Rydyn ni wedi derbyn adroddiadau am alwadau a negeseuon testun twyllodrus yn ymwneud â'r coronafeirws, neu Covid-19.
Mae twyllwyr yn galw ffonau cartref ac yn anfon negeseuon testun i ffonau symudol, sy'n cynnwys gwybodaeth anghywir a allai olygu y byddwch ar eich colled yn ariannol os ydych chi'n cael eich twyllo ganddynt.
Mae rhai galwadau a negeseuon testun yn honni eu bod gan Lywodraeth y DU, eich meddygfa, y GIG, neu hyd yn oed Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
Yn y galwadau, bydd neges wedi'i recordio neu’r person sy’n galw yn honni eu bod yn cysylltu â chi am y coronafeirws. Efallai y byddan nhw'n cynnig prawf ar gyfer y feirws, triniaeth neu wellhad, neu efallai byddan nhw hyd yn oed yn cynnig trafod eich anghenion meddygol.
Fodd bynnag, bwriad y galwadau hyn yw eich annog chi naill ai i siarad â gweithredwr, neu i wasgu botwm ar eich ffôn i gael rhagor o wybodaeth.
- Os byddwch yn siarad â gweithredwr, gallech fod mewn perygl o roi eich gwybodaeth bersonol neu eich manylion ariannol iddynt, a allai arwain at ddwyn adnabyddiaeth neu golled ariannol.
- Os byddwch yn gwasgu botwm ar eich ffôn, mae'n bosib y byddwch yn cael eich cysylltu â rhif premiwm cost uchel, gan olygu y gallech chi fod yn agored i gost sylweddol am yr alwad.
Negeseuon testun twyllodrus – pethau i gadw llygad allan amdanynt
Yn y cyfamser, mae negeseuon testun twyllodrus yn aml yn cynnwys dolenni neu atodiadau na ellir ymddiried ynddyn nhw. Peidiwch â'u clicio.
Dyma enghraifft o neges destun sgam yn Saesneg sy’n honni dod gan Lywodraeth y DU, yn cynnig taliad yn ymwneud â'r coronafeirws. Ar y chwith mae'r testun, ar y dde mae tudalen y wefan a gewch chi os ydych chi'n clicio ar y ddolen yn y testun.
Fodd bynnag, edrychwch ar yr URL – nid yw'n cysylltu â gwefan Llywodraeth y DU. Mae'n wefan ffug sy'n gofyn i chi nodi eich manylion personol – Mae'n sgam ‘gwe-rwydo’ (phishing).
Rydym hefyd wedi clywed am sgam sy'n efelychu rhybuddion neges destun swyddogol Llywodraeth y DU. Mae'r testun sgam yn y llun isod yn honni i chi gael dirwy am adael eich cartref, ac yn annog chi i glicio dolen. Dolen na allwch chi ymddiried ynddi yw hon, ac ni ddylech ei chlicio.
Os ydych chi’n meddwl y gallai un o'r galwadau neu'r negeseuon testun hyn fod yn ddilys – gan eich meddyg teulu er enghraifft – gallwch ffonio'ch meddygfa'n uniongyrchol i weld a ydynt wedi ceisio cysylltu â chi.
Galwadau sy'n honni dod gan Ofcom
Mae rhai o'r galwadau sgam yma hefyd yn honni dod gan Ofcom.
Bydd neges wedi'i recordio neu’r sawl sy’n galw yn honni, gan fod mwy o bobl yn gweithio gartref oherwydd y coronafeirws, fod angen arafu neu ddiffodd eich band eang. Fel gyda'r galwadau sgam a amlinellir uchod, byddant yn ceisio eich annog naill ai i siarad â gweithredwr, neu i wasgu botwm i gael rhagor o wybodaeth. Os byddwch yn gwneud hyn, gallech wynebu'r un risgiau.
Ni fydd Ofcom byth yn eich ffonio chi’n ddirybudd fel hyn. Os byddwch yn derbyn un o'r galwadau hyn yn honni mai ni sy’n galw, dewch â’r alwad i ben.
Hysbysiadau neges testun swyddogol Llywodraeth y DU
Tra'n cadw llygad am alwadau a negeseuon testun twyllodrus, cofiwch fod Llywodraeth y DU wedi bod yn anfon hysbysiadau swyddogol i ffonau symudol. Maen nhw'n cael eu hanfon allan fesul tipyn, felly byddwch chi'n derbyn un yn dibynnu ar ba rwydwaith symudol rydych chi'n ei ddefnyddio.
Mae'r rhain yn negeseuon dilys sy'n cynnwys diweddariadau am gyngor diweddaraf y Llywodraeth. Gallai hyn ymwneud â rheolau cyfyngiadau symud er enghraifft.
Mae'r negeseuon testun hyn yn dod gan UK_Gov' ac yn edrych fel hyn:
Yn ogystal ag edrych fel hyn, mae'r negeseuon testun yn defnyddio'r un geiriad waeth pa bynnag rwydwaith symudol rydych chi'n ei ddefnyddio.
Os ydych yn derbyn neges sy'n wahanol i hon, nid yw'n debygol o fod yn neges swyddogol gan y Llywodraeth. Dylech felly ei hanwybyddu, ei dileu a rhoi gwybod i eraill amdani.
Sgam gwe-rwydo yn gysylltiedig ag ap olrhain y coronafeirws
Mae'r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI) hefyd wedi adrodd am sgâm gwe-rwydo yn seiliedig ar ap olrhain coronafeirws Llywodraeth y DU. Mae rhai pobl wedi derbyn testun sy'n edrych fel hyn.
Llun: CTSI
Nid neges destun swyddogol mo hon, ac ni ddylid ymddiried yn y ddolen. Mae'n tywys defnyddwyr i wefan sy'n gofyn iddynt am eu gwybodaeth bersonol. Os ydych chi'n cael neges destun fel hyn, anwybyddwch hi os gwelwch yn dda a chofiwch ei dileu. Gallwch chi roi gwybod am sgamiau fel hyn i Action Fraud.
Sgamiau brechu Covid-19
Mae awdurdodau Safonau Masnach Rhanbarthol wedi derbyn adroddiadau am sgamiau sy'n ymwneud â brechiadau Covid-19. Cysylltir â dioddefwyr yn ddirybudd dros y ffôn neu drwy neges destun ac fe'u hanogir naill ai i wasgu allwedd rhif ar eu ffôn neu glicio ar ddolen mewn neges destun. Sgamiau yw'r rhain, a gynlluniwyd i dwyllo eu dioddefwyr i drosglwyddo manylion personol neu ariannol i droseddwyr. Daw cyswllt dilys ar gyfer brechiadau Covid-19 gan y GIG, na fydd yn gofyn i chi am fanylion personol neu ariannol.
Credyd: Which?
Mae'r neges destun yn mynd â chi wefan GIG ffug sy'n gofyn am eich manylion personol - sgam gwe-rwydo (phishing) yw hwn ac os ydych wedi clicio'r ddolen ni ddylech nodi unrhyw fanylion ar y wefan.
Credyd: Which?
Rydym wedi cael gwybod am negeseuon e-bost twyllodrus sy'n ymwneud â chael y brechlyn coronafeirws. Mae'r rhain yn honni eu bod wedi'u hanfon gan y GIG, ond mewn gwirionedd maent yn negeseuon e-bost gwe-rwydo a anfonir gan dwyllwyr. Mae'r negeseuon e-bost hyn yn eithaf argyhoeddiadol ar yr olwg gyntaf, ond drwy wirio'r anfonwr gallwch weld o ble maent wedi dod. Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni yn yr e-byst hyn, gan eu bod yn mynd â chi at wefan sy'n eich annog i roi eich gwybodaeth bersonol.
Beth i'w wneud nesaf
Os ydych chi'n amheus ynglŷn ag e-bost rydych chi wedi'i dderbyn, anfonwch ef ymlaen i report@phishing.gov.uk. Dylid anfon negeseuon testun amheus i'r rhif 7726, sy'n rhad ac am ddim.
Os ydych chi'n credu eich bod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i Action Fraud cyn gynted â phosib drwy ffonio 0300 123 2040 neu ymweld â www.actionfraud.police.uk. Action Fraud yw'r ganolfan adrodd ar gyfer twyll a seiber-droseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dylid adrodd am dwyll ac unrhyw drosedd ariannol arall yn Yr Alban i'r Heddlu ar 101.
Mae gennym hefyd wybodaeth bellach a allai helpu. Darllenwch ein canllawiau am alwadau a negeseuon niwsans, a sgamiau 'colli galwadau'.