Rheoli eich costau - band eang

Cyhoeddwyd: 26 Ionawr 2021

Sut i gael y fargen band eang orau.

Gallwch gael bargen dda drwy ddefnyddio’r pecyn gorau, er enghraifft, drwy gael bwndel gwasanaethau llinell ffôn a band eang gyda’r un darparwr. Dyma rai pethau i chi eu hystyried wrth chwilio am y fargen orau.

Mae yna dri math o fand eang ar gyfer y cartref - ADSL, ffibr a chebl er nad yw pob un ar gael ymhobman.

ADSL -band eang dros eich llinell ffôn gyda chyflymderau tebygol o hyd at 24 Mbit yr eiliad (megabits yr eiliad). Mae bron pob cartref yn y DU yn gallu cael band eang ADSL. Maen nhw fel arfer yn rhatach na'r pecynnau cebl a ffibr sy'n cynnig cyflymderau sy'n gynt.

Cebl - band eang drwy gebl, a ddarparwyd yn aml ochr yn ochr â gwasanaethau Teledu. Mae cyflymderau yn gynt na ADSL gyda phecynnau gwahanol sydd ar gael yn gallu cynnig cyflymderau o hyd at 120 Mbit yr eiliad.

Ffibr - band eang yn cael ei drosglwyddo drwy gebl ffeibr optig. Mae'r cyflymderau yn gynt na ADSL sy'n gallu cyrraedd hyd at 76 Mbit yr eiliad.

Mathau o fargeinion

Pan ydych chi'n derbyn bargen band eang, rydych yn cytuno i dalu ffi fisol ar gyfer hyd eich contract (12, 18 neu 24 mis).

Bydd y pecyn yn pwysleisio cyflymder posibl er bod hyn yn amcangyfrif ac nid yw'n debygol y byddwch yn cael y cyflymder hwn drwy'r amser.

Bydd rhai yn cael lwfans llwytho i lawr misol -sy'n cael ei fesur mewn 'gigabytes' - ac mae rhai yn cynnig lawrlwythiadau diderfyn.

Gallai llawer o gwsmeriaid arbed o leiaf £15 y mis drwy brynu band eang a llinell dir mewn un pecyn wrth yr un darparwr -sy’n cael ei adnabod fel ‘bwndel.’ Os ydych chi’n prynu llinell dir a band eang o gwmnïau gwahanol, gallwch chi eu prynu wrth un o’ch darparwyr presennol, neu o un newydd.

Mae yna amrywiaeth eang o ddewisiadau ar gael. Mae gwybodaeth ar gael i helpu cwsmeriaid band eang i chwilio am fargen well. Yn ogystal â’r wybodaeth ar y dudalen hon, rydym yn darparu rhestr o wefannau cymharu prisiau wedi’u hachredu gan Ofcom a chyngor ynglŷn â sut i newid darparwr band eang.

Siaradwch gyda'ch darparwr am 'fwndeli' 

Os oes llinell dir gennych eisoes, gwiriwch pa fargeinion mae eich darparwr ffôn eu cynnig oherwydd gall fod yn rhatach cael gwasanaethau o'r un cwmni -mae hyn yn cael ei adnabod fel 'bwndel'.

Cyflymderau 

Mae cyflymderau'n cael eu mesur fesul 'megabits' yr eiliad (Mbit yr eiliad) ac fel arfer rydych yn talu mwy os yw eich cysylltiad ynghynt.

Os ydych chi eisiau defnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer pori'r we ac anfon ebyst, byddai pecynnau ADSL yn fwy na digon ar gyfer eich anghenion.

Fodd bynnag, os ydych yn dymuno defnyddio band eang i lwytho i lawr cerddoriaeth, ffilmiau neu fideo, os oes llawer o bobl yn ei ddefnyddio ar yr un pryd, bydd angen band eang cynt arnoch chi i sicrhau perfformiad da.

Er enghraifft, mae llwytho i lawr ffilm 4GB o ansawdd da am 100 Mbit yr eiliad yn cymryd dros awr gyda chysylltiad 8 Mbit yr eiliad.

Canllaw Ofcom am gyflymderau band eang

Lawrlwythiadau 

Bob amser rydych chi'n mynd ar-lein, rydych yn defnyddio data - naill ai llwytho i lawr (pori, llwytho i lawr ffilmiau a cherddoriaeth), neu lwytho i fyny (anfon ffeiliau mawr, llwytho videos neu luniau i fyny).

Mae gan nifer o becynnau band eang swm penodol o ddata y gallwch chi ddefnyddio'n fisol sy'n cael ei fesur mewn gigabytes.Os ydych yn defnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer anfon ebyst neu bori'r we yn unig, yna ni fydd y terfynau hyn yn effeithio arnoch chi a gallai wneud synnwyr i chi ddewis pecyn sy'n rhatach gyda therfyn llwytho i lawr sy'n is.

Ond gallai effeithio arnoch chi os ydych yn defnyddio'r rhyngrwyd i lwytho i lawr cerddoriaeth a ffilmiau neu i ffrydio rhaglenni Teledu. Yn yr achosion hyn, dylech chi chwilio am becynnau gyda therfyn llwytho i lawr sy'n uwch neu un sy'n cynnig lawrlwythiadau di-derfyn.

Fodd bynnag, mae hyd yn oed pecynnau 'diderfyn' yn cynnwys cyfyngiad. Gwiriwch y manylion (mae hyn yn cael ei alw'n bolisi defnydd 'teg' neu 'dderbyniol').

Dylech chi hefyd wirio beth sy'n digwydd os ydych chi'n mynd dros ben eich lwfans lwytho i lawr - mae darparwr yn codi mwy o ffioedd os ydych chi'n mynd dros ben eich terfyn defnydd misol.

Os nad ydych chi'n gwybod faint o ddata rydych chi'n ei ddefnyddio yn fisol, gofynnwch i'ch darparwr amdano. Gall eich darparwr hefyd roi monitor defnydd misol i chi lle gallwch gadw llygad ar faint o ddata rydych chi'n ei ddefnyddio. Mae rhai'n eich gadael chi i osod negeseuon ebost sy'n rhoi gwybod i chi os ydych chi wedi cyrraedd terfyn eich lwfans.

Os ydych chi'n cael eich cosbi'n aml am fynd dros ben eich terfyn llwytho i lawr, efallai y byddai'n rhatach i chi i newid eich pecyn neu eich darparwr.

Mae band eang symudol yn cysylltu i'r rhyngrwyd gan ddefnyddio 'dongl' bychan rydych chi'n gosod yn eich cyfrifiadur neu SIM sy'n cael ei osod yn eich llechen.

Gallwch gael bargen talu wrth fynd neu gontract talu bob mis. Yn dibynnu ar eich tariff, efallai bydd angen i chi dalu ffi un tro ar gyfer dongl.

Cyn cytuno i delerau gwasanaeth, gwiriwch yn ofalus y ddarpariaeth sydd ei hangen arnoch chi a gallwch ddefnyddio gwiriwr darpariaeth Ofcom sydd ar gael yn Gymraeg.

Un ffordd o wirio os ydych chi'n gallu cael signal da yw defnyddio unrhyw gyfnod sy'n eich galluogi i newid eich meddwl sy'n cael ei gynnig gan y darparwr i wirio'r gwasanaeth i weld os ydyw'n gweithio'n iawn -os nad yw e -gallwch chi gael eich arian yn ôl. Gwiriwch beth yw telerau'r cyfnod newid eich meddwl cyn i chi arwyddo cytundeb i dderbyn y gwasanaeth.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Yn ôl i'r brig