Canllawiau: Amddiffyn mynediad at sefydliadau brys pan fo toriad yn y pŵer ar safle’r cwsmer

Cyhoeddwyd: 24 Mai 2018
Ymgynghori yn cau: 5 Gorffennaf 2018
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Un o swyddogaethau hollbwysig y rhwydwaith ffôn yw caniatáu i bobl gysylltu â’r gwasanaethau brys. Am y rheswm hwn, mae rhwymedigaeth rheoleiddiol ar ddarparwyr cyfathrebiadau yn Amod Cyffredin A3 i gymryd pob mesur angenrheidiol i sicrhau mynediad di-dor at sefydliadau brys i'w cwsmeriaid.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r ddogfen hon yn cadarnhau canllawiau terfynol Ofcom ynghylch sut gall darparwyr gyflawni eu rhwymedigaethau wrth i gwsmeriaid symud o wasanaethau band eang llinell sefydlog traddodiadol i wasanaethau ffôn drwy gysylltiad band eang (a elwir yn brotocol llais dros y rhyngrwyd (VoIP)). Nid yw’r gofynion sylfaenol wedi newid ac nid bwriad y canllaw yw bod yn ganllaw pendant ar sut dylai darparwyr gydymffurfio â'r rhwymedigaethau. Yn hytrach, mae'r canllaw yn nodi disgwyliadau Ofcom yng nghyswllt y mesurau a ddylai fod ar waith i sicrhau bod cwsmeriaid sy’n gwneud galwadau dros fand eang yn gallu gwneud galwadau brys os oes toriad yn y pŵer ar eu safle. Mae’r canllaw ar ffurf pedair Egwyddor i ddarparwyr eu dilyn.

Gan ystyried amgylchiadau penodol pob achos, bydd Ofcom yn ystyried sut mae darparwyr yn talu sylw i'r pedair Egwyddor yma wrth asesu a ydynt yn cyflawni eu rhwymedigaethau.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
IP Migration Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig