Mobile coverage, technical and planning advice

Cyhoeddwyd: 20 Mawrth 2024

Mae'r dudalen hon yn cynnig cyngor a dolenni i wybodaeth am ddarpariaeth symudol, ymholiadau technegol a chynllunio.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi cyngor ar fastiau a chynllunio. Mae hyn yn disgrifio polisi'r DU ar gyfer lleoli mastiau, gyda dolenni i wybodaeth bellach, deddfwriaeth berthnasol a ffynonellau cyngor eraill.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi cyngor ar ddarpariaeth gellog.

Ymholiadau technegol a chynllunio

Dylech siarad â gweithredwr y rhwydwaith symudol perthnasol os ydych yn dymuno:

  • adrodd am waith adeiladu, cyfleustodau neu beirianneg arall a allai naill ai effeithio ar safle neu sydd angen mynediad iddo;
  • rhoi gwybod am golli gwasanaeth neu ddarpariaeth mewn ardal benodol;
  • rhoi gwybod am ddifrod, sŵn neu larymau ar safle;
  • cysylltu â gweithredwr ynghylch mynediad i safle, perchnogaeth arni neu faterion prydlesu;
  • gofyn am rannu safle gweithredwr gan wasanaeth cyfathrebu arall;
  • gwneud ymholiad ar ran awdurdod cynllunio lleol.

Mae'r gymdeithas fasnach MobileUK yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer ymholiadau i'r diwydiant. Mae ei god ymarfer ar ddatblygu rhwydweithiau symudol yn cynnwys pwyntiau cyswllt gweithredwyr (gweler Atodiad G) ar gyfer ymholiadau ynghylch mastiau.

Mae Ofcom wedi bod wrthi'n mesur meysydd electromagnetig (EMF) ger gorsafoedd ffonau symudol ers blynyddoedd lawer. Mae’r mesuriadau hyn sydd wedi’u cyhoeddi wedi dangos yn gyson bod lefelau EMF ymhell o fewn y terfynau EMF cyhoeddus cyffredinol. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth sy'n galluogi unigolion i ofyn i Ofcom wneud mesuriadau EMF ger gorsafoedd trawsyrru symudol. Codir tâl am y gwasanaeth hwn.

Mae mwy o wybodaeth am ymagwedd Ofcom at feysydd electromagnetig (EMF) ar gael ar ein gwefan.

Os nad ydych wedi dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 0300 123 3333 neu 020 7981 3040. Rydym ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Yn ôl i'r brig