Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i weld a yw’r darparwr cyfathrebiadau, Tismi, wedi cymryd camau priodol i sicrhau nad yw rhifau ffôn sy’n cael eu dyrannu iddo yn cael eu camddefnyddio, gan gynnwys i gyflawni sgamiau.
Mae Ofcom yn dyrannu rhifau ffôn, fel arfer mewn blociau mawr, i gwmnïau telegyfathrebiadau. Mae’r cwmnïau hynny wedyn yn gallu trosglwyddo’r rhifau i unigolion neu i fusnesau eraill.
Yn unol â rheolau diogelu defnyddwyr Ofcom a chanllawiau’r diwydiant, mae’n rhaid i gwmnïau ffôn sicrhau nad yw’r rhifau rydyn ni wedi’u dyrannu iddyn nhw yn cael eu camddefnyddio gan fusnesau neu unigolion y maen nhw wedi’u trosglwyddo iddynt. Er enghraifft, gallai camddefnyddio rhifau gynnwys eu defnyddio i hwyluso galwadau a negeseuon testun sgam.
Er mwyn i gwmnïau ffôn fynd i’r afael â chamddefnyddio rhifau, rydym yn disgwyl iddynt (ymysg pethau eraill) gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ‘adnabod eich cwsmer’ ar eu cwsmeriaid busnes, er mwyn atal sgamwyr rhag cael gafael ar rifau dilys yn y lle cyntaf. Hefyd, dylent barhau i adolygu lefel y risg a berir gan gwsmer busnes drwy gadw llygad am unrhyw gamddefnydd posibl o rifau.
Rydym wedi casglu gwybodaeth sy’n awgrymu bod y rhifau a ddyrannwyd i Tismi o bosibl yn cael eu camddefnyddio. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu efallai fod Tismi wedi is-ddyrannu rhifau heb gymryd camau priodol i sicrhau nad ydynt yn cael eu camddefnyddio.
Bydd ein hymchwiliad yn ceisio canfod a yw Tismi wedi peidio â chydymffurfio â’i rwymedigaethau yn y maes hwn – yn benodol, Amodau Cyffredinol B1.4, B1.6, B1.8, B1.9(b) a B1.9(c).
Rhaglen orfodi barhaus
Mae’r ymchwiliad hwn yn dod o dan raglen orfodi a lansiwyd yn gynharach eleni, sy’n edrych yn benodol ar sgamiau ffôn a negeseuon testun. Nod y Rhaglen hon yw cefnogi arferion gorau o ran defnyddio rhifau ffôn a sicrhau bod darparwyr yn dilyn rheolau Ofcom.
Rydym wedi nodi nifer o gwmnïau sydd wedi cael lefelau uwch neu gyson uchel o gwynion yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2024. O ganlyniad, rydym wedi cyflwyno cais ffurfiol am wybodaeth iddyn nhw er mwyn asesu pa mor effeithiol yw eu dulliau o fynd i’r afael â galwadau a negeseuon testun sgam, gan gynnwys y mesurau ataliol sydd ganddyn nhw ar waith. Rydym nawr yn ymchwilio i weld a yw’r darparwyr hynny’n camddefnyddio rhifau neu’n peidio â chydymffurfio â’n rheolau fel arall.
Os oes gennym sail resymol dros amau bod ein rheolau wedi cael eu torri, efallai y byddwn yn lansio rhagor o ymchwiliadau a fydd yn cael eu cyhoeddi ar dudalen ein bwletin gorfodi.