Ymgynghoriad: Adolygiad o’r Amod Gwasanaethau Cyfradd Premiwm

Cyhoeddwyd: 26 Gorffennaf 2018
Ymgynghori yn cau: 21 Medi 2018
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae'r ymgynghoriad hwn yn esbonio cynnig Ofcom i ddiwygio'r Amod Gwasanaethau Cyfradd Premiwm fel ei bod yn berthnasol i holl wasanaethau gwybodaeth, cysylltu a chyfeirio galwadau (ICSS).

Mae ICSS yn fath o wasanaeth cyfradd premiwm. Maent yn wasanaethau sy'n:

  1. darparu cyngor neu wybodaeth i gael gafael mewn gwasanaethau cyhoeddus neu fasnachol; a/neu
  2. cysylltu neu'n cyfeirio defnyddwyr at rifau cyswllt neu llinellau cymorth sydd fel arfer yn costio mwy na galw'n uniongyrchol.

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o ICSS sy’n defnyddio rhifau ‘087’ a ‘09’ yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Talu dros y Ffôn (PSA). Fodd bynnag, dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi dechrau poeni am y niwed i ddefnyddwyr sy’n deillio o ICSS yn gweithredu ar yr ystod rhifau ‘084’. Nid yw’r rhain yn rhan o gylch gwaith yr Awdurdod ar hyn o bryd.

I fynd i'r afael â hyn, rydyn ni'n cynnig gwneud yr Awdurdod yn gyfrifol am reoleiddio’r holl ICSS - waeth beth fo’u pris neu eu hystod rhifau.

Rydyn ni’n gofyn am sylwadau ar ein canfyddiadau a'n cynigion.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Kathryn Searle
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA
Yn ôl i'r brig