Weithiau mae cwsmeriaid yn wynebu codiadau yng nghostau eu biliau ffôn cartref, ffôn symudol, band eang a theledu-drwy-dalu.
Mae contractau telegyfathrebu yn aml yn cynnwys telerau sy’n caniatáu i’r darparwr gynyddu’r prif bris misol yn ystod cyfnod contract y cwsmer. Fel arfer, mae’r cynnydd hwn mewn prisiau yn digwydd unwaith y flwyddyn ym mis Mawrth neu fis Ebrill.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o ddarparwyr wedi codi’r prisiau hyn yn unol â chwyddiant o fewn cyfnodau contract.
Fodd bynnag, o 17 Ionawr 2025 ymlaen, bydd ein rheolau’n gwahardd darparwyr rhag ymrwymo cwsmeriaid i gontractau newydd sy’n cynnwys codiadau mewn prisiau sy’n gysylltiedig â chwyddiant neu gynnydd mewn canrannau.
Yn hytrach, rhaid i gontractau newydd a chontractau adnewyddu nodi’n glir mewn punnoedd a cheiniogau faint yn union y bydd cwsmeriaid yn ei dalu drwy gydol oes eu contract. Rhaid datgelu unrhyw gynnydd mewn prisiau yn glir cyn i’r cwsmer ymrwymo. Rhaid i’r darparwr hefyd ddweud pryd y bydd unrhyw gynnydd i’r prif bris misol yn digwydd.
Gall contractau a lofnodwyd cyn 17 Ionawr 2025 ddal gynnwys telerau gyda chodiadau sy’n gysylltiedig â chwyddiant.
Mae rhai darparwyr yn dweud wrth gwsmeriaid y gallai prisiau godi yn ystod y contract, ond nid ydynt yn pennu ymlaen llaw beth fydd y cynnydd hwn mewn pris. Yn yr achosion hyn ac os bydd y pris yn codi, mae gan gwsmeriaid yr hawl i adael heb gael eu cosbi.
Gall darparwyr hefyd gynyddu’r prif bris misol pan fydd eich contract yn dod i ben. Er mwyn cael y fargen orau pan ddaw contract i ben, dylai cwsmeriaid gychwyn contract newydd neu chwilio am ddarparwr arall.
Beth sy’n rhaid i ddarparwyr ei wneud
Rhaid i ddarparwyr sy’n cynnwys cynnydd mewn prisiau yn eu contractau wneud hyn yn glir cyn i chi ymrwymo.
Os nad ydych chi’n meddwl bod eich darparwr wedi gwneud hyn, dylech chi gwyno wrtho. Os nad ydych chi’n fodlon ar sut mae’n delio â’ch cwyn, gallwch fynd â’r gŵyn at yr ombwdsmon a fydd yn gwneud dyfarniad annibynnol ar eich achos. Yn ogystal â hyn, er na all Ofcom ymchwilio i gwynion unigol, drwy dynnu sylw at broblemau rydych chi’n chwarae rhan hollbwysig yn ein gwaith ac efallai byddwn yn ymchwilio i gwmni os bydd data monitro yn dangos bod problem benodol yn bodoli.
Os nad yw eich contract yn nodi faint y gallai'r pris godi a bod eich darparwr yn codi'r pris - neu os bydd eich darparwr yn codi'r pris yn fwy na'r hyn a bennir yn eich contract - mae gennych hawl i adael y contract hwnnw a chofrestru ar gyfer un newydd, neu i symud i ddarparwr arall, heb gael eich cosbi. Dylai’r darparwr roi gwybod i chi am gynnydd mewn prisiau, neu unrhyw newid arall nad yw er eich budd chi, 30 diwrnod cyn iddo ddigwydd.
Os ydych chi wedi ymrwymo i gontract telegyfathrebu cyn 17 Ionawr 2025, gallai’r contract hwnnw gynnwys cynnydd i’r prif bris misol sy’n gysylltiedig â chwyddiant. Ar ôl y dyddiad hwn, ni chaiff darparwyr greu contractau newydd neu adnewyddu contractau gyda chwsmeriaid sy’n cysylltu codiadau i’r prif bris misol â chwyddiant na’u pennu mewn canrannau.
Pam mae prisiau’n codi?
Nid Ofcom sy’n pennu’r prisiau y mae cwsmeriaid yn eu talu am wasanaethau. Yn hytrach, rydym yn cefnogi cystadleuaeth yn y sector telegyfathrebiadau, gan fod hyn yn rhoi dewis o amrywiaeth o ddarparwyr, gwasanaethau a phecynnau i gwsmeriaid. Mae’r gystadleuaeth hon yn golygu bod darparwyr yn cynnig disgowntiau i ddenu cwsmeriaid newydd.
Mae hi hefyd yn bwysig cofio er bod gwariant cyfartalog cartrefi ar wasanaethau telegyfathrebu wedi bod yn weddol wastad dros y blynyddoedd diwethaf, ar yr un pryd mae cwsmeriaid wedi elwa o wasanaethau gwell a chyflymach ac maent yn defnyddio mwy o ddata nag erioed o’r blaen.
Ac wrth i’r galw am ddata barhau i gyflymu, mae seilwaith band eang a symudol y DU yn cael ei uwchraddio, sydd wir ei angen. Mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol gan gwmnïau telegyfathrebiadau, sydd hefyd yn cynyddu gallu eu rhwydweithiau i alluogi pobl i ddefnyddio mwy o ddata.
Rydym yn rheoleiddio prisiau telegyfathrebu cyfanwerthol mewn ffordd sy’n ceisio helpu cwmnïau i adeiladu'r rhwydweithiau cyflymach a mwy dibynadwy hyn. Gyda’i gilydd, mae band eang y genhedlaeth nesaf ar gyfradd gigabit nawr ar gael i 80% o’r DU – 24 miliwn o gartrefi – ac mae tua 92% o eiddo yn y DU yn gallu derbyn signal 5G yn yr awyr agored gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol.
Beth gallwch chi ei wneud
Os ydych chi ar gontract sy’n codi gyda chwyddiant
Os ydych chi wedi ymrwymo i gontract cyn 17 Ionawr 2025, gallai gynnwys cynnydd i’r prif bris misol sy’n gysylltiedig â chwyddiant.
Ar ôl i’ch contract ddod i ben, gallwch ofyn i’ch darparwr am delerau newydd heb y codiadau pris hyn sy’n gysylltiedig â chwyddiant. Gallech hefyd chwilio am fargen well gyda darparwr arall.
Os ydych chi am ddod â’ch contract i ben yn gynnar, efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi. Dylai’r wybodaeth hon fod yn eich contract.
Os ydych chi allan o gontract
Os yw cyfnod eich contract wedi dod i ben, gallwch ymrwymo i gontract newydd neu heb unrhyw ffioedd ymadael.
Mae rhai darparwyr eisoes yn cynnig contractau sy’n gwarantu na fydd y prif bris misol yn codi yn ystod cyfnod y contract. Os ydych chi’n chwilio am un o’r contractau hyn, defnyddiwch wefan cymharu prisiau i ddod o hyd i’r fargen a’r telerau sy’n diwallu eich anghenion orau.
Ddim yn siŵr a ydych chi’n dal mewn contract neu beidio? Mae gennym ganllaw byr i’ch helpu.
Budd-daliadau a thariffau cymdeithasol
Os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol, mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael tariff cymdeithasol. Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau eraill.
Nid yw tariffau cymdeithasol yn cynnwys ffioedd gadael na chynnydd mewn prisiau yng nghyfnod y contract, sy’n eu gwneud yn fwy hyblyg.
Os ydych chi’n rhwym i gontract ar hyn o bryd, gallech ofyn i’ch darparwr a yw’n cynnig tariff cymdeithasol y gallwch newid iddo. Os yw eich darparwr yn cynnig tariff cymdeithasol, dylech chi allu newid iddo unrhyw bryd, yn rhad ac am ddim.
Mwy o ffyrdd o arbed arian
Rydym wedi llunio rhai awgrymiadau i leihau eich costau telegyfathrebu. Tarwch olwg i weld os byddai’r rhain yn gallu eich helpu chi.
Beth all busnesau bach ei wneud
Os ydych yn prynu gwasanaethau ar ran busnes bach neu fudiad dim-er-elw
O 17 Ionawr 2025 ymlaen, bydd ein rheolau yn mynnu bod darparwyr yn nodi’n glir i’r cwsmeriaid hyn cyn iddynt ymrwymo i gontract beth fydd y prif gost misol, mewn punnoedd a cheiniogau, cyn iddynt ymrwymo. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod bod rhai busnesau bach yn dymuno trafod manylion eu contract gyda’u darparwr a chytuno ar delerau sy’n diwallu eu hanghenion yn well, gan gynnwys telerau sy’n delio â chynnydd mewn prisiau. Mae ein rheolau’n caniatáu i gwsmeriaid sy’n fusnesau bach gytuno i delerau eraill os ydynt yn dymuno.
Mae gennym ragor o wybodaeth ar y dudalen contractau telegyfathrebu ar gyfer busnesau bach.