Newid llinell dir

Cyhoeddwyd: 3 Ebrill 2023

Mae'r cyfnod pan mai dim ond un neu ddau o ddarparwyr allai gynnig ffôn yn eich cartref wedi hen fynd heibio.

Nawr gallwch ddewis o blith nifer fawr o gwmnïau, a gellir prynu gwasanaethau ffôn fel gwasanaethau annibynnol neu fel rhan o fargeinion wedi eu bwndelu ochr yn ochr â gwasanaethau eraill, fel teledu, band eang a gwasanaethau symudol.

Mae’r canllaw hwn yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud os ydych chi eisiau newid eich llinell dir i ddarparwr newydd.

Fel y cyhoeddwyd ym mis Medi 2021, roedd proses newid haws a chyflymach newydd ar gyfer yr holl wasanaethau band eang a llinell dir, sef Newid Un Cam, i fod i gael ei lansio ar 3 Ebrill 2023. Fodd bynnag, bydd oedi cyn i’r diwydiant lansio’r broses newydd ac nid yw ar gael eto i gwsmeriaid ei defnyddio. Dylid dilyn y prosesau newid presennol a nodir isod nes bydd y broses newydd yn barod i’w defnyddio.

Mae dau fath gwahanol o broses ar gyfer newid gwasanaeth ffôn safonol - ‘newid dan arweiniad y darparwr sy’n ennill y cwsmer’ a ‘therfynu ac ail-ddarparu’.

Mae'r broses y byddwch chi'n ei dilyn yn dibynnu i raddau helaeth ar y darparwr rydych chi'n ei adael ac yn ymuno ag ef, a'r math o gysylltiad sydd gennych chi neu rydych chi'n ystyried ei gael.  Yn benodol, os ydych chi'n gadael neu'n ymuno â darparwr cebl, fel Virgin Media, bydd angen i chi ddilyn y broses 'terfynu ac ail-ddarparu'.

Bydd yr amser a gymerir i gyflawni hyn yn dibynnu ar y gwasanaethau sydd gennych chi.

Gallwch gadw eich rhif ffôn presennol ar y llinell dir pan fyddwch chi'n newid darparwr os ydych chi'n dymuno.  Gelwir hyn yn ‘cludo rhif’. Os ydych chi eisiau cadw’ch rhif, rhowch wybod i'r darparwr yr hoffech chi symud ato. Fodd bynnag, efallai na fyddwch chi’n gallu cadw rhif ffôn presennol eich llinell dir os ydych chi'n newid darparwr llinell dir yr un pryd â symud i gartref newydd. Gallwch wneud cais i gadw eich hen rif ffôn am ddim hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi canslo eich gwasanaeth blaenorol (ar yr amod eich bod yn gwneud cais o fewn mis i ganslo).

Y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw cysylltu â'r darparwr yr hoffech chi symud ato, ac esbonio beth rydych chi eisiau ei wneud.

Fe ddylen nhw allu rhoi manylion i chi ynghylch pa broses y mae angen i chi ei dilyn. Ni ddylech golli mwy nag un diwrnod gwaith o wasanaeth wrth newid darparwr, a dylai darparwyr eich digolledu os bydd pethau’n mynd o le.

Beth bynnag fo'r broses rydych chi'n ei dilyn, mae gennych chi gyfnod o 14 diwrnod calendr o'r dyddiad y byddwch chi'n dechrau ar gontract newydd gyda darparwr newydd lle mae gennych chi hawl i ganslo eich cais i newid heb orfod wynebu costau.

Isod, rydym yn nodi'r manylion ar gyfer pob un o'r prosesau.

O dan y 'broses dan arweiniad darparwr sy’n ennill y cwsmer’, bydd eich darparwr newydd yn trefnu'r newid i chi.

Y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â'r darparwr yr hoffech symud ato, a fydd yn rhoi gwybod i’ch hen ddarparwr am y symud arfaethedig - does dim angen i chi ganslo’ch contract â'ch hen ddarparwr.

Ond, os ydych chi'n newid darparwr er mwyn cael bwndel sy'n cynnwys gwasanaeth teledu, mae'n bosibl y bydd rhai gwahaniaethau - yn enwedig os yw'r newid yn golygu canslo gwasanaeth teledu lloeren.  Siaradwch â'r darparwr yr hoffech chi symud ato i gael cyngor ar y broses i'w dilyn ar gyfer hyn.

Os ydych chi eisiau cadw’r rhif llinell dir sydd gennych chi, rhowch wybod i'r darparwr yr ydych am symud ato. Ond, efallai na fyddwch chi’n gallu cadw rhif ffôn presennol eich llinell dir os ydych chi'n newid darparwr llinell dir yr un pryd â symud i gartref newydd.

Os byddwch chi'n newid eich meddwl, rhaid i chi gysylltu â'ch darparwr newydd i ganslo’ch cais i newid.

Unwaith y byddwch chi wedi cysylltu â'ch darparwr newydd i ddechrau’r broses newid, mae'n rhaid i'ch darparwr newydd a'r darparwr rydych chi'n ei adael anfon llythyr hysbysu atoch chi i roi gwybod i chi am y newid.

Mae'n rhaid i'r llythyr gan y darparwr rydych chi’n ei adael gynnwys manylion am:

  • y gwasanaethau mae hyn yn effeithio arnynt,
  • y gwasanaethau nad yw hyn yn effeithio arnynt, ac
  • unrhyw daliad terfynu cynnar perthnasol sy'n ymwneud â'r gwasanaethau rydych chi'n eu cymryd ar hyn o bryd.

Mae’n rhaid i'r llythyrau gan y darparwr rydych chi'n ei adael a’ch darparwr newydd hefyd roi manylion y newid, gan gynnwys amcangyfrif rhesymol o'r dyddiad y bydd y newid yn digwydd.

Mae'n rhaid i'ch darparwr newydd hefyd gadw cofnod o'ch caniatâd i newid darparwr am o leiaf 12 mis.

Os ydych chi'n gadael neu'n ymuno â darparwr rhwydwaith cebl, bydd angen i chi gysylltu â'ch darparwr newydd i drefnu archeb ar gyfer eich gwasanaeth/gwasanaethau newydd.

Os ydych chi'n dewis cadw eich rhif ffôn presennol, dylai eich darparwr newydd roi gwybod i'r darparwr rydych chi’n ei adael bod y gwasanaeth yn cael ei drosglwyddo (er, mae'n bosibl na fyddwch chi’n gallu cadw’ch rhif ffôn llinell dir presennol os ydych chi'n newid y darparwr llinell dir yr un pryd ag y byddwch chi’n symud i gartref newydd).

Os ydych chi'n newid darparwr eich llinell dir yn unig, a'ch bod chi wedi gofyn am gael cadw eich rhif ffôn presennol, fyddech chi ddim fel arfer yn gorfod rhoi gwybod i'r darparwr rydych chi’n ei adael eich bod chi'n symud i ddarparwr newydd (er y gallech chi holi i weld a fydd y darparwr rydych chi'n ei adael yn codi tâl terfynu cynnar am adael eich contract).

Rydych chi'n fwyaf tebygol o ddefnyddio'r broses hon os ydych chi'n newid gwasanaethau gyda darpwyr sy'n cael eu darparu dros wahanol rwydweithiau.

Er enghraifft, os ydych chi'n ymuno gyda'r rhwydwaith cebl Virgin Media.

Gallwch gadw eich rhif ffôn presennol ar y llinell dir pan fyddwch chi'n newid darparwr os ydych chi'n dymuno. Gelwir hyn yn 'cludo rhif'. Os ydych chi eisiau cadw'ch rhif, rhowch wybod i'r darparwr yr hoffech chi symud ato. Fodd bynnag, efallai na fyddwch chi'n gallu cadw rhif ffôn presennol eich llinell dir yr un pryd â symud i gartref newydd.

Y peth cyntaf y dylech chi wneud yw cysylltu gyda'r darparwr yr hoffech chi symud ato ac esbonio beth rydych chi eisiau ei wneud. Fe ddylen nhw allu rhoi manylion i chi ynghylch pa broses y mae angen i chi ei dilyn.

Beth bynnag fo'r broses rydych chi'n ei dilyn, mae gennych chi gyfnod o 14 diwrnod calendr o'r dyddiad y byddwch chi'n dechrau ar gontract newydd gyda darparwr newydd lle mae gennych chi hawl i ganslo eich cais i newid heb orfod wynebu costau.

Isod, rydym yn nodi'r manylion ar gyfer pob un o'r prosesau.

Os ydych chi'n newid darparwr ar gyfer bwndel o wasanaethau llinell dir a band eang ar yr un pryd, byddwch fel arfer yn dilyn un o'r prosesau a ddisgrifir uchod.

Pan fyddwch chi wedi gofyn am gadw’ch rhif ffôn presennol, a bod modd gwneud hynny, does dim angen i chi roi gwybod i'r darparwr rydych chi’n ei adael eich bod chi'n symud at ddarparwr llinell dir newydd.

Ond, efallai y bydd angen i chi roi gwybod iddyn nhw er mwyn canslo gwasanaethau eraill rydych chi hefyd yn eu newid fel rhan o fwndel - yn enwedig os yw'r newid yn golygu canslo gwasanaeth teledu lloeren.

Siaradwch â'r darparwr yr hoffech chi symud ato i gael cyngor ar y broses i'w dilyn ar gyfer gwasanaethau mewn bwndel.

Mae rhai darparwyr yn gofyn am gyfnod gwasanaeth neu gyfnod contract sylfaenol cyn y gallwch chi newid.  Os ydych chi eisiau newid darparwr yn gynharach na hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau terfynu cynnar.

Os ydych chi’n dilyn proses Dan Arweiniad y Darparwr sy’n Ennill y Cwsmer, dylech gael hysbysiad awtomatig gan y darparwr rydych chi’n ei adael os yw unrhyw daliad terfynu cynnar yn berthnasol, ac amcangyfrif o'r gost. Os penderfynwch beidio â bwrw ymlaen â newid darparwr, gallwch ganslo drwy gysylltu â'r darparwr newydd.

Os ydych chi’n dilyn proses terfynu ac ail-ddarparu, efallai yr hoffech chi holi i weld a fydd y darparwr rydych chi’n ei adael yn codi tâl terfynu cynnar am adael eich contract.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig