Rheoli costau llinell dir

Cyhoeddwyd: 10 Medi 2021

Mae cost llinell dir yn cynnwys dwy ran - rhentu’r llinell a chost y galwadau rydych chi’n eu gwneud.

Mae llawer o becynnau'n cynnwys galwadau am ddim ar adegau penodol o'r dydd neu ar benwythnosau. Gallai'r wybodaeth isod eich helpu i ystyried pa ddull sydd orau i chi.

Edrychwch ar eich biliau lleol i weld pa fathau o alwadau rydych chi'n eu gwneud ac os ydyn nhw wedi eu cynnwys yn eich pecyn presennol. Os nad ydyn nhw, siaradwch gyda'ch darparwr ynglŷn â symud i fargen sy'n fwy cost effeithiol. Mae hefyd werth siopa am fargen i weld beth mae darparwr eraill yn ei gynnig.

Os ydych chi'n darganfod eich bod yn talu am nodweddion galwadau neu wasanaethau ychwanegol nad ydych yn eu defnyddio, cysylltwch â'ch darparwr i drafod eu canslo nhw.

Y mathau o fargeinion i'w hystyried

Galwadau llinell dir diderfyn gyda’r nos neu ar benwythnosau

Os ydych chi'n gwneud galwadau ar rai adegau yn unig, gallai dewis un o'r bargeinion hyn arbed arian i chi. Maen nhw'n caniatáu galwadau cenedlaethol neu leol anghyfyngedig (i rifau sy'n dechrau gyda 01, 02 neu 03) gyda'r nos neu ar benwythnosau. Fodd bynnag, gwiriwch gyda'r darparwr beth yw cost galwadau i rifau eraill - fel 0870 neu 0845 neu i ffonau symudol. Mae galwadau yn aml yn rhad ac am ddim am hyd penodol o amser yn unig (hyd at awr ar y tro fel arfer). Er mwyn osgoi costau, dewch â'r alwad i ben ac ail-ddeialwch cyn i chi gyrraedd y terfyn amser.

Galwadau llinell dir anghyfyngedig ar unrhyw adeg

Os byddwch chi'n gwneud galwadau yn aml yn ystod y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, mae’n bosibl y bydd yn werth dewis pecyn sy'n caniatáu galwadau di-dâl am ddim drwy'r dydd, bob dydd. Unwaith eto, gofynnwch i'ch darparwr pa rifau sydd wedi eu cynnwys yn y pecyn a chofiwch y bydd hyd mwyaf y galwadau yn debygol o fod yn berthnasol

Mae cwsmeriaid llinell dir yn unig wedi bod yn cael gwerth gwael am arian dros y blynyddoedd diwethaf. Yn dilyn adolygiad gan Ofcom, o fis Ebrill 2018 gwelodd cwsmeriaid llinell dir yn unig BT ostyngiad yn eu biliau misol. Cafodd y rhan fwyaf o gwsmeriaid llinell dir yn unig BT y gostyngiad hwn yn awtomatig. Mae'n bosibl y bydd darparwyr eraill yn cynnig gostyngiadau tebyg hefyd.

Os oes gennych chi becyn 'Home Phone Saver' BT, gallwch ddewis cadw eich pecyn presennol, neu symud i'r pecyn safonol lle byddwch yn cael y gostyngiad.

Mae gwybodaeth ar gael i helpu cwsmeriaid llinell dir yn unig i chwilio am fargen well. Yn ogystal â'r wybodaeth ar y dudalen hon, rydym yn darparu rhestr o'r gwefannau cymharu prisiau a achredir gan Ofcomchyngor ar sut i newid darparwr llinell.

Mae rhai darparwyr yn cynnig wasanaethau i bobl sydd ar incwm isel. Mae BT yn darparu ei wasanaeth cost isel BT BasicMae'n costio £5.10 y mis (ym mis Mawrth 2018) - gan gynnwys lwfans o £1.50 i'w wario ar alwadau - ac mae'n agored i gwsmeriaid presennol BT a rhai sy'n newydd. Os nad ydych chi yn gwsmer BT siaradwch â ‘ch darparwr i weld os gallant gynnig  gwasanaeth tebyg i chi.

Mae BT Basic ar gael ar gyfer pobl sy’n hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans wedi ei seilio ar incwm ar gyfer y rhai sy’n chwilio am waith, Credyd Pensiwn Gwarantedig, Lwfans Cefnogi Cyflogaeth (yn ymwneud ag incwm) a Chredyd chynhwysol (ac nad sy’n ennill cyflog).

Gallwch hefyd gael BT Basic + Broadbandam £4.85 y mis, sy’n cynnwys cysylltiad band eang hyd at 17 Mbit yr eiliad a 12GB o ddata y mis. Mae yna becynnau a thariffiau band eang eraill gan BT a darparwyr eraill a allai fod yn fwy addas.

Os ydych chi’n ffonio’r un rhifau dro ar ôl tro, efallai y dylech chi ystyried tariffiau sy'n gadael i chi wneud galwadau diderfyn am ddim, neu alwadau ar gyfraddau gostyngedig.

Mae rhai pecynnau yn gadael i chi gynnwys rhifau nad ydyn nhw’n rhai daearyddol - fel rhifau 0845 a 0870 - neu hyd yn oed rifau rhyngwladol.

Amddiffyn rhag galwadau niwsans

Mae darparwyr ffôn yn cynnig cynhyrchion a gwasanaethau a all helpu i amddiffyn rhag galwadau niwsans. Mae'r rhain yn cynnwys Dangos y Galwr, Blocio Galwadau am i Mewn, Gwrthod Galwadau Anhysbys, Gwybod Pwy oedd y Galwr Diwethaf (neu 1471) a Lleisbost (neu 1571).

Mewn rhai achosion, mae'r gwasanaethau hyn yn rhad ac am ddim. Mewn achosion eraill, gall taliadau misol fod yn gymwys, ac maen nhw’n amrywio.

Mae gan Ofcom ragor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, sut maen nhw’n gweithio a faint maen nhw’n ei gostio.

Nodweddion eraill

Mae darparwyr ffonau hefyd yn cynnig nifer o wasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â galwadau - fel galwadau tair ffordd, atgoffa am alwadau, dargyfeirio galwadau, a galw’n ôl.

Mae costau'n amrywio felly os yw'r gwasanaethau hyn yn bwysig i chi, ewch ati i ddewis y pecyn a'r darparwr sy'n diwallu eich anghenion a'ch cyllideb orau.

Os oes gennych chi gysylltiad band eang, gall defnyddio ddarparwr Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP) fel Skype i wneud galwadau leihau cost eich galwadau.

Gallwch wneud galwadau o gyfrifiadur i gyfrifiadur - sydd fel arfer yn rhad ac am ddim - neu gallwch ddefnyddio VoIP i ffonio ffôn symudol neu linell dir draddodiadol.

Bydd angen clustffonau a meicroffon arnoch chi - y byddwch chi'n eu cysylltu â'ch cyfrifiadur, neu gallwch gysylltu ffôn cartref traddodiadol gan ddefnyddio addasydd VoIP.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r meicroffon a’r seinyddion sy'n rhan fewnol o sawl cyfrifiadur, yn enwedig gliniaduron.

Yna, byddwch yn llwytho'r meddalwedd angenrheidiol i lawr gan eich dewis o ddarparwr VoIP. Dylech wirio ei fod yn gydnaws â'ch cyfrifiadur.

Mae yna wahanol fathau o gynlluniau galwadau, felly cofiwch chwilio am fargen.

Yn dilyn ein hadolygiad o’r farchnad hon, mae BT wedi torri ei brisiau ar gyfer cwsmeriaid llinell dir yn unig. Mae Swyddfa'r Post hefyd wedi cynnig pris is newydd.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Yn ôl i'r brig