Contractau

Cyhoeddwyd: 16 Ionawr 2023

Os ydych chi'n ystyried ymrwymo i gontract newydd, mae yna ychydig o bethau efallai y byddwch eisiau eu hystyried yn gyntaf.

Er enghraifft:

  • A fydd y swm rydych chi'n ei dalu bob mis yn aros yr un fath dros gyfnod y contract?
  • Ydych chi wedi gwirio beth yw'r isafswm cyfnod contract a gynigiwyd i chi, a pha gyfnod rhybudd sy'n ofynnol i chi ei roi i'ch darparwr?
  • Os bydd y telerau y gwnaethoch chi gytuno iddyn nhw ar ddechrau'r contract yn newid neu'n cynyddu'n annisgwyl, beth yw eich hawliau?

Mae'r dudalen hon yn helpu i ateb y cwestiynau hyn.

Mae'r pris rydych chi'n ei dalu bob mis yn debygol o fod yn un o'r ffactorau pwysicaf yn eich dewis o gontract. Gall fod yn:

  • Sefydlog - dyma bris unigol sy'n sefydlog dros gyfnod cyfan y contract e.e. £20 y mis am 24 mis.
  • Mewn haenau - lle rydych yn cytuno i dalu prisiau gwahanol ar adegau gwahanol, e.e. £10 y mis am y 12 mis cyntaf a £15 y mis am y 12 mis wedyn. Neu £10 y mis am 12 mis, yna £10 a chynnydd canrannol (er enghraifft yn unol â chwyddiant).
  • Amrywiol - lle rydych yn cytuno i dalu pris tanysgrifiad craidd am gyfnod penodol y contract, ond mae'r darparwr yn cadw'r hawl i godi'r pris yn ôl ei ddisgresiwn.

Waeth pa fath o gontract sydd gennych, dylai'r swm rydych chi'n ei dalu bob mis yn ystod y contract gael ei esbonio'n glir i chi cyn i chi gofrestru.

Os bydd eich darparwr yn cynyddu'r prisiau rydych chi'n eu talu y tu hwnt i'r hyn y gwnaethoch gytuno iddo ar adeg llofnodi'r contract, mae'n rhaid iddynt roi o leiaf un mis o rybudd i chi a hawl i adael y contract heb gosb.

Mae gan rai darparwyr gontractau sy’n nodi y bydd y prisiau misol rydych chi'n eu talu’n cynyddu ar rai adegau yn ystod y contract, er enghraifft cynyddu yn unol â chwyddiant bob blwyddyn. Dylai hyn gael ei egluro i chi pan fyddwch yn llofnodi'r contract fel eich bod yn gwybod beth fydd yn rhaid i chi ei dalu ar wahanol adegau yn y contract. Ymdrinnir â hyn yn ein harweiniad ar ofynion contract (PDF, 443.3 KB). Os esboniwyd hyn yn glir ar yr adeg y gwnaethoch ymrwymo i'r contract, ni fydd gennych yr hawl i adael heb gosb pan fydd y cynnydd yn digwydd.

Gall busnesau bach (gyda deg gweithiwr neu lai) gael gwybod mwy am gynnydd mewn prisiau a phethau i'w hystyried wrth ymrwymo i gontract ffôn neu fand eang newydd yn ein rhestr wirio.

Mae gan bob busnes hawl i ofyn am gynnwys gwybodaeth benodol yn eu contract ar ffurf sy'n glir, yn ddealladwy ac yn hawdd cael gafael arni. Gall hyn gynnwys:

  • Gwybodaeth ynghylch a allai unrhyw wasanaethau gael eu cyfyngu neu eu rhwystro mewn unrhyw ffordd;
  • Manylion isafswm lefelau ansawdd y gwasanaeth a gynigir, e.e. ansawdd parhaus y gwasanaeth a'r amser cysylltu cychwynnol;
  • Y gwasanaeth cwsmer a chynnal a chadw sy'n dod gyda'r contract;
  • Manylion hyd y contract, amodau o ran adnewyddu; a
  • Manylion unrhyw daliadau sy'n ddyledus wrth ddod â chontract i ben (gan gynnwys taliadau terfynu cynnar).

Os ydych chi'n ddefnyddiwr busnes bach (gyda deg gweithiwr neu lai) ac yn ystyried ymrwymo i gontract newydd, mae'n rhaid i'r darparwr roi gwybodaeth allweddol i chi am y contract cyn i chi ymrwymo.

Cyn i chi fedru rhoi eich caniatâd i ymrwymo i gontract, dylech dderbyn crynodeb contract ysgrifenedig un dudalen (tair tudalen ar gyfer gwasanaethau wedi'u bwndelu), sy'n cynnwys gwybodaeth allweddol megis taliadau, hyd y contract a'r broses ar gyfer canslo. Cyn i chi gael eich rhwymo gan y contract, mae'n rhaid i'r darparwr hefyd roi set fanylach o wybodaeth contract ysgrifenedig i chi. Gall cwsmeriaid ofyn am gael y rhain mewn fformat sy'n rhesymol dderbyniol, megis print mawr a Braille, os oes anabledd ganddynt. Os nad ydych yn glir ynglŷn â'r hyn y gofynnir i chi gytuno iddo, rydym yn argymell nad ydych yn ymrwymo hyd nes eich bod yn deall telerau'r contract yn llawn.

Cofiwch ystyried a yw unrhyw daliadau ychwanegol yn berthnasol o fewn y contract rydych chi'n bwriadu ymrwymo iddo. Gallai'r rhain gynnwys costau ar gyfer rhannau ychwanegol o'r gwasanaeth, costau i adael y gwasanaeth yn gynnar, costau i gael biliau papur, costau ar gyfer crwydro a chostau am beidio â darparu digon o rybudd os byddwch yn canslo'ch gwasanaeth neu'n newid darparwr.

Mae contractau sy'n adnewyddu'n awtomatig yn gontractau sy'n symud ymlaen yn awtomatig at isafswm cyfnod contract newydd - gyda chosbau am adael - oni bai bod y cwsmer yn mynd ati'n rhagweithiol i beidio ag adnewyddu.

Os ydych chi'n fusnes bach (gyda deg gweithiwr neu lai) gyda gwasanaethau llinell dir a/neu fand eang, nid oes gan eich darparwr hawl i adnewyddu cyfnod eich contract yn awtomatig - mae'n rhaid iddo gael eich caniatâd ar gyfer pob isafswm cyfnod contract newydd y byddwch yn ymrwymo iddo.

Dylai busnesau sydd â mwy na deg o weithwyr wirio eu telerau'n ofalus i weld a ydyn nhw'n adnewyddu'n awtomatig cyn cofrestru.  Pan fydd contractau presennol yn cynnwys telerau adnewyddu awtomatig efallai y bydd y busnesau hyn am gysylltu â'u darparwr a thrafod adnewyddu unrhyw isafswm cyfnod contract.

Dylech roi sylw penodol i hyd y contract, neu 'isafswm cyfnod y contract' wrth ddewis gwasanaeth a darparwr. Dyma'r amser lleiaf posib y mae'n rhaid i chi gymryd y gwasanaethau y byddwch yn cofrestru ar eu cyfer.

Os byddwch yn canslo eich gwasanaethau cyn hynny, mae'n bosib y bydd angen i chi dalu taliadau terfynu cynnar. Gallai'r taliadau hyn fod yn sylweddol, a dylech chi wirio telerau ac amodau eich contract wrth gofrestru.

Os ydych yn ddefnyddiwr busnes bach (gyda deg gweithiwr neu lai) ni ddylai hyd eich contract fod yn hwy na 24 mis ac ni ddylid ymestyn hyd eich contract pan fyddwch yn prynu gwasanaeth ychwanegol, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'r cyfnod rhybudd y mae angen i chi ei roi os ydych yn canslo neu'n newid eich gwasanaethau. Os ydych yn newid i ddarparwr symudol newydd gan ddefnyddio'r broses Newid Awtomatig, mae'n rhaid i'ch darparwr presennol beidio â chodi tâl arnoch am gyfnod rhybudd sy'n parhau y tu hwnt i'r dyddiad newid.

Dylai eich darparwr sicrhau nad yw ei amodau neu weithdrefnau ar gyfer terfynu contract yn ei gwneud hi'n anoddach i chi newid darparwr. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, daliadau terfynu cynnar gormodol neu gyfnodau rhybudd sy'n rhy hir.

Efallai y bydd gan eich contract busnes gytundeb lefel gwasanaeth ('CLG'). Dim ond hanner o fentrau bach a chanolig sy'n ymwybodol o CLG felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio gyda'ch darparwr wrth gofrestru.

Bydd CLG yn diffinio telerau'r gwasanaeth a gaiff ei ddarparu i chi, ac yn amlinellu gwybodaeth am gefnogaeth a datrys problemau. Mae darparwyr yn cynnig pecynnau gyda lefelau gofal gwell am bris premiwm, a gall pecynnau gwahanol gyd-fynd â gwahanol gynhyrchion a brynwyd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i'ch darparwr am CLG a lefel y gwasanaeth parhaus y gallwch ei ddisgwyl, gan y gall hyn fod yn hynod o bwysig i'ch busnes. Gall CLG gynnwys materion fel:

  • amseroedd trwsio diffygion a'r amser i osod y gwasanaeth;
  • pa mor gyflym y gweithredir ar ymholiadau neu gwynion;
  • lefelau darpariaeth;
  • cyflymder y cysylltiad; ac
  • uchafswm nifer y dyddiau heb wasanaeth

Gall CLG ddod gyda gwarantau lefel gwasanaeth ('GLG'), ac fel arfer mae trefniadau iawndal yn eu lle os na fodlonir y CLG.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig