Cyhoeddwyd:
7 Tachwedd 2011
Diweddarwyd diwethaf:
9 Ionawr 2025
Ydych chi'n chwilio am gytundeb ffôn, band eang neu deledu newydd? Mae Ofcom eisiau i chi siopa o gwmpas yn hyderus, gwneud dewisiadau gwybodus a chael y fargen iawn ar gyfer eich anghenion.
Mae defnyddio gwefan cymharu prisiau yn ffordd wych o bori'r ystod o gynhyrchion ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu sydd ar gael heddiw.
Mae Ofcom yn achredu gwefannau sydd wedi rhoi eu gwasanaeth cymharu prisiau drwy archwiliad trylwyr. Mae'r archwiliad hwn yn gwirio bod y wefan yn gweithio'n dda, a bod yr wybodaeth y mae'n ei darparu'n hygyrch, yn gywir, yn dryloyw, yn gynhwysfawr ac yn gyfredol.
- broadband.co.uk - yn cymharu cynhyrchion band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu gwahanol. Ail-achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2022.
- broadbandchoices.co.uk - yn cymharu cynhyrchion band eang, symudol, llinell dir a theledu-drwy-dalu gwahanol. Achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2022.
- broadbanddeals.co.uk - yn cymharu cynhyrchion band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu gwahanol. Ail-achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2022.
- CompareDial - yn cymharu cynhyrchion symudol gwahanol. Ail-achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2023.
- Green Smartphones - yn cymharu cynhyrchion symudol gwahanol. Achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2023.
- HandsetExpert - yn cymharu cynhyrchion symudol gwahanol. Ail-achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2022.
- MoneySuperMarket.com - yn cymharu cynhyrchion band eang, symudol, llinell dir a theledu-drwy-dalu gwahanol. Achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2022.
Pethau eraill a allai fod yn ddefnyddiol
- Defnyddiwch ein teclyn gwirio symudol a band eang i wirio pa wasanaethau sydd ar gael i chi
- Cael gwybod sut y gallai pecyn band eang neu ffôn rhatach eich helpu chi
- Cael gwybod faint y gallech chi ei arbed ar eich band eang
- Cael gwybod sut i gael mwy o'ch cytundeb band eang presennol
- Cael gwybod sut mae darparwyr cyfathrebu gwahanol wedi perfformio
- Darllen ein datganiad i gael mwy o wybodaeth am sut mae ein cynllun achredu'n gweithio.