim angen llawer o help arnynt i fynd drwy’r drws agored hwnnw. 

Dechreuodd rhwydweithiau cystadleuol adeiladu ar frys i geisio ennill y fantais gyntaf honno. Roedd hynny yn ei dro wedi sbarduno Openreach i weithredu, ac mae’r gweddill - fel maen nhw’n ei ddweud - yn hanes.

Mae’r gystadleuaeth honno’n sbarduno arloesedd hefyd – gan gynnwys technegau newydd i sbleisio ffeibr; safonau cyswllt data newydd; a systemau monitro modern sy’n golygu bod modd trwsio namau cyn i gwsmeriaid hyd yn oed eu gweld.

Ond dim ond hanner y stori arloesi yw hynny. Mae cysylltiadau cyflymach, mwy dibynadwy yn gallu datgloi manteision i ddefnyddwyr ac i fusnesau nad oeddent wedi’u hystyried o’r blaen. 

Fe wnes i sôn yn gynharach fod aelwyd gyffredin yn y DU yn defnyddio mwy na 500 gigabeit o ddata band eang bob mis. Wel, ymysg aelwydydd sydd â ffeibr llawn, mae’r defnydd cyfartalog hwnnw’n cynyddu 50%, i dros 750 gigabeit y mis. 

Mae’n amlwg bod ein diwygiadau newid wedi rhoi rhywfaint o egni newydd i bethau hefyd, gyda Vodafone yn dweud yr wythnos yma bod ei sylfaen cwsmeriaid band eang wedi cynyddu’r nifer uchaf erioed y chwarter diwethaf, yn sgil lansio Newid Un Cam y llynedd.

Ond nid yw’r gwaith ar ben. Mae miliynau o gartrefi yn dal heb ffeibr llawn. Yn galonogol, os bydd pob rhwydwaith yn cael ei gyflwyno yn ôl y bwriad, gallai 96% o eiddo gael ffeibr llawn erbyn 2027. 

Yn ein hadolygiad ar gyfer 2021 i 2026, roeddem yn cydnabod bod angen sefydlogrwydd a sicrwydd rheoleiddio ar fuddsoddiadau hirdymor fel hyn, a dywedom nad oeddem yn disgwyl cyflwyno prisiau sy’n seiliedig ar gostau ar gyfer gwasanaethau ffeibr tan o leiaf 2031. 

Dyma ein man cychwyn ar gyfer pum mlynedd nesaf y daith hon, y byddwn yn ymgynghori arni fis nesaf.

A byddwn yn parhau i gydbwyso’r glorian drwy ddiogelu cwsmeriaid yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid. Nid tyfu ar draul popeth arall yw hyn. Oes, mae arnom eisiau i bobl gael rhwydweithiau cyflymach. Ond mae arnyn nhw hefyd eisiau rhwydweithiau diogel a fforddiadwy, ac mae arnyn nhw eisiau cael eu symud yn ddiogel o’r hen i’r newydd. 

Rydym yn gwbl bendant am hyn, ac fyddwn ni ddim yn derbyn twf sy’n arwain at niwed i ddefnyddwyr. 

Ar y pwynt hwn, hoffwn gydnabod gwaith caled pawb yn y sector telegyfathrebiadau yn ystod y stormydd diweddar, i geisio lleihau’r tarfu ar wasanaethau ffôn a band eang pobl, gydag ymdrechion i ailgysylltu cwsmeriaid yn dal i fynd rhagddynt mewn rhai ardaloedd. 

Twf mewn darpariaeth symudol

Felly, rydw i wedi siarad am yr hyn sy’n digwydd gyda’r ceblau band eang o dan ein traed ac yn ein cartrefi. Rwyf am edrych ar ddarpariaeth symudol nawr – er gwaethaf y chwyldro gweithio o bell, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am ddata symudol.

Does dim dwywaith bod y gystadleuaeth ym marchnad symudol y DU yn ffyrnig. Mae ein data’n dangos bod prisiau cyfartalog 5% yn is mewn termau real yn 2024 nag yn 2023, a 23% yn is nag yn 2019 – er bod y data sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfartaledd wedi treblu dros y cyfnod hwn. Mae pobl yn cael mwy am lai. 

Mae hyn yn dilyn cyfnod o ymyriadau polisi defnyddwyr gan Ofcom i’w gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl ddeall y farchnad a manteisio ar y cynigion gwych sydd ar gael. Er enghraifft, cyflwyno diwygiadau newid rhwng cwmnïau a hysbysiadau diwedd contract, a gwahardd gwerthu ffonau wedi’u cloi. 

Ond rydym yn credu bod ansawdd rhwydwaith yn dod yn bwysicach i gwsmeriaid. Rydym i gyd yn gwybod pa mor rhwystredig yw methu cael signal. Rydw i’n gallu ffonio fy nheulu ac anfon lluniau atyn nhw pan fyddaf yn sefyll ar fynydd iâ yng Ngwlad yr Iâ, ond dydw i ddim yn gallu cael cysylltiad pan fydda i’n sefyll y tu allan i’r orsaf y tiwb ar y ffordd i’r gwaith.  Er bod darpariaeth symudol ar gael ar draws y rhan fwyaf o’r DU, mewn llawer o lefydd mae’n annibynadwy neu’n dameidiog, sy’n cyfyngu ar yr hyn y gall pobl ei wneud.

Fel yr arbenigwr sector, rydym wedi bod yn cefnogi’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn ei adolygiad o uno Vodafone/Three, sydd wedi arwain at ymrwymiad gan y cwmnïau i wella’n sylweddol y buddsoddiad yn nibynadwyedd, capasiti a pherfformiad eu rhwydwaith. 

Er bod angen i’r uno oresgyn rhai rhwystrau ffurfiol eto, rydym yn credu y byddai’r ymrwymiad hwn i’r rhwydwaith yn arwain at welliant parhaus ar draws y diwydiant.

Rydym hefyd yn edrych ar beth arall gallwn ei wneud i helpu defnyddwyr i ddeall sut beth yw’r ddarpariaeth symudol yn eu hardal. Ar hyn o bryd rydym yn ailwampio ein hadnodd gwirio darpariaeth symudol ar y we, er mwyn i bobl gael gwybodaeth well am y profiad go iawn maen nhw’n gallu ei ddisgwyl a dewis y rhwydwaith sydd orau iddyn nhw. 

Fodd bynnag, fel gyda band eang, mae pethau y gallwn eu dysgu o Asia o ran gwella ansawdd rhwydweithiau symudol, yn enwedig mewn mannau lle mae ei angen fwyaf ar bobl. Er enghraifft, cefais fy synnu gan ansawdd da y WIFI ar drên bwled Japan. 

Yn anffodus, yr unig beth a oedd yn debyg i’r DU oedd y ffaith bod posteri One Direction ym mhobman yn yr orsaf. Mae cysylltedd ar y rheilffyrdd yn sicr yn broblem nad ydym wedi’i datrys yn y wlad hon eto. Mae’n rhywbeth mae angen i bob un ohonom yma gydweithio arno, gyda’r Llywodraeth a’r cwmnïau rheilffyrdd. 

Ond sut bynnag, rhaid i ni beidio â diystyru pwysigrwydd sicrhau diogelwch a chadernid ein rhwydweithiau sefydlog a symudol. Mae rhwydweithiau telegyfathrebiadau yn rhan hanfodol o Seilwaith Cenedlaethol Hanfodol y DU, yn ogystal ag yn ategu sawl rhan o’n heconomi. Mae’r bygythiadau sy’n wynebu’r sector yn fwy nag erioed, boed hynny o ymosodiadau seiber, tywydd eithafol neu hen offer. 

Mae’r Ddeddf Diogelwch Telegyfathrebiadau yn glir am rwymedigaethau rhwydwaith. Mae hyn yn ei dro yn rhoi sylfaen gadarn i sicrhau y gellir cynnal twf yn iach. Mae’r cod ymarfer gyda’r gorau yn y byd ac mae’n cynnwys cysyniadau sydd wedi’u dylunio’n benodol i alluogi gweithredwr i osgoi ystod eang o fygythiadau, yn hytrach na dim ond lliniaru’r effeithiau.

Twf mewn sbectrwm a gofod

Ac ymlaen i’r maes twf olaf - sbectrwm. Mae cefnogi arloesedd yn ganolog i reoli sbectrwm – rydym yn mynd ati’n fwriadol i ddyrannu sbectrwm i achosion defnydd newydd hyd yn oed pan nad yw’r achos masnachol yn glir eto. Os byddwch chi’n aros o gwmpas, byddwch chi’n clywed gan un o’n Cyfarwyddwyr Sbectrwm gwych, Christina Data, yn nes ymlaen. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Ofcom wedi cynnal nifer o ddyfarniadau sbectrwm i gefnogi twf band eang symudol ac mae wedi gweithio ers tro gyda’r diwydiannau morwrol, awyrennau, awyrofod, gwasanaethau brys ac amddiffyn. 

Rydym wedi cefnogi arloesi yn y meysydd hyn, er enghraifft cydweithio â’r Awdurdod Hedfan Sifil i gefnogi defnyddio dronau at ddibenion masnachol newydd, a hefyd drwy alluogi cadernid ychwanegol ar gyfer lleoli, llywio ac amseru datrysiadau ar gyfer tracio diogel, opsiwn arall yn lle GPS. 

Rydym wedi creu cyfleoedd, cyn Ewrop, ar gyfer rhwydweithiau symudol preifat newydd i gefnogi trawsnewid digidol sectorau mor amrywiol â mwyngloddio, logisteg a phorthladdoedd. Ac rydym yn agor cyfleoedd newydd ar gyfer datrysiadau capasiti uchel ar gyfer rhwydweithiau preifat drwy ddarparu sbectrwm tonnau milimetr amledd uchel. 

Byddwn yn parhau i gefnogi’r diwydiant symudol i gyflwyno 5G uwch a 6G. Wythnos yma rydym wedi bod yn ymgynghori ar arwerthu mwy o sbectrwm ar gyfer defnydd symudol 4G a 5G. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi ein bod yn rhyddhau rhagor o sbectrwm i ddefnyddio lloeren, ac fe wnaethom gymeradwyo trwydded lloeren ar gyfer Amazon. 

Nid yw’r diwydiant gofod erioed wedi gweld twf fel heddiw. Mae’r nifer uchaf erioed o loerennau mewn orbit isel uwchben y DU, gan newid sut rydym yn byw ac yn cysylltu. 

Does dim rhyfedd mai dyma un o’n meysydd gwaith prysuraf ar hyn o bryd, sy’n siŵr o gadw eich timau’n brysur, ac mae ganddo botensial enfawr ar gyfer arloesi a thwf ar draws yr economi. 

Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn ehangu ein dyraniadau sbectrwm yn gyflym ar gyfer technoleg y gofod a lloerenni. Byddwn yn darparu sbectrwm i gynyddu’r capasiti i gynnig gwasanaethau band eang lloeren i bobl ac i fusnesau yn sylweddol, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell. A byddwn yn datblygu trwyddedau sbectrwm i gefnogi galluoedd UK Space Launch. 

Wythnos diwethaf, gwelsom ddatblygiad sylweddol lle’r oedd y marchnadoedd symudol a lloeren yn cydgyfeirio. Llwyddodd Vodafone i wneud galwad fideo lloeren gyntaf y byd gan ddefnyddio ffôn symudol safonol, i fyny mynydd yng ngorllewin Cymru lle nad oedd darpariaeth. 

Roedd hyn y bosibl oherwydd bod Ofcom wedi cyhoeddi trwydded arloesi a threialu. 

Roedd y gofodwr Tim Peake ar ben arall yr alwad ac fe wnaeth ein sicrhau bod “digon o le” yn y gofod i ragor o loerennau.

Casgliad

Gobeithio bod hynny wedi rhoi blas i chi o’r hyn rydym yn ei wneud ym maes band eang, symudol a sbectrwm. 

O’r tir o dan eich traed, i’r ffôn yn eich poced, i’r lloerennau sy’n amgylchynu’r Ddaear, rydym eisiau bod yn rheoleiddiwr sy’n cefnogi twf ac yn cefnogi’r rhwydweithiau newydd sy’n cadw Prydain mewn cysylltiad, gan ddiogelu defnyddwyr ar yr un pryd. 

Felly... Twf. Buddsoddiad. Arloesedd. Diogelwch. Tryloywder. Tegwch. Nid yw’r pethau hyn yn annibynnol ar ei gilydd. Maen nhw’n gallu cydfodoli, ac mae’n rhaid iddyn nhw gydfodoli, ochr yn ochr â’i gilydd, fel sefydliadau mawr Dinas Llundain sydd o’n cwmpas ni heddiw. 

Byddwn yn chwarae ein rhan drwy gadw llygad ar y glorian, gan gadw’r cydbwysedd os bydd pethau’n mynd yn rhy bell un ffordd neu’r llall.

Os byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r nodau cyffredin hyn, bydd pawb yn elwa.

Diolch.

Yn ôl i'r brig