Complaints-2024-(Web)

Datgelu’r ffigurau diweddaraf am gwynion am gwmnïau telegyfathrebiadau a theledu-drwy-dalu

Cyhoeddwyd: 25 Gorffennaf 2024

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf am y cwynion a gafwyd am y prif gwmnïau sy’n darparu gwasanaethau ffôn sefydlog, ffôn symudol, band eang a theledu-drwy-dalu yn y DU.

Mae’r ffigurau hyn yn cwmpasu chwarter cyntaf y flwyddyn hon, o fis Ionawr i fis Mawrth.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, gostyngodd y cwynion o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Roedd nifer y cwynion am wasanaethau ffôn sefydlog, band eang sefydlog a theledu-drwy-dalu i gyd wedi gostwng, ond roedd cwynion am wasanaethau symudol wedi cynyddu rhyw fymryn.

Y prif ganfyddiadau:

  • NOW Broadband oedd y darparwr band eang y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano, gyda chwynion yn bennaf am y ffordd roedd y cwmni wedi delio â chwynion.
  • NOW Broadband, EE a Virgin Media oedd y darparwyr ffôn sefydlog y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt. Roedd y cwynion am NOW a Virgin yn seiliedig yn bennaf ar sut roeddent yn delio â chwynion, ac roedd y cwynion am EE yn ymwneud yn bennaf â diffygion, y gwasanaeth ei hun a’r gwaith o sefydlu’r cysylltiad.
  • Virgin Media oedd y darparwr teledu-drwy-dalu y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano, gyda chwynion gan gwsmeriaid yn seiliedig yn bennaf ar y ffordd roedd y cwmni wedi delio â chwynion. Sky ac EE oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu a gafodd y nifer lleiaf o gwynion.
  • Utility Warehouse gafodd y nifer lleiaf o gwynion am wasanaethau ffôn sefydlog. Sky a Shell Energy gafodd y nifer lleiaf o gwynion am wasanaethau band eang.
  • O2 yw’r gweithredwr symudol y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano o hyd, gyda’r cwynion unwaith eto’n deillio’n bennaf o’r ffordd y deliwyd â chwynion cwsmeriaid. Tesco Mobile, Sky Mobile, EE a Vodafone oedd y darparwyr symudol a gafodd y nifer lleiaf o gwynion.

Rydyn ni’n falch o weld gostyngiad mewn cwynion o’i gymharu â’r chwarter blaenorol – ac mae’n arbennig o galonogol gweld gwelliannau ymhlith rhai o’r darparwyr rydyn ni wedi ymgysylltu â nhw o’r blaen yn dilyn perfformiad gwael.

Fodd bynnag, nid da lle gellir gwell. Mae’n werth nodi mai un broblem fawr i gwsmeriaid yw sut mae darparwyr yn delio â’u cwynion – dyma sy’n gyrru llawer o’r cwynion rydyn ni’n eu cael. Felly mae hwn yn amlwg yn faes lle mae’n rhaid i ddarparwyr wneud yn well.

- Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Polisi

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, gall cwsmeriaid gwyno wrth Ofcom am eu gwasanaethau telegyfathrebiadau a theledu-drwy-dalu. Er nad ydym yn gallu delio â chwynion unigol, mae’r wybodaeth a dderbyniwn yn ein galluogi i nodi prif achosion anfodlonrwydd cwsmeriaid. A thrwy gyhoeddi’r ffigurau hyn am gwynion, gallwn helpu cwsmeriaid i ddewis y darparwr cywir iddyn nhw.

Gweler y tablau isod i gael rhagor o fanylion.

Band eang

Llinell dir

Symudol

Teledu trwy dalu

 *BT TV wedi’i ail-frandio i EE TV ddiwedd 2023. O’r herwydd, mae’n bosibl bod cwynion rhai cwsmeriaid i ni yn dal i gael eu gwneud o dan frand BT yn hytrach nag EE wrth i’r brand gael ei ail-frandio.

Yn ôl i'r brig