Cyfyngiadau biliau symudol

Cyhoeddwyd: 30 Mehefin 2023
Diweddarwyd diwethaf: 30 Mehefin 2023

Ers 1 Hydref 2018 ymlaen, rhaid i bob darparwr ffonau symudol roi’r dewis i gyfyngu ar gost biliau i gwsmeriaid newydd ac unrhyw gwsmeriaid presennol sy’n cytuno i ymestyn eu contract neu ymrwymo i gontract newydd.

Gallwch ofyn am gyfyngu ar fil os byddwch yn newid darparwr, yn adnewyddu’ch contract neu’n ymrwymo i gontract newydd gyda’ch darparwr presennol o 1 Hydref 2018 ymlaen. Caiff hyn ei gynnwys yn eich contract.

Mae’n bosib y gwnaiff rhai darparwyr gynnig cyfyngu ar filiau cwsmeriaid a gychwynnodd eu contract ffôn symudol cyn 1 Hydref 2018. Ond, nid oes yn rhaid iddyn nhw wneud hyn. Holwch eich darparwr i drafod sut mae rheoli cost eich biliau. Hefyd, darllenwch awgrymiadau Ofcom am osgoi ‘sioc bil’ wrth ddefnyddio eich ffôn symudol yn y DU.

Os cawsoch eich contract ffôn symudol ar 1 Hydref 2018 neu ar ôl hynny, gallwch ofyn am gyfyngu ar filiau unrhyw bryd. Holwch eich darparwr neu edrychwch ar eich contract i weld faint o rybudd bydd angen i chi ei roi cyn bod modd cychwyn cyfyngu ar filiau. Ni ddylai cyfnod rhybudd rhesymol fod yn fwy nag un cyfnod bilio (mis yw hyn yn y rhan fwyaf o achosion).

Os gwnaethoch gytuno ar gyfyngu ar filiau cyn i chi ymrwymo i’ch contract, dylai hyn fod ar waith o’r cychwyn un.

Dim ond ar gyfer y gwasanaethau ffôn symudol mae'r darparwr yn eu darparu i chi mae’n rhaid iddo gyfyngu ar filiau. Bydd hyn yn cynnwys eich defnydd o’r ffôn symudol i anfon negeseuon testun, gwneud galwadau ffôn a defnyddio data. Nid yw hyn yn cynnwys ffioedd eraill ar eich bil y gall eich darparwr gwasanaeth symudol eu codi arnoch chi nad ydynt yn wasanaethau ffôn symudol, er enghraifft, ffioedd ar gyfer biliau papur neu ffioedd taliad hwyr.

Nid oes yn rhaid i’r cyfyngiad gynnwys mathau eraill o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan drydydd parti y byddwch chi’n defnyddio eich ffôn symudol i gael mynediad atyn nhw.  Er enghraifft, nid oes yn rhaid i’r cyfyngiad gynnwys cost lawn gwasanaethau cyfradd premiwm (sydd fel arfer yn defnyddio rhifau yn cychwyn gyda 09, 118, 084, 087, neu godau byr llais a thestun symudol sy’n bump neu’n chwe digid). Ond mae’n rhaid iddo gynnwys tâl eich darparwr am gael mynediad at y gwasanaethau hyn. I gael esboniad pellach am y gwahaniaeth rhwng taliadau gwasanaethau a thaliadau mynediad, darllenwch y dudalen cyngor i ddefnyddwyr sy’n gwneud galwadau’n y DU. Yn yr un modd, efallai na fydd cyfyngiad yn cynnwys rhai gwasanaethau ‘talu drwy fil ffôn symudol’ sy’n caniatáu i chi dalu am nwyddau a gwasanaethau o siopau ap, masnachwyr a chyhoeddwyr trydydd parti drwy eich bil ffôn.

Mae’n bosib y bydd rhai darparwyr yn dewis cynnwys cost lawn gwasanaethau cyfradd premiwm neu wasanaethau ‘talu drwy fil ffôn symudol’ wrth gyfyngu ar eich bil, er nad oes yn rhaid iddyn nhw wneud hynny. Mae llawer o ddarparwyr yn cynnig ffyrdd eraill o reoli’r costau hyn e.e. gwahardd galwadau. Dylech chi holi eich darparwr ynghylch yr hyn maen nhw’n ei gynnig.

Os ydych chi’n poeni ynghylch beth sydd wedi'i gynnwys neu beidio wrth gyfyngu ar fil, holwch eich darparwr.

Darllenwch ein canllaw i gael awgrymiadau ynghylch apiau ar eich ffôn symudol a bod yn ymwybodol o gost prynu pethau mewn apiau.

Tarwch olwg hefyd ar fideo canllaw Ofcom sydd ar gael yn Saesneg yn unig am ddiffodd y cyfleuster i brynu pethau mewn apiau.

Os oes taliad annisgwyl ar eich bil ffôn, darllenwch y canllaw ar wefan allanol Saesneg yr Awdurdod Gwasanaethau Talu dros y Ffôn.

Nac ydy. Dim ond ar gyfer gwasanaethau ffôn symudol mae'r darparwr yn gorfod cynnig cyfyngu ar filiau.

Tarwch olwg ar ganllawiau Ofcom am reoli cost band eang yn y cartref a rheoli costau eich llinell dir yn y cartref.

Bydd hyn yn dibynnu ar eich anghenion. Efallai yr hoffech chi ystyried a ydych chi am ddewis peidio â chael defnyddio eich gwasanaethau ffôn symudol cyn gynted ag y byddwch chi’n cyrraedd eich lwfans misol, ac ond talu pris eich contract (e.e. cyfyngiad o £0), neu efallai yr hoffech chi rywfaint o hyblygrwydd i wario mwy na'r swm hwn bob mis (e.e. cyfyngiad o £5 ychwanegol).

Wrth bennu swm y cyfyngiad ar fil, dylech feddwl am y gwahanol fathau o wasanaethau ffôn symudol sy’n cael eu cynnwys (gweler cwestiwn 4). Os ydych chi’n talu’n rheolaidd am wasanaeth ffôn symudol ar ben eich pris contract misol, ac am barhau i wneud hynny gyda chyfyngiad ar fil, cofiwch ystyried y costau hyn wrth bennu swm eich cyfyngiad. Trafodwch gyda’ch darparwr pa gyfyngiad fyddai’n briodol ar gyfer yr hyn rydych chi’n ei ddefnyddio fel arfer.

Bydd eich darparwr yn rhoi gwybod i chi os ydych chi’n debygol o gyrraedd swm y cyfyngiad cyn diwedd cyfnod bilio penodol. Dylai’ch contract esbonio pa bryd a sut bydd eich darparwr yn rhoi’r rhybudd hwn i chi. Er enghraifft, efallai y bydd eich darparwr yn anfon neges destun atoch i’ch rhybuddio os ydych chi wedi defnyddio 80%.

Pan fyddwch chi wedi cyrraedd swm y cyfyngiad, bydd eich darparwr yn rhoi rhybudd arall i chi. Ar ôl i chi gyrraedd swm y cyfyngiad, ni fyddwch yn gallu gwneud galwadau, anfon negeseuon testun na defnyddio data sy’n fwy na’r hyn sydd yn eich lwfans misol. Ond, byddwch yn dal yn gallu defnyddio’r gwasanaethau brys. Os yw eich darparwr yn caniatáu i chi ddal defnyddio gwasanaethau ffôn symudol ar ôl i chi gyrraedd swm y cyfyngiad, ni fyddan nhw’n cael codi mwy arnoch chi na swm y cyfyngiad oni bai eich bod wedi cytuno i fynd yn fwy na'r swm hwnnw.

Oes. Os ydych chi’n awyddus i newid lefel eich cyfyngiad gyda’ch darparwr, gallwch chi gytuno, newid, neu dynnu’r cyfyngiad naill ai am gyfnod bilio penodol neu ar gyfer pob cyfnod bilio yn y dyfodol.

Os bydd eich darparwr yn rhoi gwybod i chi eich bod bron â chyrraedd neu wedi cyrraedd swm eich cyfyngiad ar gyfer cyfnod bilio penodol (gweler cwestiwn 7) a chithau’n hapus i fynd yn fwy na’r swm hwn ar yr achlysur hwn, bydd angen i chi gytuno ar hyn yn gyntaf. Rhaid i’ch darparwr gadarnhau’n ysgrifenedig (e.e. drwy neges destun, dros e-bost neu lythyr) eich bod wedi cytuno i fynd yn fwy na swm y cyfyngiad ar gyfer y cyfnod bilio penodol dan sylw cyn bod modd bilio am ffioedd ychwanegol. Ni ddylai hyn effeithio ar lefel y cyfyngiad ar gyfer cyfnodau bilio eraill.

Oes, gallwch ofyn am gyfyngu ar filiau os byddwch yn newid darparwr, yn adnewyddu’ch contract neu’n ymrwymo i gontract newydd gyda’ch darparwr presennol ar 1 Hydref 2018 neu ar ôl hynny.

Ydy, os yw trawsrwydweithio yn eich cyrchfan wedi'i gynnwys ar eich contract, bydd unrhyw gyfyngu ar filiau’n berthnasol pan fyddwch chi dramor.

Yn ôl i'r brig