Datganiad: Offer Cymharu Digidol – newidiadau i gynllun achredu gwirfoddol Ofcom

Cyhoeddwyd: 17 Rhagfyr 2019
Ymgynghori yn cau: 28 Chwefror 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 27 Hydref 2020

Mae Ofcom yn credu y dylai pob cwsmer ffôn, band eang a theledu drwy dalu gael bargen deg. Rydyn ni eisiau i gwsmeriaid siopa gyda hyder, gwneud dewisiadau doeth a chael y fargen iawn ar gyfer eu hanghenion. Mae offer cymharu, fel gwefannau cymharu prisiau, yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl sy’n defnyddio’r ystod eang o gynnyrch ffôn, band eang a theledu drwy dalu sydd ar gael heddiw.

Mae gennym gynllun achredu gwirfoddol y gall offer cymharu ymuno ag ef, ar yr amod eu bod yn cyrraedd safonau penodol. Rydyn ni’n gwneud hyn i helpu i feithrin ymddiriedaeth yn y gwasanaeth maen nhw’n ei gynnig i gwsmeriaid. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein penderfyniad terfynol ar sut y byddwn yn diwygio’r cynllun, fel ei fod yn parhau i fod o fudd i gwsmeriaid ac i sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth Ewropeaidd newydd.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Comparison Tools
Consumer Policy Team
Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig