Dewis gwasanaeth a darparwr

Cyhoeddwyd: 21 Hydref 2014
Diweddarwyd diwethaf: 16 Medi 2024

Mae gwasanaethau ffôn a band eang yn hanfodol i fusnesau. Mae tua 83% o fentrau bach a chanolig eu maint (MBaCh) yn cytuno na fydden nhw'n gallu cyflawni eu nodau hebddynt.

Mae 25% o fusnesau a busnesau bach a chanolig wedi newid eu darparwr dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a'r rheswm mwyaf cyffredin dros hynny yw dod o hyd i gytundeb rhatach i'w sefydliad.

Waeth p'un a ydych yn fusnes sy'n sefydlu ei hun am y tro cyntaf, neu rydych yn siopa o gwmpas am fargen well, mae'n bwysig eich bod chi'n gwneud y dewis iawn.

Pa gynhyrchion sydd ar gael?

Mae gwasanaethau i fusnesau'n amrywio o wasanaethau safonol i gynhyrchion arbenigol a phenodedig.

Mae'r rhain yn cynnwys cynnyrch llais a data sy'n rhedeg dros fand eang ffeibr llawn neu ffeibr rhannol, cysylltiadau data penodedig fel llinellau ar les, a gwasanaethau eraill fel ffôn symudol busnes. Gweler ein tudalenesbonio'r jargonam fwy o fanylion am y rhain.

Dewis y dechnoleg gywir

Gallai technoleg newydd fod yn dda i'ch busnes. Siaradwch â'ch darparwr am yr hyn sydd ei angen arnoch.

Mae digon o ddarparwyr sy'n darparu ar gyfer busnesau. Un ffordd o gymharu gwasanaethau yw defnyddio gwefan cymharu prisiau a achredir gan Ofcom.

Argaeledd gwasanaethau: gwledig a threfol

Gall ein teclyn gwirio darpariaeth symudol a band eang eich helpu i wirio ystod ac ansawdd y gwasanaethau yn eich ardal chi. Trwy nodi cod post, gallwch wirio argaeledd band eang cyflym iawn, cyflymder lawrlwytho cyfartalog ac ansawdd darpariaeth symudol y prif ddarparwyr.

Prisiau a lefelau gwasanaeth

Mae pob busnes eisiau cadw ei gorbenion i lawr ond efallai nad dewis y fargen rhataf yw'r dewis cywir bob amser.

Mae darparwyr yn cynnig lefelau gwahanol o wasanaeth, ac mae lefelau uwch o wasanaeth fel arfer yn costio mwy.

Efallai y byddai'n werth gwario mwy yn gyfnewid am Gytundeb Lefel Gwasanaeth ('CLG') gwell. Mae CLG yn ymrwymiad cytundebol a ddarperir gan y gweithredwr telathrebu i ddarparu isafswm lefel o ansawdd gwasanaeth i'ch busnes. Er enghraifft, cytundeb sy'n cynnig gwasanaeth atgyweirio cyflymach.

Mae mwy o fanylion wedi'u hamlinellu ar ein tudalen contractau.

Ymchwiliwch i hanes darparwr o ran gwasanaeth i gwsmeriaid. Cymerwch olwg ar ein hadroddiad diweddaraf ar foddhad cwsmeriaid ar ansawdd y gwasanaeth y maent yn ei dderbyn gan eu darparwr telathrebu. Rydym hefyd yn cyhoeddi data'n rheolaidd ar gwynion a wnaed yn erbyn y prif ddarparwyr cyfathrebu a theledu-drwy-dalu.

Cydnerthedd a rheoli traffig

Mae cadw'r cysylltiad yn hanfodol i fusnesau.

Cofiwch nad oes gan bob cynnyrch CLG ar gyfer argaeledd gwasanaethau, a dim ond rhai sy'n gwbl gydnerth ('amser ymlaen' 100%).

Mae hyn yn golygu y gallai fod 'amser i lawr' dros dro yn eich gwasanaeth o bryd i'w gilydd. Er enghraifft, byddai SLA 99.9% yn golygu y gallai eich gwasanaethau fod i lawr ar gyfartaledd am ddeng munud yr wythnos.

Mae darparwyr yn cynnig opsiynau cydnerthedd ar gyfer cynhyrchion amrywiol. Gwiriwch hyn gyda'ch darparwr. Efallai mai dim ond os oes angen cysylltiad cyson ar eich busnes y bydd angen hyn arnoch.

Gall darparwyr osod rheolaeth traffig ar y rhyngrwyd o dan amgylchiadau penodol. Gallai hyn effeithio ar eich gwasanaethau os ydych yn cyflawni gweithgareddau sy'n ddwys o ran data. Gweler ein canllaw cyflwyniadol i niwtraliaeth y rhyngrwyd am ragor o wybodaeth.

Cynhyrchion preswyl a busnes: gwybod beth sydd ei angen arnoch

Mae llawer o ddarparwyr yn gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau preswyl a busnes, ac oherwydd bod tua chwarter o fusnesau MBaCh yn gweithredu o swyddfa gartref, mewn rhai achosion efallai y bydd gennych ddefnydd deuol ar gyfer eich cysylltiad.

Os ydych chi'n fusnes sy'n ystyried gwasanaeth preswyl, edrychwch ar y telerau ac amodau, gan na fydd pob darparwr yn caniatáu i chi ddefnyddio tariff preswyl at ddibenion busnes. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gontractau symudol.

Mae yna fanteision i rai cynhyrchion busnes penodol. Er enghraifft, yn aml bydd gan gynhyrchion llinell dir lefelau gwasanaeth gwell, gwasanaeth cwsmeriaid â blaenoriaeth, a nodweddion eraill, fel opsiwn i sefydlu rhif busnes Rhadffôn.

Gall cynhyrchion band eang busnes gynnwys cyflymder uwch, cyfeiriadau IP statig, cyfeiriadau e-bost ar gyfer eich cwmni, parthau gwefannau a gofod gwe os ydych chi am adeiladu gwefan. Gallent hefyd gynnwys nodweddion diogelwch gwell.

Gallai tariffau symudol busnes fod o fudd i'ch busnes. Efallai y byddant yn cynnig cynlluniau data a rennir sy'n cael eu lledaenu rhwng sawl set llaw, galwadau rhatach rhwng y setiau llaw hynny, a mynediad at apiau ac offer perthnasol.

Ewch ati i negodi

Efallai y gallwch negodi manylion penodol gyda'ch cyflenwr cyn cytuno i dderbyn gwasanaeth. Gallwch ofyn am wybodaeth ynghylch amodau eich contract, fel yr esbonnir ar ein tudalen contractau.

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig