- Roedd tarfu ar y rhwydwaith wedi effeithio ar 14,000 o alwadau brys ym mis Mehefin 2023 ac wedi para 10.5 awr
- Mae’r gyfraith yn mynnu bod rhwydweithiau’n cymryd camau priodol i baratoi ar gyfer cyfnodau segur posibl
- Mae Ofcom o’r farn nad oedd BT wedi paratoi’n briodol i ddelio â’r digwyddiad
Heddiw mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £17.5 miliwn i BT am beidio â bod yn barod i ymateb i fethiant trychinebus ei wasanaeth delio â galwadau brys yr haf diwethaf.
Mae BT yn cysylltu galwadau 999 ac 112 yn y DU ac yn darparu gwasanaethau cyfnewid ar gyfer pobl fyddar a phobl â nam ar eu lleferydd.
Ddydd Sul 25 Mehefin 2023, gwelwyd diffyg yn rhwydwaith BT a effeithiodd ar ei allu i gysylltu galwadau â gwasanaethau brys rhwng 06:24 a 16:56. Yn ystod y digwyddiad, bu bron i 14,000 ymgais i alw – gan 12,392 o wahanol alwyr – yn aflwyddiannus.
Rhoddodd BT wybod i Ofcom am y mater hwn, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Ar 28 Mehefin 2023 agorodd Ofcom ymchwiliad i weld a oedd y cwmni wedi methu cydymffurfio â’i ddyletswyddau cyfreithiol i gymryd camau priodol a chymesur i baratoi ar gyfer tarfu posibl ar ei rwydwaith.[1]
Sut datblygodd y digwyddiad
Roedd tri cham allweddol i’r digwyddiad hwn:
Cam 1, rhwng 06:24 a 07:33 – Yn ystod yr awr gyntaf, tarfwyd ar system delio â galwadau brys BT gan wall ffurfweddu, a ganfuwyd yn ddiweddarach, mewn ffeil ar ei weinydd. Arweiniodd hyn at ailgychwyn systemau asiantau delio â galwadau cyn gynted ag y derbyniwyd galwad; allgofnodi asiantau o’r system; datgysylltu neu ollwng galwadau wrth drosglwyddo i’r awdurdodau brys; a rhoi galwadau yn ôl yn y ciw. I ddechrau, nid oedd BT yn gwybod beth oedd yn achosi’r broblem ac roedd wedi ceisio newid i’w lwyfan adfer ar ôl trychineb.
Cam 2, rhwng 07:33 ac 08:50 – Roedd yr ymgais gyntaf i newid i’r llwyfan adfer ar ôl trychineb yn aflwyddiannus oherwydd gwall dynol. Roedd hyn oherwydd bod y cyfarwyddiadau wedi cael eu cofnodi’n wael, a bod y tîm yn anghyfarwydd â’r broses. Aeth y digwyddiad o ddrwg i waeth - o effeithio ar rai galwadau i gyfnod segur yn y system gyfan.
Cam 3, rhwng 08:50 ac 16:56 – Gostyngodd cyfradd y galwadau aflwyddiannus ar ôl i’r traffig gael ei symud yn llwyddiannus i’r llwyfan adfer ar ôl trychineb. Fodd bynnag, ni chafodd y gwasanaeth arferol ei adfer yn llawn i ddechrau gan fod y llwyfan adfer ar ôl trychineb yn cael trafferth ateb y galw.
Parodrwydd annigonol BT
Gwelsom nad oedd gan BT systemau rhybuddio digonol ar waith ar gyfer y math hwn o ddigwyddiad, ac nad oedd ganddo weithdrefnau digonol ar gyfer asesu’n ddi-oed ddifrifoldeb, effaith ac achos tebygol unrhyw ddigwyddiad o’r fath nac ar gyfer nodi camau lliniaru. Fe welsom hefyd nad oedd gan lwyfan BT i adfer ar ôl trychineb ddigon o gapasiti a swyddogaeth i ddelio â lefel o alw y byddai’n rhesymol ei disgwyl.
Roedd y digwyddiad hefyd wedi tarfu ar alwadau cyfnewid testun, a oedd yn golygu nad oedd pobl ag anawsterau clyw a lleferydd yn gallu gwneud unrhyw alwadau, gan gynnwys i ffrindiau, teulu, busnesau a gwasanaethau. Roedd hyn yn golygu bod mwy o berygl o niwed i ddefnyddwyr byddar a defnyddwyr â nam ar eu lleferydd.
Cosb ariannol
Mae BT yn ddarparwr cyfathrebiadau mawr, profiadol sydd â digon o adnoddau. Er nad yw’r awdurdodau brys wedi cadarnhau bod unrhyw niwed difrifol wedi bod i aelodau o’r cyhoedd o ganlyniad i’r digwyddiad, roedd maint posib y niwed yn sylweddol dros ben. O ganlyniad i fethiannau BT, mae Ofcom wedi penderfynu rhoi dirwy o £17,500,000 i’r cwmni.[2]
Gall bywyd pobl fod yn y fantol os na allant gysylltu â’r gwasanaethau brys, felly os bydd unrhyw darfu ar rwydweithiau darparwyr, rhaid iddynt fod yn barod i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol.
Yn yr achos hwn, nid oedd BT wedi cyflawni ei gyfrifoldebau ac nid oedd wedi paratoi’n ddigonol i ddelio â chyfnod segur ar raddfa mor fawr, gan roi ei gwsmeriaid mewn perygl annerbyniol.
Mae dirwy heddiw yn rhybudd ehangach i bob cwmni – os nad ydych chi wedi paratoi’n briodol i ddelio â tharfu ar eich rhwydweithiau, byddwn yn eich dwyn i gyfrif yn llym ar ran defnyddwyr.
- Suzanne Cater, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom
Wrth ystyried lefel y gosb ariannol, fe wnaethom ni ystyried ffactorau fel difrifoldeb, hyd a graddau’r niwed. Fe wnaethom ni hefyd ystyried y camau mae BT wedi’u cymryd i ddatrys y materion hyn, gan gynnwys trwsio’r gwall a achosodd y tarfu; gwella’r gwaith o fonitro diffygion; gwella’r llwyfan adfer ar ôl trychineb; a chofnodi proses glir ar gyfer newid iddo. Ac fe wnaethom ni gydnabod y ffaith bod BT wedi rhoi gwybod am y digwyddiad ei hun, yn unol â’i rwymedigaethau, ac wedi darparu diweddariadau rheolaidd. Mae BT hefyd wedi cydweithredu’n llawn â’n hymchwiliad ac wedi darparu gwybodaeth i Ofcom yn brydlon pan ofynnwyd amdani.
Nodiadau i olygyddion
[1] Mae Adran 105A(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Telegyfathrebiadau (Diogelwch) 2021 – a ddaeth i rym ym mis Hydref 2022 – a Rheoliad 9 o Reoliadau Cyfathrebiadau Electronig (Mesurau Diogelwch) 2022 yn mynnu bod darparwyr rhwydweithiau a gwasanaethau cyfathrebiadau electronig cyhoeddus yn cymryd y mesurau hynny sy’n briodol ac yn gymesur, ymysg eraill, i baratoi ar gyfer achosion o gyfaddawdau diogelwch. Mae adran 105A(2) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 yn diffinio cyfaddawd diogelwch fel rhywbeth sy’n cynnwys unrhyw beth sy’n peryglu argaeledd, perfformiad neu swyddogaeth y rhwydwaith neu’r gwasanaeth.
[2] Rhaid i BT dalu’r ddirwy o fewn dau fis i’r penderfyniad hwn, ac yna caiff ei throsglwyddo i Drysorlys EF. Mae’n cynnwys gostyngiad o 30% o ganlyniad i gyfaddefiad BT o atebolrwydd a chytundeb i setlo’r achos.