Erbyn hyn Sky yw'r darparwr diweddaraf i lansio pecyn band eang am bris gostyngol, gan ddilyn pwysau gan Ofcom.
Mae'r cytundebau band eang disgownt arbennig hyn – a elwir weithiau'n 'dariffau cymdeithasol' – ar gael gan amrywiaeth o ddarparwyr i tua 4.2 miliwn o aelwydydd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol. Ond dengys ein hymchwil diweddaraf mai dim ond 55,000 o gartrefi sydd wedi manteisio ar y cyfraddau disgownt hyn hyd yma – sy'n golygu bod miliynau o bobl sy'n derbyn budd-daliadau yn colli allan ar arbedion band cyfartalog o £144 yr un bob blwyddyn.
Gyda phryderon ynghylch costau byw ar gynnydd, mae Ofcom wedi galw'n ddiweddar ar fwy o gwmnïau band eang i gynnig tariffau band eang cymdeithasol ac i'w hyrwyddo'n helaeth i'w cwsmeriaid. Yn awr, mae Sky wedi lansio ei becyn Sky Broadband Basics – gan ymuno â BT, G.Network, Hyperoptic, KCOM a Virgin Media O2 wrth gynnig y cytundebau disgownt hyn i gwsmeriaid ar incwm isel. Mae NOW Broadband – sy'n eiddo i Sky – hefyd wedi lansio pecyn tebyg.
Rydym wedi bod yn galw ar gwmnïau band eang i wneud mwy i gefnogi cwsmeriaid sy'n dioddef caledi ariannol. Felly rydym yn falch bod Sky wedi ymateb gyda disgownt arbennig i bobl ar incwm isel. Rydym am weld pob darparwr yn camu i'r adwy ac yn cynnig y pecynnau hyn, ac yn eu hyrwyddo'n ehangach.
Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu Ofcom
Rydym wedi cyhoeddi manylion yr holl ddarparwyr sy'n cynnig tariffau cymdeithasol a sut mae'r gwahanol becynnau'n cymharu â'i gilydd. Gallwch hefyd ddod o hyd i awgrymiadau a chyngor ar sut i arbed arian ar eich biliau band eang, ffôn a theledu.