Rydym am i gwsmeriaid allu manteisio ar y dewis eang o wasanaethau sydd ar gael a siopa o gwmpas yn hyderus, fel y gallant gael y bargeinion gorau ar gyfer eu hanghenion. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, cyflwynwyd rheolau newydd, a ddaeth i rym yn 2020, gan ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr anfon gwybodaeth bwysig at eu cwsmeriaid – pan fydd eu contractau'n dod i ben ac yn rheolaidd wedi hynny. Rydym hefyd wedi sicrhau ymrwymiadau gan ddarparwyr mawr i ddiogelu cwsmeriaid rhag mathau penodol o arferion prisio. Mae'r adroddiad hwn yn archwilio effaith y mesurau hyn hyd yn hyn.
Diweddariad 10 Mai 2024 – gwerthusiad ex-post o effaith cyflwyno hysbysiadau tariff gorau blynyddol (ABTN) a hysbysiadau diwedd contract (ECN) ar ail-gontractio a newid darparwr ar gyfer gwasanaethau symudol
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi gwerthusiad ex-post o effaith cyflwyno ABTN ac ECN ar ail-gontractio a newid darparwr ar gyfer gwasanaethau symudol. Mae’r asesiad yn yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar effeithiau ABTN ac ECN ar ganlyniadau i gwsmeriaid symudol. Rydym yn defnyddio technegau econometrig i asesu effeithiau uniongyrchol ABTN ac ECN ar ail-gontractio a newid darparwr gan gwsmeriaid wrth reoli ffactorau eraill.
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi gwerthusiad wedi'r ffaith o effaith cyflwyno ECN ar ail-gontractio a phrisio ar gyfer gwasanaethau band eang. Mae'r asesiad yn yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar effeithiau ECN ar ganlyniadau sefydlog i gwsmeriaid band eang. Rydym yn defnyddio technegau econometrig i asesu effeithiau uniongyrchol ECN ar ail-gontractio cwsmeriaid ar yr un pryd â rheoli ar gyfer ffactorau eraill.
Prif ddogfennau
Dogfennau ategol
Mae Ofcom yn credu’n gryf y dylai cwsmeriaid gael bargen deg ar gyfer eu gwasanaethau cyfathrebu. Rydyn ni eisiau i gwsmeriaid allu manteisio ar y dewis eang o wasanaethau sydd ar gael a siopa’n hyderus, fel eu bod yn gallu cael y bargeinion gorau ar gyfer eu hanghenion. I helpu cwsmeriaid i wneud hyn, rydyn ni’n gorfodi gofynion newydd ar ddarparwyr i anfon gwybodaeth bwysig at eu cwsmeriaid pan mae eu contractau’n dod i ben ac yn rheolaidd ar ôl hynny.
Mae ein hanghenion newydd yn golygu bod yn rhaid i gwmnïau band eang, ffonau symudol, ffonau cartref a theledu drwy dalu hysbysu eu cwsmeriaid preswyl a busnes ynghylch pryd mae cyfnod sylfaenol eu contract yn dod i ben. Bydd yr hysbysiadau hyn yn rhoi gwybod i gwsmeriaid preswyl am y tariffiau gorau sydd ar gael gan eu darparwyr. Bydd cwsmeriaid busnes yn derbyn hysbysiad i roi gwybod iddynt am y wybodaeth tariffiau gorau iddyn nhw. Yn ogystal bydd yr holl gwsmeriaid sydd tu allan i'w cyfnod contract yn cael y wybodaeth tariffiau gorau gan eu darparwyr o leiaf unwaith y flwyddyn.
Bydd y newidiadau hyn yn golygu bod darparwyr yn anfon gwybodaeth sydd wedi ei phersonoleiddio a'i deilrwa i filiynau o gwsmeriaid unigol. I sicrhau eu bod yn gwneud hyn yn iawn, bydd gan gwmnïau naw mis i wneud y newidiadau angenrheidiol i'w systemau a'u prosesau. Bydd cwsmeriaid yn dechrau derbyn yr hysbysiadau ar 15 Chwefror 2020.
Mae ein datganiad yn nodi'n fanwl yr anghenion rydyn ni'n gosod ar y cwmnīau.