Diffygion a phroblemau gyda band eang a llinell dir

Cyhoeddwyd: 13 Hydref 2023

Ydych chi’n cael problemau gyda'ch ffôn cartref neu’ch band eang?

Ydy eich gwasanaeth band eang yn arafach o lawer nag oedd o’n arfer bod? Ydych chi wedi dechrau cael problemau wrth gysylltu, neu oes yna nam ar eich llinell ffôn?

Rydym yn gwybod y gall fod yn rhwystredig pan fydd pethau’n mynd o chwith. Os ydych chi’n cael problemau, mae’r canllaw hwn yn egluro sut gallwch chi eu datrys.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw newidiadau yn ddiweddar?

Mae newidiadau syml o amgylch eich cartref yn gallu effeithio ar gyflymder cysylltiad eich band eang. Mae’r rhain yn gallu cynnwys:

Defnyddio cebl estyniad ffôn neu newid eich gwifrau. Mae ceblau estyniad yn gallu achosi ymyriant sy’n arafu eich cyflymder. Os oes yn rhaid i chi ddefnyddio cebl estyniad, defnyddiwch gebl newydd o ansawdd uchel sydd â’r hyd lleiaf posibl. Mae ceblau sydd mewn coil neu mewn clymau hefyd yn gallu effeithio ar gyflymder.

Microhidlyddion. Mae microhidlyddion yn edrych fel blychau bach gwyn ac yn hollti’r signalau ffôn a band eang fel nad ydyn nhw’n effeithio ar ei gilydd. Dylid eu plygio ym mhob soced ffôn rydych chi’n ei ddefnyddio yn eich cartref.

Ychwanegu dyfeisiau trydanol newydd. Credir bod y canlynol i gyd yn effeithio ar lwybryddion - lampau halogen, switshys pylu golau, seinyddion stereo neu gyfrifiadur, goleuadau Nadolig, setiau teledu, monitorau a gwifrau pŵer AC. Cadwch eich llwybrydd cyn belled ag y gallwch oddi wrth ddyfeisiau trydanol eraill yn ogystal â'r rheini sy’n allyrru signalau di-wifr (fel ffonau di-wifr neu fonitor babi).

Symud eich llwybrydd oddi ar y llawr. Ceisiwch roi eich llwybrydd ar fwrdd neu ar silff yn hytrach nag ar y llawr. Bydd lleihau faint o rwystrau sydd rhwng eich llwybrydd a’ch cyfrifiadur yn rhoi amrediad di-wifr gwell i chi.

Gwaith adeiladu. Gallai cynyddu nifer neu drwch waliau rhwng y llwybrydd a’r dyfeisiau rydych chi’n eu defnyddio hefyd effeithio ar gyflymder eich band eang.

Os ydych chi’n credu y gallai unrhyw un o’r uchod fod yn achosi eich problemau, holwch eich darparwr. Dylen nhw allu cynnig cyngor ar sut mae gwella eich gwasanaeth. Gallwch chi hefyd ddarllen ein hawgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella cyflymder eich band eang.

Os oeddech chi wedi prynu eich gwasanaeth ffôn/band eang ar-lein neu dros y ffôn a'ch bod yn newid eich meddwl am eich contract, gallwch chi ganslo’r gwasanaeth hyd at 14 diwrnod ar ôl i chi ymrwymo i’r contract.

Os ydy’r cyflymder band eang rydych chi’n ei gael yn is o lawer na’r amcan gwreiddiol a roddodd eich darparwr i chi, efallai eich bod yn cael eich amddiffyn o dan y Cod Ymarfer gwirfoddol sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd

Ai’r rhwydwaith neu’r offer sy’n achosi’r broblem?

Weithiau mae’r broblem gyda’r offer mae’r darparwr wedi’i roi i chi, neu’r meddalwedd sydd arno. Mae llwybryddion hŷn yn gallu achosi problemau cysylltu ac efallai bydd angen eu huwchraddio i’r model diweddaraf neu efallai bydd angen diweddaru’r meddalwedd. Os ydych chi’n meddwl fod problem gyda'ch llwybrydd, cysylltwch â’ch darparwr. Ond cofiwch, efallai bydd rhai darparwyr yn codi arnoch chi am un newydd, felly holwch yn gyntaf.

Efallai bydd eich darparwr yn gallu canfod unrhyw broblem dechnegol drwy gael mynediad i’ch llwybrydd o bell. Mae hyn yn aml yn cael gwared â’r angen i anfon peiriannydd draw.

Efallai bydd eich darparwr yn gofyn i chi gysylltu eich cyfrifiadur yn uniongyrchol i’ch llinell ffôn gyda chebl Ether-rwyd (cebl rhwydwaith cyfrifiadurol - sydd yn aml yn felyn - a ddylai roi cysylltiad cyflymach a mwy dibynadwy i chi). Mae hyn yn helpu i sefydlu a oedd nam ar y llinell.

Efallai bydd eich darparwr hefyd yn cynnal prawf cyflymder ar y llinell i weld beth yn union ydy'r cyflymder rydych chi’n ei gael. Gallwch chi hefyd wneud hyn eich hun. Mae gan wefannau cymharu prisiau, sydd wedi cael eu hachredu gan Ofcom, Broadband.co.uk a broadbandchoices.co.uk brofion cyflymder.

Rhowch gynnig ar ddefnyddio dyfeisiau gwahanol i weld a gewch chi’r un broblem gyda phob un. Os yw’n ymddangos bod y broblem yn effeithio ar un ddyfais yn fwy nag eraill, gwnewch yn siŵr bod y meddalwedd diogelwch diweddaraf wedi’i osod. Mae firysau cyfrifiadur a drwgwedd yn gallu arafu dyfais.

Ydy'r broblem yn effeithio ar bobl eraill?

Efallai fod y broblem yn fwy cyffredinol na dim ond eich cysylltiad band eang neu ffôn chi.

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig gwiriwr gwasanaeth neu statws - naill ai ar-lein neu drwy ap - sy’n rhestru problemau mawr mae rhwydweithiau’n gwybod amdanyn nhw.

Dylai'r wybodaeth hon hefyd fod ar gael dros y ffôn - naill ai drwy neges awtomatig, neu gan dîm gwasanaeth i gwsmeriaid eich darparwr. Yn aml bydd yr wybodaeth hon yn dweud wrthych chi pryd byddan nhw’n disgwyl i’r broblem gael ei datrys.

Os nad ydy’ch problem chi wedi’i rhestru ar y gwiriwr gwasanaeth, holwch eich darparwr oherwydd efallai nad yw’n ymwybodol ohoni eto.

Os ydych chi wedi bod heb y lefel o wasanaeth a gafodd ei addo i chi, efallai byddwch chi’n gallu hawlio rhyw fath o iawndal - edrychwch isod.

Symud cartref?

Os ydych chi’n symud cartref, holwch i weld pa fath o wasanaeth gall eich darparwr ei gynnig i chi yn eich cyfeiriad newydd.

Os na all eich darparwr gynnig y lefel o wasanaeth byddwch chi ei hangen yn eich cyfeiriad newydd, gofynnwch iddyn nhw faint byddech chi angen ei dalu os byddech chi eisiau canslo. Ni fyddai pob cwmni'n gofyn i chi dalu tâl terfynu cynnar dan yr amgylchiadau hyn.

Pwy sy’n gyfrifol am drwsio’r diffyg?

Mae eich contract chi gyda’ch darparwr, felly nhw sy’n gyfrifol am sicrhau bod namau’n cael eu trwsio ac am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd sy’n cael ei wneud.

Beth os nad ydy fy narparwr i yn berchen ar y rhwydwaith?

Hyd yn oed os oes cwmni arall (fel Openreach) yn rheoli’r rhwydwaith sy’n cael ei ddefnyddio i ddarparu eich gwasanaeth, dim ond eich darparwr bydd angen i chi ddelio â nhw.

Efallai bydd angen i’ch darparwr anfon peiriannydd i’ch eiddo i gynnal profion. Gallai'r unigolyn hwn fod o’ch darparwr chi neu o Openreach. Os bydd angen i’ch darparwr anfon peiriannydd dylen nhw ddweud wrthych ymlaen llaw os ydyn nhw’n codi tâl am ymweliadau o’r fath. Os ydyn nhw’n codi tâl, dylen nhw ddweud wrthych pryd gellid disgwyl i chi dalu a faint (er enghraifft os canfyddir mai ar eich offer chi mae’r nam). Ni fydd pob darparwr yn codi ffi am ymweliadau gan beiriannydd.

Os oedd eich darparwr wedi addo anfon peiriannydd i’ch gweld chi ond na chyrhaeddodd y peiriannydd, dylech chi gwyno wrth eich darparwr oherwydd efallai bydd yn cynnig iawndal. Os bydd angen i chi newid amser yr apwyntiad, rhowch wybod i’ch darparwr cyn gynted ag y gallwch chi ymlaen llaw

Pa mor hir dylwn i aros i’w drwsio?

Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai eich darparwr allu canfod yn weddol gyflym beth aeth o’i le. Os mai bai ar wasanaeth rhwydwaith ydyw, dylen nhw ddweud wrthych sut a phryd y caiff ei drwsio. Os nad ydy eich darparwr yn berchen ar y rhwydwaith, bydd angen iddyn nhw ddelio â’r cwmni hwnnw ar eich rhan.

Gofynnwch i’ch darparwr sut bydd yn rhoi gwybod i chi am y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda'r trwsio. Efallai bydd hyn drwy eu tîm gwasanaeth i gwsmeriaid, ap gwasanaeth neu wrth i chi gofrestru i gael diweddariadau am namau. Rhowch gyfnod rhesymol i’ch darparwr drwsio’r broblem.

Mae rhai cwmnïau yn cynnig gwasanaeth trwsio namau blaenoriaeth ar gyfer cwsmeriaid sy’n dibynnu ar y ffôn oherwydd salwch neu anabledd a bod angen trwsio’r nam ar frys.

Os nad ydy’r gwasanaeth nam blaenoriaeth hwn gennych chi ond byddech chi’n hoffi ei gael, cysylltwch â’ch darparwr i drafod sefydlu hynny.

Aros mewn cysylltiad wrth i namau gael eu datrys

Holwch eich darparwr os ydyn nhw’n cynnig ffyrdd eraill o gael gafael ar eich gwasanaeth tra bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud.  Efallai byddant yn cynnig gwyro galwadau, neu efallai byddwch chi’n gallu llwytho ap i lawr a fydd yn caniatáu i chi gael gafael ar eich gwasanaethau drwy eich dyfais symudol.

Oes gen i hawl i gael iawndal?

Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai ei bod hi’n briodol i’ch darparwr gynnig rhywfaint o arian yn ôl i chi wrth i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

Pan fydd y gwaith trwsio yn cymryd llawer mwy o amser (er enghraifft os bydd angen iddyn nhw dyrchu ffyrdd neu gael gafael ar ganiatâd i gael mynediad i dir i wneud y gwaith trwsio), efallai bydd gennych chi hawl i gael ad-daliad ychwanegol neu gredyd i’ch cyfrif.

Os ydych chi wedi bod heb y gwasanaeth am gryn amser, efallai bydd gennych hawl i adael y contract heb gosb. Efallai fod un o’r telerau yn eich contract yn dweud y gallwch wneud hyn os yw’ch darparwr wedi methu yn ei ddyletswyddau i chi neu wedi torri un o'r prif amodau.

Os ydy’r cyflymder band eang rydych chi’n ei gael yn is o lawer na’r amcan gwreiddiol a roddodd eich darparwr i chi, efallai eich bod yn cael eich amddiffyn o dan y Cod Ymarfer gwirfoddol sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd

Iawndal awtomatig

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, bydd cwsmeriaid band eang a ffôn cartref yn cael arian yn ôl gan eu darparwr gwasanaeth ar gyfer oedi cyn trwsio, methu apwyntiadau peirianwyr ac oedi cyn dechrau gwasanaeth newydd – heb orfod gofyn amdano.

I gael rhagor o wybodaeth am iawndal awtomatig, darllenwch ein canllaw.

Sut mae cwyno?

Os bydd eich darparwr yn methu â thrwsio nam erbyn y dyddiad a addawyd, neu os ydych chi’n anfodlon â'r amser mae’n ei gymryd, dilynwch weithdrefn gwyno ffurfiol eich darparwr. Dylai gwefan y darparwr neu’r tîm gwasanaeth i gwsmeriaid egluro hyn.

Os bydd eich problem yn dal heb ei datrys ar ôl wyth wythnos, gallwch chi gwyno wrth gynllun Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) annibynnol. Gofynnwch i’ch darparwr am lythyr ‘sefyllfa ddiddatrys’ er mwyn i chi allu cyfeirio eich anghydfod at y cynllun Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod perthnasol yn uniongyrchol cyn y terfyn wyth wythnos.

Mae Ofcom wedi cymeradwyo dau gynllun ADR: CISASCommunications Ombudsman.

Bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi pa gynllun mae’n aelod ohono, neu gallwch chi ddefnyddio ein gwiriwr Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod.

Dweud wrth Ofcom

Os ydych chi wedi cael profiad namau neu waith trwsio sydd heb ei gwblhau, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein ffurflen fonitro fer.

Er nad yw Ofcom yn archwilio cwynion unigol, mae eich help chi yn tynnu sylw at broblemau yn chwarae rhan hanfodol yn ein gwaith ac efallai fe wnawn ni archwilio cwmni os ydy’r data monitro yn datgelu problem benodol.

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig nifer o ffyrdd i gysylltu â nhw ynghylch nam. Mae’r rhain yn cynnwys dros y ffôn, ar-lein, swyddogaeth ‘sgwrsio byw’ neu ap gwasanaeth.

Cysylltwch â’ch darparwr cyn gynted ag sy’n bosibl a cheisio disgrifio’r nam orau gallwch. Disgrifiwch y camau rydych chi wedi’u cymryd yn barod ac eglurwch sut mae’r broblem yn effeithio ar sut rydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth.

Efallai bydd angen i chi egluro:

  • yr adegau o’r dydd pan fydd y broblem yn digwydd;
  • pa mor hir mae hyn wedi effeithio ar y gwasanaeth;
  • ydy'r broblem yn barhaus neu’n digwydd bob hyn a hyn; ac
  • ar gyfer band eang, ydy'r broblem ddim ond yn digwydd pan fyddwch chi’n defnyddio llawer o ddata (wrth lwytho ffilm i lawr, er enghraifft).

Os oes modd, anfonwch gofnod o’r ymyriadau i’ch gwasanaeth at eich darparwr ynghyd â pha mor hir roedd pob ymyriad wedi para.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig