Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Telathrebu Ofcom, Cristina Luna-Esteban, sy’n esbonio pam bod sicrhau eich bod ar gytundeb ffôn neu'r fargen band eang orau i chi yn bwysicach nag erioed– a sut rydym wedi'i gwneud yn haws i wneud hynny.
Yma yn y DU rydym yn elwa o gael llawer o wahanol fargeinion ffôn, band eang a theledu i ddewis ohonynt – gydag amrywiaeth o ddarparwyr yn ymladd dros ein busnes. Ond nid yw cadw golwg ar p'un a ydych ar y fargen orau bob amser wedi bod yn hawdd.
Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau'n cynnig pecynnau sydd â phris sefydlog am gyfnod penodol. Er enghraifft, efallai y gwelwch fargen band eang am £25 y mis, sy'n dod i ben ar ôl 18 mis. Ar ôl hynny, gall y pris a dalwch bob mis gynyddu a heb newid eich bargen, gallech gael eich hun yn talu mwy nag sydd angen. Mae hyn yn ddigon cyffredin, yn enwedig gyda llawer o filiau'r cartref i gadw golwg arnynt.
Ar ôl adolygu'r marchnadoedd band eang a symudol yn ofalus, roeddem yn pryderu bod gormod o bobl yn cael eu hunain yn y sefyllfa hon- yn arbenig y cwsmeriaid hynny sy’n agored i niwed, a gafodd eu heffeithio’n fwy sylweddol gan y prisiau 'y tu allan i gontract' hynny.
Felly, gwnaethom gymryd camau i fynd i'r afael â'r broblem hon mewn ychydig o ffyrdd.
Yn gyntaf, buom yn gweithio gyda darparwyr i'w cael i newid eu prisiau ar gyfer cwsmeriaid, ar ôl i'w contract cychwynnol ddod i ben – yn enwedig i'r rhai a allai fod yn agored i niwed. Nid oes gennym y pwerau cyfreithiol i bennu prisiau defnyddwyr ein hunain, ond mae hyn wedi helpu i leihau biliau band eang a symudol i filiynau o gwsmeriaid..
Yn ail, gwnaethom gyflwyno rheolau newydd ym mis Chwefror 2020 a olygai fod yn rhaid i ddarparwyr anfon hysbysiadau at bob cwsmer i roi gwybod iddynt eu bod yn dod i ddiwedd eu cytundeb presennol. Rhaid i'r hysbysiadau hyn ddweud wrthych y pris yr ydych yn ei dalu nawr, sut fydd hwnnw’n newid ac yn bwysig, y fargen orau sydd ar gael i chi. Gyda'r manylion hyn, mae gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i osgoi talu mwy nag sydd angen i chi – p'un a ydych yn ymgymryd â chytundeb newydd gyda'ch darparwr presennol, neu'n meddwl ei bod yn bryd newid.
Ond pa wahaniaeth y mae hyn wedi'i wneud? Rydym wedi cynnal astudiaeth fanwl ac wedi gweld cynnydd cadarnhaol iawn. Er enghraifft, mae dros filiwn o gwsmeriaid wedi manteisio ar yr hysbysiadau newydd a gyflwynwyd gennym, ac wedi cael gwell bargen. Erbyn hyn mae llai o gwsmeriaid band eang sydd allan o gontract ac sy'n talu mwy nag sydd angen. Ac er bod cwsmeriaid symudol y tu allan i gontract yn 2018 oedd ar gytundebau bwndel ffôn a band eang yn gordalu cyfanswm o £182 miliwn y flwyddyn, gostyngodd hyn i £83 miliwn yn 2020 – yn dilyn ein hymyriad.
Ac mae newyddion da i gwsmeriaid sy'n agored i niwed hefyd, gyda'r gwahaniaeth rhwng y prisiau y maent yn eu talu unwaith y byddant allan o gontract o'u cymharu â phris cyfartalog eu darparwr, bron yn haneru.
Yn amlwg, mae'r darlun yn newid yn dibynnu ar eich darparwr a’ch cytundeb. Bydd y prisiau'n wahanol, bydd y pecynnau a gynigir yn amrywio –oll yn arwydd o farchnad gystadleuol. Y peth allweddol yn awr yw eich bod chi a minnau fel cwsmeriaid mewn sefyllfa sy’n llawer gwell i fanteisio ar hyn a bachu gwell bargen i’n hunain.
Efallai nad yw hyn erioed wedi bod yn bwysicach. Mae pobl ar hyd a lled y wlad wedi gweld prisiau nwyddau bob dydd yn codi – boed hynny'n ynni, petrol neu fwyd. A chyda'r economi ehangach yn dal i wella o sioc pandemig Covid-19, mae llawer o bobl yn teimlo'r peint.
Felly gall gwneud yn siŵr eich bod yn cael y fargen orau heb dalu mwy nag sydd ei angen arnoch yn gwneud gwahaniaeth mawr i’ch helpu gadw eich biliau cartref o dan reolaeth.
Rydym wedi cymryd camau i helpu i wneud hyn mor hawdd â phosibl – gan roi punnoedd ym mhocedi pobl yn y broses. A byddwn yn parhau i gadw llygad barcud ar gwmnïau i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg.