Defnyddiwch wefannau cymharu prisiau a achredir gan Ofcom i ddod o hyd i'r fargen orau

Cyhoeddwyd: 10 Tachwedd 2023

Ydych chi'n chwilio am gytundeb ffôn, band eang neu deledu newydd? Mae Ofcom eisiau i chi siopa o gwmpas yn hyderus, gwneud dewisiadau gwybodus a chael y fargen iawn ar gyfer eich anghenion.

Mae defnyddio gwefan cymharu prisiau yn ffordd wych o bori'r ystod o gynhyrchion ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu sydd ar gael heddiw.

Mae Ofcom yn achredu gwefannau sydd wedi rhoi eu gwasanaeth cymharu prisiau drwy archwiliad trylwyr. Mae'r archwiliad hwn yn gwirio bod y wefan yn gweithio'n dda, a bod yr wybodaeth y mae'n ei darparu'n hygyrch, yn gywir, yn dryloyw, yn gynhwysfawr ac yn gyfredol.

  1. broadband.co.uk - yn cymharu cynhyrchion band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu gwahanol. Ail-achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2022.
  2. broadbandchoices.co.uk - yn cymharu cynhyrchion band eang, symudol, llinell dir a theledu-drwy-dalu gwahanol. Achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2022.
  3. broadbanddeals.co.uk - yn cymharu cynhyrchion band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu gwahanol. Ail-achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2022.
  4. CompareDial - yn cymharu cynhyrchion symudol gwahanol. Ail-achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2023.
  5. Green Smartphones - yn cymharu cynhyrchion symudol gwahanol. Achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2023.
  6. HandsetExpert - yn cymharu cynhyrchion symudol gwahanol. Ail-achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2022.
  7. MoneySuperMarket.com - yn cymharu cynhyrchion band eang, symudol, llinell dir a theledu-drwy-dalu gwahanol. Achredwyd y gwasanaeth hwn yn 2022.

Pethau eraill a allai fod yn ddefnyddiol

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig