Mae Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yn opsiwn sydd ar gael i gwsmeriaid telegyfathrebiadau pan fyddant yn anfodlon â chanlyniad eu cwyn gyda darparwr, neu os yw eu cwyn yn dal heb ei datrys ar ôl wyth wythnos. O dan yr amodau hyn, gall cwsmeriaid gyflwyno eu cwyn i gynllun ADR, sef corff annibynnol sy’n cynnal asesiad diduedd o’u cwyn heb ei datrys, yn rhad ac am ddim.
Ar hyn o bryd mae Ofcom yn cymeradwyo dau gynllun o’r fath ar gyfer y sector telegyfathrebiadau: Yr Ombwdsmon Cyfathrebiadau a Chynllun Dyfarnu’r Gwasanaethau Cyfathrebiadau a’r Rhyngrwyd (CISAS). Mae’n ofynnol ein bod yn parhau i adolygu ein cymeradwyaeth i gynlluniau ADR ac asesu a yw’r cynlluniau’n dal i fodloni ein meini prawf cymeradwyo.
Fel rhan o’n hadolygiad, rydym wedi ystyried a yw’r amser cyn y gall defnyddwyr gael mynediad at ADR ar hyn o bryd yn dal yn effeithiol. O dan ein rheolau presennol, gall defnyddwyr fynd â’u cwyn i ADR wyth wythnos ar ôl iddynt gwyno, neu cyn hynny, os bydd yn mynd yn sefyllfa ddiddatrys. Rydym o’r farn efallai nad yw’r amserlen bresennol yn rhoi mynediad i bob defnyddiwr at ADR yn ddigon buan, mewn achosion lle nad yw eu darparwr yn gallu datrys eu cwyn. Felly, rydym yn cynnig lleihau’r amserlen cyn y gall defnyddwyr gael mynediad at ADR o wyth wythnos i chwech wythnos.
Rydym wedi cynnal ein hadolygiad o’r cynlluniau ADR ac wedi canfod bod y cynlluniau’n gweithio’n dda. Ond, rydym o’r farn y gellir gwneud rhai gwelliannau a bod modd cryfhau a diweddaru’r targedau rydym yn eu gosod ar gyfer y cynlluniau, er mwyn cyd-fynd yn well â’r arferion presennol a disgwyliadau defnyddwyr. Felly, rydym yn cynnig:
- ailgymeradwyo’r Ombwdsmon Cyfathrebiadau a CISAS, gan gynnig rhai mân welliannau y dylai’r cynlluniau eu rhoi ar waith, a
- cryfhau’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) a osodwyd gennym i gael eu bodloni gan y cynlluniau, gan eu cadw o fewn terfynau’r perfformiad presennol ar yr un pryd.
Gyda’i gilydd, bydd y cynigion hyn yn sicrhau bod y cynlluniau ADR yn parhau i weithio’n dda i ddefnyddwyr, gan sicrhau bod ein rheolau’n effeithiol o ran hwyluso mynediad at ADR i ddefnyddwyr.
Rydym yn cynnig bod yr amserlen newydd mewn perthynas â mynediad at ADR yn dod i rym chwe mis ar ôl cyhoeddi ein penderfyniad terfynol, ac y bydd y DPA newydd ar gyfer y cynlluniau ADR yn dod i rym dri mis ar ôl cyhoeddi ein penderfyniad terfynol.
Rydym yn ymgynghori ynghylch ein cynigion tan 12 Mawrth 2025, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad terfynol erbyn haf 2025.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb erbyn 5pm 12 Mawrth 2025 fan bellaf.
Ymatebion i Alwad am Fewnbwn
Sut i ymateb
ADR Review team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA