Osgoi sioc bil pan yn defnyddio'ch ffôn symudol yn y DU

Cyhoeddwyd: 17 Rhagfyr 2021

Mae defnyddio mwy na'ch lwfans galwadau, anfon negeseuon testun gydag emojis neu ddefnyddio gormod o ddata i gyd yn gallu arwain at fil mwy na’r disgwyl.

Dilynwch ein canllawiau er mwyn osgoi hyn.

Mae angen i chi feddwl am sut rydych chi’n defnyddio eich ffôn fel arfer.

Peidiwch â dyfalu faint o lwfans y byddwch ei angen ar gyfer galwadau, negeseuon testun a data - mae tanamcangyfrif yn gallu arwain at filiau llawer mwy na’r disgwyl.

Unwaith y byddwch wedi canfod beth rydych yn ei ddefnyddio fel arfer, gallwch ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau  i chwilio am fargeinion fydd yn addas i chi.

Os ydych chi'n gwneud llawer o alwadau, chwiliwch am lwfans munudau hael. Gwnewch yn siŵr fod eich lwfans yn cynnwys y mathau o alwadau rydych yn eu gwneud - os ydych chi’n gwneud llawer o alwadau i rai rhifau nad ydynt yn rhan o’r lwfans (fel galwadau i rifau rhyngwladol), ystyriwch brynu bwndel ychwanegol sy’n eu cynnwys er mwyn osgoi llawer yn rhagor o gostau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint mae’n ei gostio os ydych chi’n defnyddio mwy na’ch lwfans o alwadau, negeseuon testun a data. Mae rhai darparwyr yn codi llawer os ydych chi’n mynd dros eich lwfans misol.

Hefyd, mewn rhai amgylchiadau, mae’n werth cofio y gall eich ffôn symudol newid neges destun o SMS (Short Message Service) i MMS (Multi-Media Service), sy’n gallu bod yn ddrutach. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft:

Os byddwch yn anfon negeseuon testun hir (fwy na 160 o nodau)

Os byddwch yn anfon neges i sawl person (ar Nos Calan, er enghraifft);

Os byddwch yn anfon neges destun i gyfeiriad e-bost;

Os byddwch yn cynnwys pennawd yn eich neges destun;

Os byddwch yn anfon lluniau yn eich negeseuon testun

Neu os byddwch yn defnyddio emojis yn eich negeseuon testun (mai rhai ffonau’n troi emoticon fel :) yn emoji J yn awtomatig)

Efallai y byddwch yn gallu diffodd y swyddogaeth anfon MMS yng ngosodiadau’ch ffôn - neu efallai y byddwch yn arbed arian drwy ddefnyddio apiau anfon negeseuon data.

Os ydych chi’n cael ei hun yn rheolaidd yn gwneud mwy o alwadau neu’n defnyddio mwy o ddata na’r hyn sy’n cael ei ganiatáu gan eich tariff, siaradwch â'ch darparwr am dariff mwy addas - peidiwch â rhagdybio y byddant hwy yn cysylltu â chi i drafod cynnig gwell.

Os ydych chi’n dod at ddiwedd tymor eich contract sylfaenol, neu wedi’i basio, ystyriwch newid eich tariff a/neu newid darparwr er mwyn i chi gael lwfans a fydd mor addas â phosibl i'ch defnydd.

Os ydych chi’n mynd dros eich lwfans misol yn rheolaidd ac yn dal yn nhymor eich contract sylfaenol, holwch i weld a allwch newid eich lwfans. Mae rhai darparwyr yn gadael i chi wneud hyn yn ddi-dâl, bydd eraill yn codi tâl neu’n eich atal rhag gwneud hynny. Os ydych chi’n poeni am fynd dros eich lwfans, siaradwch â'ch darparwr i weld a all osod cap neu derfyn ar eich cyfrif a fydd yn eich atal rhag gwario dros lefel benodol. Gofynnwch i'ch darparwr am y manylion gan fe all fod cyfyngiadau e.e. efallai na fydd y cap yn berthnasol pan fyddwch yn defnyddio’ch ffôn dramor. Erbyn hyn, mae un darparwr yn rhoi’r gallu i gwsmeriaid newydd osod bloc, y gallant ei roi ar waith a’i ddiffodd drwy eu cyfrif, ar alwadau sy’n cael eu gwneud ganddynt ar ôl iddynt gyrraedd eu lwfans galwadau ac ar alwadau i rifau nad ydynt yn dod o dan eu lwfans.

Os byddwch yn mynd am gynnig sy’n cynnig lwfans ‘diderfyn’, gwnewch yn siŵr fod polisi defnydd teg yn rhan o’r cynnig. Os ydyw, holwch i weld beth ydy'r defnydd uchaf a beth sy’n digwydd os byddwch yn mynd y tu hwnt i hyn - efallai y byddwch yn gorfod talu neu eich defnydd yn cael ei gwtogi.

Os na allwch newid, holwch eich darparwr os gallwch chi brynu lwfans ychwanegol - fel rhagor o ddata neu alwadau.

Os byddwch yn gwneud hyn, gwiriwch pryd rydych chi’n dechrau ei ddefnyddio ac os ydyw’n cael ei ddefnyddio ar sail unwaith yn unig neu dreigl.

Gallwch fonitro’ch defnydd o’ch ffôn os oes gennych chi ffôn clyfar drwy ddefnyddio ‘ap’ rhad ac am ddim i’w lawrlwytho gan eich darparwr. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol iawn i ganfod faint o ddata rydych yn ei ddefnyddio.

Hefyd, mae’r rhan fwyaf o gwmnïau ffôn yn cynnig cyfrif ar-lein lle gallwch weld beth rydych wedi’i ddefnyddio, y gallwch fynd ato o’ch ffôn neu gyfrifiadur.

Dylech hefyd allu archwilio'ch bil i ganfod unrhyw eitemau nad ydych yn eu hadnabod a thrafod unrhyw gostau annisgwyl â'ch darparwr.

Hyd yn oes os yw pob rhan neu rai rhannu o’ch lwfans yn ‘ddiderfyn’, mae’n werth cadw golwg ar eich defnydd o hyd, yn enwedig os oes polisi ‘defnydd teg’ gydag uchafswm o ran faint y cewch ei ddefnyddio.

Gall eich defnydd newid dros amser. Er enghraifft, efallai y byddwch yn canfod, ar ôl i chi ymrwymo o ffôn clyfar newydd bod eich defnydd o ddata’n cynyddu dros amser. Holwch ynghylch pa hawliau sydd gennych i gynyddu’ch lwfans, ac yn ddelfrydol cyn i chi gael y ffôn.

Os byddwch yn gadael i eraill ddefnyddio’ch ffôn, cadwch olwg ar eu defnydd. Peidiwch â gadael i'ch plant gronni biliau mawr i chi yn ddiarwybod drwy brynu pethau sy’n cael eu cynnig ar apiau drwy gadw cyfrinair eich ffôn yn breifat neu sefydlu cyfrinair y mae’n rhaid ei ddefnyddio cyn i unrhyw un gael prynu rhywbeth ar ap.

Mae rhai dyfeisiau’n gadael i chi ddiffodd y gallu hwn i brynu pethau ar apiau. Mae’n canllawiau fideo yn rhoi cyfarwyddiadau cam-wrth-gam i chi ar gyfer diffodd y swyddogaeth prynu ar ap ar rai ffonau poblogaidd neu gyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio cyfrinair cyn gallu prynu.

Gwiriwch fod gennych ddigon o ddata ar gyfer eich defnydd. Siaradwch â’ch darparwr i gael mwy o gyngor ar y pecyn sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion chi ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Os ydych chi’n newydd i ffonau clyfar, cofiwch eu bod wedi’u hadeiladu i geisio cysylltiadau â’r we’n awtomatig ac y gallant ddefnyddio data hyd yn oed os nad yw data wedi’i gynnwys yn eich lwfans.

Os ydych chi eisiau defnyddio data’n rheolaidd, gall ddefnyddio Wi-Fi yn lle cyswllt rhyngrwyd eich ffôn symudol eich arbed rhag defnyddio data o’ch lwfans. Mae rhai gosodiadau ac apiau ffôn clyfar yn gallu chwilio am rwydweithiau Wi-Fi a gofyn i chi gysylltu â nhw fel nad oes yn rhaid i chi wneud hyn eich hun. Gwiriwch i sicrhau bod yr eicon Wi-Fi i’w weld ar eich ffôn.  Os byddwch yn colli’r signal wrth ddefnyddio Wi-Fi, efallai y bydd eich ffôn yn chwilio’n awtomatig am rwydwaith symudol i gadw eich cysylltiad sy’n golygu defnyddio’ch lwfans data neu godi tâl arnoch am ddata os nad oes gennych un. Gallwch atal hyn drwy droi cyswllt rhyngrwyd symudol eich ffôn i ffwrdd (mae hyn yn golygu efallai y bydd toriad yn eich gwasanaeth os bydd y signal Wi-Fi yn cael ei golli).

Os ydych chi am ddefnyddio cyswllt rhyngrwyd eich ffôn yn hytrach na Wi-Fi, cofiwch fod gweithgareddau fel gwylio fideos, llwytho cerddoriaeth i lawr neu agor atodiadau mawr o e-bost, yn defnyddio llawer o ddata. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn rhoi rhai enghreifftiau o faint o ddata y mae gwahanol weithgareddau’n eu defnyddio. Mae’r BBC yn amcangyfrif bod gwylio fideo iPlayer am 60 munud dros rwydweithiau 3G yn gallu defnyddio rhwng 50MB a 350MB o ddata gan ddibynnu ar gyflymder y cyswllt sydd ar gael i chi.

Mae rhai apiau ar gael hefyd sy’n gallu cywasgu data - rhywbeth tebyg i’r ffordd y gallwch gywasgu dogfennau drwy ddefnyddio ffeiliau zip ar gyfrifiadur - gan eich galluogi i wneud i’ch lwfans fynd ymhellach.

Mae rhai cwmnïau’n anfon negeseuon testun i ddweud wrthych pan fyddwch wedi cyrraedd terfyn eich lwfans ar gyfer defnyddio data - gall y rhain eich helpu i osgoi ffioedd y tu allan i’ch lwfans. Mae’n werth holi a yw eich darparwr yn cynnig y negeseuon hyn.

O 1 Gorffennaf 2015 ymlaen, bydd dwy ran i'r costau sy’n berthnasol i’r galwadau hyn:

-Tâl mynediad: Mae'r rhan hon o gost yr alwad yn mynd i'ch cwmni ffôn symudol, ar gyfradd ceiniogau’r funud. Bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi faint fydd y gost yma a bydd yn cael ei ddangos yn glir ar filiau pan fyddwch yn ymgymryd â chontract.

Tâl gwasanaeth: Dyma weddill y tâl am yr alwad. Y sefydliad rydych chi'n ei ffonio sy’n penderfynu ar hyn, a bydd yn dweud wrthych faint yw’r gost.

Ewch i'r wefan allanol hon am ragor o wybodaeth.

Hefyd, o 1 Gorffennaf 2015 ymlaen, mae pob rhif yn cychwyn â 0800 neu 0808 yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ei ffonio o ffonau symudol.

Dylech bob amser drin eich ffôn yr un mor ofalus ag yr ydych yn trin eich cardiau banc neu gardiau credyd.

Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio eich ffôn mewn lle cyhoeddus, cadwch eich ffôn gyda chi bob amser.

Mae nifer o ffonau clyfar yn werth cannoedd o bunnoedd, ac mae lladron hefyd yn gallu defnyddio ffonau symudol mewn ffordd sy’n arwain yn gyflym at filiau enfawr.

Efallai byddwch chi’n atebol am yr holl gostau sydd wedi cronni ar eich ffôn pan fydd ar goll nes i chi roi gwybod i’ch darparwr ei fod ar goll neu wedi’i ddwyn. Felly, mae hi’n bwysig dros ben eich bod yn cysylltu â’ch darparwr cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn osgoi wynebu costau uchel oherwydd bod rhywun wedi’i ddefnyddio heb awdurdod.

Os bydd eich ffôn ar goll ac rydych chi gyda Three, Virgin Mobile, Vodafone, EE neu O2 ar gyfer gwasanaethau symudol, ddylech chi ond fod yn gyfrifol am dalu hyd at uchafswm o £100 am unrhyw ddefnydd heb ei awdurdodi y tu hwnt i’ch lwfans- os ydych chi’n rhoi gwybod iddyn nhw bod eich ffôn ar goll cyn pen 24 awr.

Os ydych chi gyda Vodafone ac nad ydych chi’n rhoi gwybod cyn pen 24 awr ond rydych chi’n rhoi gwybod bod eich ffôn ar goll cyn pen pum niwrnod, ddylech chi ond bod yn gyfrifol am dalu hyd at £500 am ddefnydd heb awdurdod y tu hwnt i’ch lwfans. Darllenwch gyhoeddiad y Llywodraeth.

Ar ôl i chi roi gwybod bod eich ffôn ar goll neu wedi cael ei ddwyn, bydd eich darparwr yn gallu gwahardd eich SIM er mwyn stopio gwneud galwadau ar eich cyfrif. Mae eich darparwr hefyd yn gallu stopio unrhyw un arall rhag defnyddio eich ffôn drwy rwystro ei IMEI, rhif cyfresol 15-digid unigryw. Gallwch weld eich rhif IMEI drwy roi *#06# yn eich ffôn neu drwy edrych y tu ôl i fatri eich ffôn. Gwnewch gofnod o’r rhif hwn, yn ogystal â gwneuthuriad a model eich ffôn a chadw’r wybodaeth hon yn rhywle diogel.

Gallwch chi hefyd lwytho ap i lawr sy’n gallu olrhain eich ffôn os aiff ar goll neu gael ei ddwyn, ac mae’n eich galluogi i ddileu manylion o bell - fel findmyiphone ac Android device manager.

Efallai y bydd rhai polisïau yswiriant ffonau symudol yn rhoi rhywfaint o warchodaeth am ddefnydd heb awdurdod felly mae hi’n werth edrych ar delerau ac amodau eich polisi, neu wrth ystyried polisi newydd.

Cofiwch, os byddwch chi’n penderfynu codi yswiriant ar eich ffôn symudol, efallai y bydd angen i chi roi gwybod i’ch cwmni yswiriant os aiff eich ffôn ar goll neu gael ei ddwyn cyn pen cyfnod penodol hefyd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cod cyfrin ar eich ffôn a’ch SIM i’w gwneud hi’n anoddach i ladron ei ddefnyddio.

Ystyriwch wahardd eich galwadau i rifau rhyngwladol a phremiwm er mwyn rhwystro lladron rhag manteisio ar hyn.

Gallwch lwytho i lawr ap lle gallwch chi ddod o hyd i'ch ffôn os ydyw ar goll/wedi ei ddwyn i'ch galluogi chi i gael gwared o'ch manylion o bell - fel 'findmyiphone' a rheolwr dyfais Android.

Mae canllaw Ofcom i'ch helpu i gadw eich ffôn clyfar yn ddiogel a'r Uned Troseddau Ffonau Symudol hefyd yn ffynonellau defnyddiol er mwyn dod o hyd i wybodaeth am sut i amddiffyn eich hunan rhag lladron ffôn.

I adrodd bod eich ffôn ar goll/wedi ei ddwyn

DarparwrGalw o'r DUGalw o wlad dramor
3 333 (Three)
0333 373 3333 (unrhyw ffôn arall)
+44 7782 333 333
EE 07953 966 250 +44 7953 966 250

Orange (adrodd ar-lein drwy wasanaeth cwsmeriaid EE).

07973 100 150 (talu misol) 07973 100 450 (PAYG) +44 7973 100 150 (pay-monthly) +44 7973 100 450 (PAYG)
O2 0344 809 0202 (talu misol)     0344 809 0222 (PAYG) +44 344 809 0202 (pay monthly)
+44 344 809 0222 (PAYG)
T-Mobile 0845 412 5000 +44 795 3966 150
Vodafone 03333 040191 +44 7836 191 191
Tesco Mobile 4455 (Tesco Mobile)
0345 301 4455 (unrhyw ffôn arall)
+44 345 301 4455
Virgin Mobile 789 (Virgin Media)
0345 6000 789 (unrhyw ffôn arall)
+44 7953 967 967

Ers 1 Hydref 2018, mae’n rhaid i’r holl ddarparwyr symudol roi’r dewis i gyfyngu costiau biliau eu cwsmeriaid newydd ac i unrhyw gwsmeriaid presennol sy’n cytuno i ymestyn eu cytundeb neu sy’n dechrau cytundeb newydd. Rydym wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin defnyddiol ynglŷn â Chyfyngiadau Biliau ar ein gwefan.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Yn ôl i'r brig