Mae cynnydd wedi bod yn ddiweddar yn y nifer o adroddiadau am 'sbŵffio rhifau'. Dyma pryd mae sgamwyr yn newid eu rhif adnabod y galwr i guddio eu hadnabyddiaeth rhag y person y maen nhw'n ei ffonio.
Erbyn hyn mae llawer o ffonau yn dangos rhif y sawl sy'n galw cyn i chi ateb.
Mae'r nodwedd hon - sef gwasanaeth 'Adnabod y Galwr' neu 'Adnabod y Llinell sy'n Galw' (CLI) - yn ffordd gyfleus o wahanu'r galwadau rydych am eu hateb oddi wrth y rhai nad ydych chi eisiau eu hateb.
Ond, rydym wedi gweld mwy o achosion o droseddwyr a galwyr niwsans yn newid rhif adnabod y galwr yn fwriadol - arfer a elwir yn 'sbŵffio'.
Pam maen nhw'n gwneud hyn?
Weithiau, mae rheswm da pam fod galwr yn newid Rhif Adnabod y Galwr (er enghraifft, galwr sydd am adael rhif 0800 i chi ei ffonio'n ôl os ydych am wneud hynny.)
Ond gyda'r sbŵffio hyn, mae galwyr yn mynd ati'n fwriadol i newid y rhif a/neu'r enw a ddangosir o dan wybodaeth Adnabod y Galwr.
Maent yn gwneud hyn naill ai i guddio pwy ydynt neu i geisio dynwared rhif cwmni neu berson go iawn nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â'r galwr go iawn.
Er enghraifft, mae lladron hunaniaeth sydd am ddwyn gwybodaeth sensitif, fel manylion eich cyfrif banc neu'ch manylion mewngofnodi, yn defnyddio'r broses sbŵffio hon i smalio eu bod yn ffonio o'ch banc neu gwmni cerdyn credyd.
Beth sy'n cael ei wneud?
Mae galwadau sydd â rhifau wedi’u sbŵffio yn gallu dod o bob rhan o'r byd ac maent yn gyfrifol am gyfran sylweddol a chynyddol o alwadau niwsans.
Dyna pam mae Ofcom yn gweithio gyda rheoleiddwyr rhyngwladol - yn ogystal â'r diwydiant telathrebu - i ddod o hyd i atebion i'r broblem.
Mae technoleg VoIP (Protocol Llais dros y Rhyngrwyd) - y math o dechnoleg a ddefnyddir i wneud galwadau rhyngrwyd - yn aml yn cael ei defnyddio yn y broses sbŵffio. Mae Tasglu Peirianneg y Rhyngrwyd (IETF), sy’n helpu i ddatblygu safonau'r rhyngrwyd, wedi creu grŵp yn benodol i fynd i'r afael â'r broblem hon.
Beth ddylech chi ei wneud?
Mae lladron hunaniaeth a thwyllwyr eraill yn aml yn dweud eu bod yn cynrychioli banciau, cwmnïau cardiau credyd, credydwyr, neu adrannau'r llywodraeth er mwyn cael pobl i ddatgelu rhifau eu cyfrif a gwybodaeth sensitif arall.
Peidiwch byth â datgelu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch wedi ateb galwad ffôn. Peidiwch ychwaith â dibynnu ar y gwasanaeth Adnabod y Galwr fel yr unig ffordd o gael gwybod pwy sydd ar y ffôn, yn arbennig os bydd y galwr yn gofyn i chi wneud rhywbeth a allai olygu canlyniadau ariannol i chi.
Os bydd rhywun yn eich ffonio ac yn gofyn am y wybodaeth hon, peidiwch â’i darparu. Yn hytrach, rhowch y ffôn i lawr a ffoniwch y rhif ffôn sydd ar gyfriflen eich cyfrif, yn y llyfr ffôn neu ar wefan y cwmni neu adran y llywodraeth i ganfod a oedd yr alwad yn un dilys. Arhoswch bum munud cyn ffonio - mae hyn sicrhau bod y llinell wedi clirio ac nad ydych yn dal i siarad â'r twyllwr neu gyd-dwyllwr.
I roi gwybod i’r heddlu, ffoniwch 101 neu 999 os yw'r trosedd yn digwydd.
Rwy’n credu fy mod wedi cael fy nhwyllo gan rifau ffôn ffug
Dywedwch wrth Action Fraud
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, wedi bod yn destun sgam, ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ewch i www.actionfraud.police.uk. Action Fraud yw canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am droseddau rhyngrwyd a thwyll. Ond, os yw cardiau debyd, sieciau neu fancio ar-lein yn gysylltiedig â'r sgam, dylech gysylltu â’ch banc neu gwmni cerdyn credyd fel cam cyntaf.
Dywedwch wrth Safonau Masnach
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dod ar draws sgam, ffoniwch 0808 223 1133 a dweud wrth Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, a fydd yn gallu rhoi’r manylion i’r adran Safonau Masnach.
Y gwasanaeth Safonau Masnach sy’n gyfrifol am ddiogelu defnyddwyr a’r gymuned rhag masnachwyr twyllodrus a masnachwyr sy’n gweithredu’n annheg.
Dywedwch wrth eraill
Rhybuddiwch eich teulu, ffrindiau, cymdogion, y cynllun Gwarchod Cymdogaeth lleol ac ati. Os byddwch yn cael cylchlythyr amheus neu os bydd rhywun yn cysylltu â chi a chithau’n credu ei fod yn sgamiwr, cofiwch ddweud wrth bobl eraill.