Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei adroddiad monitro diweddaraf ar annibyniaeth Openreach.
Ers 2018, mae Openreach wedi cael ei wahanu’n gyfreithiol oddi wrth BT ac mae Ofcom wedi gosod rheolau ar y cwmni sydd wedi’u llunio i gefnogi cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau cyflymach. Yn ystod yr amser hwnnw, mae argaeledd band eang ffeibr llawn yn y DU wedi codi o 6% i fwy na 60%, ac mae cyflymder cyfartalog a defnydd data wedi dyblu.
Mae’r cynnydd cyflym parhaus mewn ffeibr llawn yn tanlinellu pwysigrwydd y gwaith rydym ni’n ei wneud i fonitro Openreach a sicrhau ei fod yn trin gwahanol ddarparwyr cyfathrebiadau yn deg. Rydym wedi bod yn cwrdd â chystadleuwyr BT i wrando ar eu pryderon ac nid ydym wedi canfod tystiolaeth ddigonol i agor unrhyw ymchwiliadau ffurfiol newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi gweld tystiolaeth o ymdrechion BT Group i adnewyddu a diweddaru ei ymgysylltiad â’r fframwaith sy’n sail i annibyniaeth Openreach. Mae hyn yn dilyn penodi Prif Swyddog Gweithredol newydd, Allison Kirkby, a fu’n gyfarwyddwr anweithredol ar is-bwyllgor BT ac yn gyfrifol am fonitro ei gydymffurfiad â’r trefniadau annibyniaeth.
Byddwn yn parhau i gwrdd yn rheolaidd â chystadleuwyr BT ac rydym yn barod i gymryd camau gorfodi i ddal BT ac Openreach i gyfrif pan fydd angen.