Anxious woman on phone

Datgelu pwy yw’r darparwyr telegyfathrebiadau a theledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt

Cyhoeddwyd: 27 Ebrill 2023
Diweddarwyd diwethaf: 27 Ebrill 2023

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf ar gyfer cwynion a gafwyd am y prif ddarparwyr ffonau llinell dir, ffonau symudol, band eang a theledu-drwy-dalu yn y DU rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022.

Dyma grynodeb o’r hyn mae’r data cwynion diweddaraf yn ei ddangos:

  • Parhaodd Shell Energy i fod y darparwr ffôn llinell dir a band eang a gafodd y nifer mwyaf o gwynion, gan ddenu mwy o gwynion am ei wasanaeth ffôn llinell dir nag yn y chwarter blaenorol (Gorffennaf i Medi 2022). Roedd y cwynion a wnaed gan gwsmeriaid yn ymwneud yn bennaf â namau, gwasanaeth a darpariaeth.
  • Sky eto a gynhyrchodd y nifer lleiaf o gwynion am fand eang, gydag EE a Sky yn aros yn gydradd fel y darparwyr llinell dir y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.
  • BT Mobile, Virgin Mobile ac O2 oedd y gweithredwyr symudol y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt, gyda chwsmeriaid yn cwyno’n bennaf am sut cafodd eu cwynion eu trin (BT Mobile, Virgin Mobile), eu profiad o namau, gwasanaeth a darpariaeth (O2), yn ogystal â phroblemau wrth newid darparwr (BT Mobile). Sky Mobile, EE, Tesco Mobile a Three a ddenodd y nifer lleiaf o gwynion yn y sector ffôn symudol.
  • Virgin Media a BT oedd y darparwyr gwasanaeth teledu-drwy-dalu a gafodd y nifer fwyaf o gwynion. Roedd cwsmeriaid Virgin Media yn fwyaf tebygol o fod yn anfodlon â sut roedd yn delio â’u cwynion, ac roedd cwsmeriaid BT yn cwyno am eu profiadau o namau, gwasanaeth a darpariaeth. Sky gafodd y nifer lleiaf o gwynion am deledu-drwy-dalu.

Rydym yn parhau i boeni am y nifer fawr o gwynion y mae Shell yn eu cael yn gyson. Rydym yn parhau i ymgysylltu’n agos â’r darparwr ynghylch ei gynlluniau i godi ei safonau gwasanaeth i gwsmeriaid, ac rydym yn disgwyl gweld gwelliannau dros y misoedd nesaf.

Roedd nifer y cwynion a gawsom yn ystod y cyfnod hwn yn debyg i’r chwarter blaenorol. Roedd cwynion am wasanaethau llinell dir a theledu-drwy-dalu wedi gostwng rhywfaint, tra bod y cwynion am wasanaethau band eang sefydlog a ffôn symudol talu’n fisol wedi aros yr un fath.

Flwyddyn ar ôl blwyddyn, roedd nifer y cwynion a gawsom am wasanaethau band eang wedi cynyddu ychydig, ac roedd y cwynion am wasanaethau ffôn llinell dir, symudol talu’n fisol a theledu-drwy-dalu wedi aros yr un fath.

Yn ôl i'r brig