Gwella eich signal ffôn symudol

Cyhoeddwyd: 27 Mai 2022

Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i wirio a gwella eich signal ffôn symudol, waeth p'un a ydych yn ddefnyddiwr neu'n gwsmer busnes.

Defnyddio teclyn gwirio darpariaeth symudol Ofcom

Gallwch ddefnyddio ein teclyn gwirio darpariaeth i wirio darpariaeth symudol dan do ac awyr agored ar gyfer gwasanaethau ffôn, 3G a 4G gan bob prif ddarparwr. Gallwch hefyd wirio argaeledd awyr agored gwasanaethau 5G.

Gallwch gyrchu'r teclyn gwirio trwy borwr rhyngrwyd. Bydd angen i chi nodi cod post, neu ganiatáu i'r teclyn gwirio ganfod eich lleoliad yn awtomatig, i weld y canlyniadau. Mae'r teclyn gwirio'n darparu crynodeb o'r gwasanaethau yn eich ardal ar gip, a byddwch hefyd yn cael yr opsiwn i weld yr ardal rydych wedi'i dewis ar fap rhyngweithiol.

Darperir yr wybodaeth yn y teclyn gwirio gan y gweithredwyr symudol, ac fe'i diwedderir yn rheolaidd. Mae'n seiliedig ar ragfynegiadau o ddarpariaeth a gynhyrchir gan ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol sy'n efelychu'r ffordd y mae signalau symudol yn teithio. Er bod y modelau hyn fel arfer yn gywir, mae'n bosib na fyddant bob amser yn cynrychioli darpariaeth wirioneddol yn y fan a'r lle. Mae Ofcom hefyd yn ymgymryd â'n mesuriadau ein hunain i asesu cywirdeb y data a ddarperir.

Mae rhai darparwyr rhwydwaith symudol hefyd yn cynnig eu teclynnau gwirio darpariaeth eu hunain ar gyfer eu gwasanaethau, y gallwch ddod o hyd iddynt ar-lein. Mae gan bob gweithredwr ddull ychydig yn wahanol o ragfynegi a dangos darpariaeth. Gan fod map Ofcom yn dwyn yr holl ddata hwn ynghyd mewn un lle ac yn ei ddal i un safon annibynnol, mae'n bosib y bydd ein map yn dangos lefelau gwahanol o ddarpariaeth i'r rhai ar wefannau'r darparwyr.

Gwneud y mwyaf o'ch signal symudol

  • Mae teclynnau gwirio darpariaeth yn rhoi syniad o'r ddarpariaeth debygol mewn lleoliad sefydlog. Dylech hefyd wirio darpariaeth yn y lleoedd rydych chi'n ymweld â nhw'n rheolaidd, fel eich gweithle neu fannau ar eich taith gymudo.
  • Gall lleoliad a nodweddion eiddo effeithio ar signal symudol y tu mewn iddo. Gall waliau trwchus, fframiau ffenestr metel, nenfydau, colofnau, neu ystafelloedd islawr i gyd amharu ar ddarpariaeth. Gall y signal gael ei rwystro hefyd os yw'r eiddo yng 'nghysgod' bryn neu adeilad mawr. Yn yr un modd, gall signalau symudol ddiraddio o fewn cerbyd.
  • Yn ogystal â defnyddio teclyn gwirio darpariaeth, siaradwch â phobl rydych chi'n eu hadnabod am eu profiadau o wneud a derbyn galwadau yn eich ardal.
  • Gofynnwch i weithredwyr am ansawdd posib y ddarpariaeth. Mae manylion cyswllt darparwyr ar gael ar ddiwedd y canllaw hwn.
  • Mae gallu ffonau i godi signal symudol yn amrywio gan ddibynnu ar eu dyluniad a'r antenâu ynddynt. Os ydych chi'n byw mewn ardal sydd â signal gwael, gallai'r dewis o ffôn symudol effeithio ar eich darpariaeth. Er enghraifft, os oes angen gwasanaeth ffôn a neges destun arnoch yn bennaf, efallai y bydd ffôn mwy sylfaenol yn rhoi darpariaeth well na ffonau clyfar. Gofynnwch am gyngor wrth i chi ddewis ffôn symudol. Mae rhai teclynnau gwirio darpariaeth a gynigir gan ddarparwyr rhwydwaith symudol yn awr yn gadael i chi nodi pa ffôn rydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio, fel y gallwch ddarganfod a yw'n debygol o roi gwasanaeth da i chi.
  • Gall y signal hefyd gael ei heffeithio gan y ffordd y mae pobl yn dal y ffôn wrth ei ddefnyddio. Rydych yn debygol o gael gwell signal ar gyfer galwadau ffôn os byddwch yn defnyddio'ch ffôn gyda darn clust ar wahân sydd wedi'i gysylltu â'r ffôn dros Bluetooth, yn hytrach na dal y ffôn i fyny i'ch clust.
  • Mae rhai darparwyr ffôn symudol hefyd yn cynnig ffordd o wneud galwadau gan ddefnyddio cysylltiad di-wifr. Gall hyn fod yn ateb da os oes gan eich cartref neu weithle ddarpariaeth symudol wael ond cysylltiad di-wifr da. Mae rhai rhwydweithiau yn caniatáu i chi wneud hyn yn awtomatig gan ddefnyddio 'ffonio dros wi-fi', tra bod eraill yn gofyn i chi lwytho ap penodedig. Fodd bynnag, nid yw pob ffôn symudol yn gydnaws â ffonio dros wi-fi. Gwiriwch gyda'r gweithredwr os ydych chi am ei ddefnyddio.
  • O dan reoliadau contract defnyddwyr, mae'n bosib y bydd gennych yr hawl i ganslo eich contract yn ddi-dâl o fewn y 14 diwrnod calendr cyntaf o gofrestru. Felly, gwiriwch eich signal symudol yn ystod y 14 diwrnod cyntaf hwn i sicrhau ei fod yn foddhaol – os nad yw, gallwch adael y contract. Mae rhai gweithredwyr yn darparu gwarantau ychwanegol y tu hwnt i'r 14 diwrnod cyntaf – gwiriwch cyn i chi brynu. Gallwch hefyd brofi'r ddarpariaeth gan wahanol ddarparwyr heb gael eich cloi i mewn i gontract hirdymor drwy roi cynnig ar gontract misol SIM yn unig neu dalu-wrth-ddefnyddio.

Os ydych chi'n anfodlon ar eich rhwydwaith symudol, ni fu erioed yn haws newid darparwr.

Gartref

Mae sawl ffordd o wella eich signal symudol yn y cartref gan ddefnyddio cysylltiad band eang.

  • Drwy gysylltu eich ffôn â'ch wi-fi byddwch yn gallu defnyddio'r gwasanaethau data ar eich ffôn (bydd hyn hefyd yn osgoi defnyddio lwfans data misol eich contract ffôn).
  • Gallwch wneud a derbyn galwadau ffôn gan ddefnyddio apiau fel WhatsApp, FaceTime a Skype – ond nid yw'r rhain fel arfer yn defnyddio'ch rhif ffôn symudol.
  • Mae gweithredwyr hefyd yn cynnig dyfeisiau i'r cartref a all chwyddo signalau symudol (EE Signal Box, O2 Boostbox, Three Home Signal, Vodafone Sure Signal). Mae'r rhain yn gweithio drwy gysylltu â llwybrydd a gyrru traffig dros y rhwydwaith band eang i gynyddu'r signal symudol.

Gallech hefyd brynu a gosod troswr ffôn symudol. Mae troswyr yn defnyddio signalau symudol o’r tu allan i adeilad i wella’r ddarpariaeth y tu mewn i’r adeilad. Maent yn gweithio orau pan fydd signal awyr agored cryf.

Mae mwy o wybodaeth am droswyr ffôn symudol ar gael ar ein gwefan.

Ar y trên

  • Gwiriwch beth sydd ar gael gan y gweithredwr trenau. Mae rhai cwmnïau trenau'n gweithio gyda gweithredwyr ffonau symudol i osod offer ar gerbydau i wella'r signal. Ar rai trenau, efallai y bydd gennych yr opsiwn i gael mynediad at gysylltiad di-wifr. Mae rhai gweithredwyr trenau hefyd yn ystyried cynnwys opsiynau ffonio dros wi-fi fel rhan o'u gwasanaeth di-wifr.

Yn y car

  • Cofiwch ei fod yn anghyfreithlon i ddefnyddio dyfais symudol llaw wrth yrru cerbyd yn y DU oni bai bod gennych fynediad di-ddwylo. Mae hefyd yn anghyfreithlon defnyddio dyfais symudol llaw wrth oruchwylio gyrrwr sy'n dysgu.
  • Mae dyluniad y cerbyd yn effeithio ar y ddarpariaeth a dderbynnir ynddo. Er enghraifft, gallai maint y ffenestri a'r deunyddiau adeiladu i gyd effeithio ar y signal. Gall safle'r ffôn y tu mewn i'r cerbyd effeithio ar y ddarpariaeth hefyd. Rydych yn fwy tebygol o gael signal gwell os ydych yn cadw eich ffôn yn y crud ar y dangosfwrdd yn hytrach nag yn y consol canol, a gall y signal fod yn wael os byddwch yn cadw eich ffôn yn y troedfan.
  • Mae gan rai ceir erialau allanol sy'n gallu cysylltu â ffôn symudol y tu mewn i'r car. Mae hyn yn caniatáu i'r ffôn gael cryfder signal sy'n debyg i'r lefel y tu allan i'r car. Gall cerbyd sy'n defnyddio erial allanol gael darpariaeth dda yn y cerbyd ar hyd at 20% yn fwy o rwydwaith ffyrdd y DU o'i gymharu â cherbyd heb erial allanol.

Tramor

    • Os ydych chi'n teithio dramor yn aml, gall SIM crwydro byd-eang fod yn ateb da. Gwiriwch brisiau gyda'ch darparwr.
    • Os oes angen signal symudol arnoch mewn gwahanol leoliadau lle mae gwahanol ddarparwyr yn gweithredu'n annibynnol ar ei gilydd, efallai y byddwch am ddefnyddio datrysiad dau gerdyn SIM. Defnyddiwch teclynnau gwirio darpariaeth darparwyr i helpu gyda hyn. Mae ffonau SIM deuol ar gael yn y DU ac yn osgoi'r angen i gadw dau ffôn ar wahân wedi'u gwefru neu i newid y SIM drosodd.

Ar gyfer eich busnes

    • Efallai y bydd yn werth ystyried ffonau lloeren ('Satphone') os yw ffôn symudol yn hanfodol i'ch busnes. Mae chwe gweithredwr yn y DU ac mae setiau llaw lefel mynediad yn costio £300-£500 gyda thariffau ar gael o tua 50c y funud.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, siaradwch gyda'ch darparwr:

BT Mobile

0800 100 400

EE

0800 956 6000

Lebara Mobile

0870 075 5588

Lycamobile

0207 132 0322

O2

0344 809 0202

TalkTalk Mobile

0800 542 9427

Tesco Mobile

0345 301 4455

Three

0333 338 1001

Virgin Mobile

0345 454 1111

Vodafone

0333 304 0191

Yn ôl i'r brig