Rhaglen orfodi: Methiant y diwydiant i weithredu Newid Un Cam erbyn y dyddiad cau sef 3 Ebrill 2023

Cyhoeddwyd: 3 Ebrill 2023
Diweddarwyd diwethaf: 12 Medi 2024

Ar agor

Gwybodaeth am y rhaglen

Methiant y diwydiant i weithredu Newid Un Cam erbyn y dyddiad cau sef 3 Ebrill 2023

Achos wedi’i agor

3 Ebrill 2023

Crynodeb

Roedd yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau llinell dir a band eang sefydlog roi proses newydd Newid Un Cam ar waith erbyn 3 Ebrill 2023. Mae Newid Un Cam wedi’i ddylunio i’w gwneud yn haws ac yn gyflymach i gwsmeriaid newid eu gwasanaethau.

Mae’r diwydiant wedi methu â rhoi’r broses newydd ar waith ar amser, felly rydym wedi agor rhaglen orfodi i sicrhau bod darparwyr perthnasol yn darparu Newid Un Cam i safon uchel, ac yn unol â’r manylebau y cytunwyd arnynt, cyn gynted â phosibl.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Amodau Cyffredinol A7.18 – A7.27 (fersiwn 3 Ebrill 2023)

Ar 12 Mawrth 2024, cyhoeddodd The One Touch Switching Company (TOTSCo) mai’r dyddiad lansio diwygiedig ar draws y diwydiant ar gyfer Newid Un Cam (One Touch Switch) oedd 12 Medi 2024.

Bellach, mae OTS wedi’i lansio ar gyfer y rhan fwyaf o gwsmeriaid. Mae hyn yn golygu bod mwy o gwsmeriaid nawr yn gallu newid i wasanaeth band eang a/neu linell dir gwahanol (gan gynnwys rhwng darparwyr sy’n defnyddio gwahanol rwydweithiau a thechnolegau) heb fod angen siarad â’u darparwr presennol.

Fodd bynnag, mae’n annerbyniol nad yw OTS ar gael i bob cwsmer. Er mwyn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau o dan Amodau Cyffredinol C7.18 – C7.27, mae’n rhaid i ddarparwyr nawr gymryd pob cam posibl i sicrhau bod y cwsmeriaid sy’n weddill yn gallu manteisio ar OTS mor gyflym â phosibl ac rydym yn disgwyl i ddarparwyr symud yn sydyn i gynyddu cyfran y cwsmeriaid sy’n gallu newid drwy OTS. Dim ond pan fydd modd i bob cwsmer newid drwy OTS y bydd darparwyr yn cydymffurfio’n llawn â’u rhwymedigaethau o dan Amodau Cyffredinol C7.18 – C7.27.

Bydd Ofcom yn gofyn i’r darparwyr mwyaf, gan gynnwys BT, Sky, VMO2 a TalkTalk ymysg eraill, esbonio pam y bu oedi cyn bod OTS ar waith yn llawn. Os nad ydym yn fodlon â’r esboniadau hyn a/neu unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â chamau gweithredu darparwyr yn ystod yr holl gyfnod paratoi ar gyfer OTS, byddwn yn agor ymchwiliad(au) i ddal y darparwyr hyn i gyfrif am yr oedi annerbyniol.

Ar 13 Rhagfyr 2023, cyhoeddodd The One Touch Switch Company (“TOTSCo”) nad oedd modd cyflawni'r dyddiad targed - 14 Mawrth 2024 - ar gyfer lansio Newid Un Cam (“One Touch Switch - OTS”) ar draws y diwydiant mwyach. Gwnaeth TOTSCo ei benderfyniad yn sgil cyfathrebu â BT, Sky, TalkTalk a VMO2.

Ar ôl derbyn y wybodaeth hon, ysgrifennodd Ofcom at bob un o’r pedwar darparwr i nodi ein pryderon am oedi dro ar ôl tro, ac i’w gwneud yn ofynnol iddynt benderfynu’n derfynol ar ddyddiad lansio ar fyrder, sef y dyddiad gweithredu cynharaf posibl ar gyfer Newid Un Cam. Heddiw, cyhoeddodd TOTSCo ddyddiad lansio newydd ar gyfer Newid Un Cam ar draws y diwydiant fel 12 Medi 2024.

Rydym wedi cael sicrwydd ysgrifenedig gan BT, Sky, TalkTalk a VMO2 y gellir cyflawni'r dyddiad hwn, ac rydym wedi ceisio sicrwydd ar wahân gan OTA, fel ein cynghorwyr technegol penodedig, bod y dyddiad hwn yn gyraeddadwy.

Fodd bynnag, o ystyried yr oedi hir iawn cyn lansio Newid Un Cam, mae Ofcom yn cynyddu lefel yr oruchwyliaeth weithredu gyda’r ddau ddarparwr hyn yn ogystal â TOTSCo ar wahân, fel y corff diwydiant a benodwyd gan ddarparwyr cyfathrebiadau i reoli lansio Newid Un Cam, a’i weithrediad dilynol.

Rydym yn parhau i bwysleisio ein disgwyliadau a’r pwysigrwydd i bob un cyfranogwr y diwydiant ddefnyddio eu holl ymdrechion i ddarparu Newid Un Cam at safon uchel erbyn 12 Medi 2024 a defnyddio’r holl adnoddau angenrheidiol i gyflawni hyn.

Ar wahân i hynny bydd Ofcom, yn seiliedig ar y dystiolaeth rydym eisoes wedi’i chywain, yn adolygu ymddygiad holl gyfranogwyr y diwydiant ers ein datganiad yn 2021 er mwyn penderfynu a fydd yn briodol neu’n angenrheidiol agor ymchwiliadau unigol ar ôl lansio. Bydd yr ystyriaethau hyn yn cynnwys BT, Sky, TalkTalk a VMO2, yn ogystal ag unrhyw ddarparwyr eraill y teimlwn ei fod yn angenrheidiol craffu ymhellach arnynt.

Yn y pen draw mae'r oedi parhaus gan ddiwydiant wedi achosi i gwsmeriaid fod ar eu colled o ran manteision proses newid gyflymach a mwy effeithiol. Bydd Ofcom yn parhau i ddwyn darparwyr i gyfrif am eu methiannau i ddarparu’r buddion hyn i ddefnyddwyr.

Ym mis Awst eleni, cyhoeddodd The One Touch Switch Company (TOTSCo) ei fod yn bwriadu lansio Newid Un Cam ar draws y diwydiant ar 14 Mawrth 2024. Mae Ofcom yn disgwyl i ddarparwyr gadw at y dyddiad hwn.

Mae Ofcom yn parhau i fonitro’n agos y cynnydd y mae darparwyr yn ei wneud wrth roi Newid Un Cam ar waith, gan gynnwys sicrhau eu bod yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i gyflawni’r dyddiad hwn. Ym mis Medi, fe wnaethom gyhoeddi ein hail gais ffurfiol am wybodaeth i nifer o ddarparwyr. Pwrpas y cais hwn oedd asesu cynnydd darparwyr ers ein cais cyntaf am wybodaeth ym mis Mai. Yn benodol, roeddem wedi ceisio deall parodrwydd darparwyr i brofi’r systemau a’r prosesau perthnasol sy’n ofynnol ar gyfer rhoi Newid Un Cam ar waith.

Rydym yn atgoffa rhanddeiliaid na fydd Ofcom yn oedi cyn agor ymchwiliadau os byddwn yn canfod problemau penodol gyda darparwyr unigol.

Ym mis Ebrill, fe wnaethom gais ffurfiol am wybodaeth i nifer o ddarparwyr ar ôl agor ein rhaglen orfodi yn sgil methiant y diwydiant i weithredu Newid Un Cam erbyn y dyddiad cau sef 3 Ebrill 2023.

Pwrpas y cais yw i ni sefydlu pa gamau mae darparwyr eisoes wedi’u cymryd i roi Newid Un Cam ar waith, pa gamau y mae angen eu cymryd o hyd a chynlluniau darparwyr ar gyfer y camau hyn.

Mae’r cais yn canolbwyntio ar dystiolaeth o barodrwydd yn erbyn y prif themâu canlynol. Rydym yn rhannu’r crynodeb hwn o ystyried natur draws-ddiwydiannol Newid Un Cam:

  • Ymgysylltu â fforwm perthnasol y diwydiant, The One Touch Switching Company (TOTSCo)
  • Paratoi ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaethau darparwr Ennill a Cholli
  • Paratoi ar gyfer profi’r ganolfan o’r dechrau i’r diwedd ar draws y diwydiant
  • Paratoi cyfathrebiadau â chwsmeriaid a hyfforddiant staff
  • Unrhyw resymau eraill sydd wedi arwain at oedi cyn gweithredu

Mae’n bwysig nodi na fwriedir i’r cais am wybodaeth fod yn arweiniad i ddarparwyr. Cyfrifoldeb y diwydiant o hyd yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau o dan A7.18 – A7.27 o’r Amodau Cyffredinol ac ymgysylltu â TOTSCo yn ôl yr angen er mwyn cyflawni hyn cyn gynted â phosibl.

Heddiw, mae Ofcom wedi agor rhaglen orfodi ar draws y diwydiant yn sgil methiant i weithredu proses newydd Newid Un Cam ar gyfer cwsmeriaid preswyl erbyn y dyddiad cau, sef 3 Ebrill 2023.

Ein hamcanion ar gyfer y rhaglen hon yw sicrhau bod Newid Un Cam yn cael ei ddarparu i safon uchel cyn gynted â phosibl, a’i fod yn gweithio’n effeithiol ac yn ddibynadwy ar gyfer cwsmeriaid yn unol â manylebau y cytunwyd arnynt.

Newid Un Cam

Bydd y broses Newid Un Cam yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gwsmeriaid preswyl newid gwasanaethau band eang a/neu linell dir, gan gynnwys rhwng darparwyr sy’n defnyddio gwahanol rwydweithiau a thechnolegau. Mae’n dileu’r angen i gwsmeriaid siarad â’u darparwr presennol cyn newid (sy’n gallu atal pobl rhag symud darparwyr), gan y bydd y darparwr newydd yn trefnu’r newid.

Mae galluogi pobl i newid yn haws rhwng darparwyr yn golygu eu bod yn gallu siopa o gwmpas yn hyderus er mwyn dod o hyd i’r pris a’r gwasanaeth gorau ar gyfer eu hanghenion. Mae newid effeithiol hefyd yn bwysig ar gyfer cystadleuaeth ac mae’n cefnogi pobl i fanteisio ar fand eang cyflymach a mwy dibynadwy.

Y fframwaith rheoleiddio

Mae Amodau A7.18 – A7.27 o Amodau Cyffredinol Ofcom, a ddaeth i rym heddiw, yn nodi’r broses Newid Un Cam. O dan y rheolau newydd hyn, mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau llinell dir a band eang sefydlog i gwsmeriaid preswyl ddarparu un broses i gwsmeriaid sy’n dymuno newid gwasanaethau band eang a/neu linell dir yn rhad ac am ddim.

Mae rhwymedigaethau penodol ar gyfer Darparwyr sy’n Ennill a Darparwyr sy’n Colli o dan Amodau A7.18 – A7.27, ond mae’n rhaid i ddarparwyr gydweithredu drwy gydol y broses newid sefydlog.

Ein rhaglen orfodi

Rydym yn deall nad yw’r diwydiant wedi rhoi’r broses Newid Un Cam ar waith erbyn dyddiad cau heddiw, sef 3 Ebrill 2023. Mae hyn yn golygu bod nifer o ddarparwyr cyfathrebiadau o bosibl yn torri’r Amodau Cyffredinol perthnasol. Yn y pen draw, mae oedi o ran gweithredu yn golygu bod cwsmeriaid yn colli allan ar fanteision proses newid gyflymach a mwy effeithiol.

Felly, rydym yn agor y rhaglen orfodi hon ar draws y diwydiant er mwyn:

  • monitro cynnydd darparwyr yn ofalus;
  • sicrhau bod yr holl ddatblygiadau sy’n ofynnol ar gyfer gweithredu’n parhau’n gyflym; a
  • sicrhau bod y broses Newid Un Cam yn cael ei darparu cyn gynted â phosibl i’r safon y cytunwyd arni gyda’r diwydiant.

Byddwn yn casglu gwybodaeth ac yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o ddarparwyr er mwyn monitro cynnydd darparwyr cyfathrebiadau o ran rhoi Newid Un Cam ar waith. Os bydd angen rhagor o dystiolaeth gan fwy o ddarparwyr, byddwn yn ystyried yr angen i ehangu ein rhaglen orfodi. Pan fyddwn yn nodi materion penodol, efallai y byddwn yn cychwyn ymchwiliadau ar wahân i ddarparwyr unigol.


Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01268/03/23

Yn ôl i'r brig