- Prisiau cyfartalog ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau band eang a symudol wedi gostwng neu wedi aros yn sefydlog o un flwyddyn i’r llall
- Y bwlch rhwng prisiau mewn contract a phrisiau y tu allan i gontract yn lleihau
- Hanner miliwn o gwsmeriaid bellach wedi cofrestru ar gyfer tariffau cymdeithasol band eang a symudol
Yn gyffredinol, mae prisiau cyfartalog bwndeli llinell dir a band eang sefydlog wedi gostwng mewn termau real rhwng 2023 a 2024, gyda’r pecynnau cyflymaf yn gweld y gostyngiad mwyaf, yn ôl adroddiad blynyddol Ofcom ar dueddiadau prisio.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r prisiau ‘rhestr’ safonol ar gyfer bargeinion ‘dau wasanaeth’ gwibgyswllt (300 Mbit yr eiliad neu fwy) a llinell dir wedi gostwng 9% mewn termau real, tra bo prisiau disgowntiau ‘hyrwyddol’ wedi gostwng 8%. Wrth edrych ar gynigion ‘dau wasanaeth’ cyflym iawn (30-299 Mbit yr eiliad), roedd prisiau rhestr a phrisiau hyrwyddol cyfartalog hefyd wedi gostwng 7% a 3%, yn y drefn honno.[1]
Gwelsom hefyd fod bargeinion band eang gwibgyswllt yn aml yn rhatach gan ddarparwyr llai. Mae prisiau hyrwyddol ar gyfer gwasanaethau band eang rhwng 900 Mbit yr eiliad a 1 Gbit yr eiliad gan ddarparwyr rhwydwaith ffeibr llawn annibynnol yn dechrau ar £26 y mis. Mae hyn yn cymharu â £39 y mis ar gyfer y gwasanaeth tebyg rhataf sydd ar gael gan ddarparwr mwy.
Er bod yr adroddiad heddiw yn dangos bod prisiau’r rhan fwyaf o wasanaethau telegyfathrebiadau rydym yn edrych arnynt wedi aros yn sefydlog, neu wedi gostwng o un flwyddyn i’r llall mewn termau real, mae’r gwariant misol cyfartalog am fwndeli dau wasanaeth a thri gwasanaeth wedi cynyddu 8% mewn termau real o un flwyddyn i’r llall, wrth i bobl symud i becynnau cyflymach. Mae data diweddaraf Ofcom yn dangos bod nifer y cartrefi sydd wedi ymrwymo i wasanaethau band eang ffeibr llawn wedi codi o 28% i 35% (7.5 miliwn o gartrefi) rhwng Mai 2023 a Gorffennaf 2024.[2]
Gallai cwsmeriaid y tu allan i gontract wneud arbedion sylweddol
Mae’n bosibl y bydd llawer o gwsmeriaid sy’n dal i fod mewn contract yn gallu lleihau eu biliau’n sylweddol drwy siopa o gwmpas a chofrestru i gael bargen well – naill ai gan ddarparwr arall, neu drwy ail-gontractio gyda’u darparwr presennol [3]. Mae ein data’n dangos bod 36% o gwsmeriaid llinell dir a band eang sefydlog dau wasanaeth, a 32% o gwsmeriaid band eang sefydlog tri gwasanaeth, llinell dir a theledu drwy dalu, allan o gontract ar ddiwedd mis Mehefin 2024. Roedd eu biliau yn 18% ac 16% yn uwch yn y drefn honno na chwsmeriaid mewn contract.
Fodd bynnag, mae ein dadansoddiad hefyd yn datgelu bod y bwlch rhwng prisiau rhestrau safonol cyfartalog, y mae llawer o gwsmeriaid y tu allan i gontract yn eu talu, a phrisiau hyrwyddol, y mae llawer o gwsmeriaid sydd mewn contract yn eu talu fel arfer, wedi dechrau lleihau. Ar gyfer bwndeli llinell dir a band eang, roedd y bwlch wedi lleihau o £8 y mis i £7 rhwng mis Medi 2023 a mis Medi 2024. Roedd y bwlch cyfatebol ar gyfer bwndeli band eang, llinell dir a theledu drwy dalu wedi lleihau o £19 y mis i £17 y mis yn ystod yr un cyfnod.
Prisiau ffonau symudol wedi gostwng mewn termau real
Mae’r adroddiad heddiw hefyd yn datgelu bod pris cyfartalog basged o wasanaethau symudol sy’n adlewyrchu defnydd y person cyffredin 5% yn is mewn termau real yn 2024 nag yn 2023, a 23% yn is nag yn 2019 – er bod data cyfartalog wedi treblu dros y cyfnod hwn.
Mae'r prisiau cyfartalog ar gyfer yr holl gategorïau gwasanaeth SIM yn unig rydym yn edrych arnynt hefyd wedi gostwng o un flwyddyn i’r llall, a hynny rhwng 1% ac 11%. Mae cwsmeriaid sy’n prynu ffôn a chynllun SIM yn unig ar wahân yn talu tua 25% neu £200 yn llai na chwsmeriaid ar dariffau sy’n cynnwys ffôn ac amser ar yr awyr.
Prisiau telegyfathrebiadau’r DU yn cymharu’n dda yn rhyngwladol ar y cyfan
O’r chwe gwlad a gymharwyd, y DU sydd â’r prisiau band eang sefydlog isaf ar y cyd â’r Eidal – maen nhw’n rhatach na Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a’r Unol Daleithiau. Y DU sydd â’r prisiau isaf ond un ar gyfer gwasanaethau symudol – maen nhw’n ddrutach na Ffrainc, ond yn rhatach na’r Almaen, yr Eidal, Sbaen a’r Unol Daleithiau.
Sicrwydd i gwsmeriaid ynghylch prisiau’n codi yn y dyfodol
Ar gyfer cwsmeriaid mewn contract, roedd y gostyngiad mewn chwyddiant wedi arwain at lai o gynnydd o ran prisiau blynyddol yn 2024 nag yn 2023. Yn unol â newidiadau i’n rheolau i roi mwy o sicrwydd i gwsmeriaid ynghylch y prisiau y byddant yn eu talu am eu gwasanaethau, sy’n berthnasol o fis Ionawr 2025 ymlaen, mae darparwyr eisoes wedi dechrau cynnig contractau sy’n cynnwys cynnydd mewn prisiau a nodir ymlaen llaw mewn punnoedd a cheiniogau. Ar hyn o bryd, mae’r cynnydd hwn mewn prisiau yn amrywio o hyd at £1.80 y mis ar gyfer gwasanaethau symudol a hyd at £3.50 ar gyfer band eang sefydlog.
Nifer sy’n manteisio ar dariffau cymdeithasol yn cynyddu i dros 500,000, ond mae llawer o gwsmeriaid cymwys yn dal heb fod yn ymwybodol ohonynt
Mae tariffau cymdeithasol yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau symudol a band eang sefydlog yn dal yn fforddiadwy i gwsmeriaid ar incwm isel sy’n cael budd-daliadau cymwys gan y Llywodraeth. Mae tariffau band eang yn costio rhwng £12 a £23 y mis, ac mae tariffau symudol yn costio rhwng £10 a £12 y mis – ar gyfartaledd, mae hyn yn arbed tua £220 y flwyddyn i gwsmeriaid band eang.
Amcangyfrifir bod 1.9 miliwn o gartrefi yn y DU sydd â band eang sefydlog yn ei chael hi’n anodd fforddio eu gwasanaeth [4], gyda mwy o bobl yn troi at dariffau cymdeithasol i reoli eu costau. Ymatebodd llawer o ddarparwyr yn gadarnhaol i alwadau Ofcom i gyflwyno’r bargeinion rhatach hyn; yn 2020, dim ond tri thariff cymdeithasol oedd ar gael i gwsmeriaid, ond erbyn hyn mae mwy na 30 i ddewis o’u plith. Mae hyn yn golygu bod tua 85% o gartrefi band eang sefydlog bellach yn gallu cael mynediad at dariff cymdeithasol, os ydynt yn gymwys, heb newid darparwr nac wynebu tâl terfynu cynnar.
Erbyn mis Mehefin 2024, roedd tua 506,000 o gwsmeriaid wedi manteisio ar y cynigion hyn – cynnydd o 125,000 (33%) ers mis Medi 2023. Er gwaethaf y cynnydd sylweddol hwn, mae’r nifer sy’n defnyddio tariffau cymdeithasol yn dal yn isel fel cyfran o’r holl gwsmeriaid cymwys (9.6%). Mae ein hymchwil diweddaraf hefyd yn dangos nad yw 69% o gwsmeriaid band eang cymwys yn ymwybodol ohonynt o gwbl. Mae hyn yn dangos bod gan ddarparwyr cyfathrebiadau waith i’w wneud o hyd i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth hanfodol hwn ymhellach.
Dywedodd Natalie Black CBE, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom, Rhwydweithiau a Chyfathrebu:
Mae adroddiad heddiw yn dangos bod gwasanaethau symudol a band eang yn y DU yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn cymharu’n ffafriol â gwledydd eraill ar y cyfan. Gydag arbedion sylweddol i'w cael, yn enwedig ar gyfer y pecynnau cyflymaf, mae siopa o gwmpas yr un mor bwysig ag erioed.
Mae hefyd yn galonogol gweld mwy o bobl yn manteisio ar yr amrywiaeth ehangach o dariffau cymdeithasol sydd ar gael erbyn hyn, ond gyda llawer mwy o gwsmeriaid cymwys yn dal heb fod yn ymwybodol ohonynt, mae gan ddarparwyr cyfathrebiadau waith i’w wneud o hyd i hyrwyddo’r cymorth hanfodol hwn ymhellach.
DIWEDD
- Pob pris wedi’i addasu i ystyried chwyddiant. Roedd prisiau hyrwyddol ar gyfer cwsmeriaid newydd sy’n ymrwymo i fwndeli gwibgyswllt ‘tri gwasanaeth’ (band eang sefydlog, llinell dir a theledu drwy dalu) hefyd wedi gweld gostyngiad o 3% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, bu cynnydd o 4% yn y prisiau hyrwyddol cyfatebol ar gyfer bargeinion cyflym iawn. [2] Wrth edrych ar y duedd tymor hir dros y pum mlynedd diwethaf, mae prisiau hyrwyddol tri gwasanaeth cyflym iawn ar gyfartaledd wedi gostwng 25%, ac mae prisiau hyrwyddol gwasanaethau gwibgyswllt wedi gostwng 48%.
- Adroddiad Cysylltu’r Gwledydd 2024 – Ofcom
- O dan ein rheolau ni, mae’n rhaid i ddarparwyr roi gwybod i gwsmeriaid pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu contract a dweud wrthynt beth y gallent ei arbed drwy ymrwymo i fargen newydd.
- Rhwng 2 a 8 Hydref 2024 cynhaliwyd gwaith maes ymysg 1,089 o oedolion 18 oed a hŷn yn y DU. Gan fod y gwaith maes wedi digwydd yn ystod wythnos gyntaf mis Hydref, mae’r profiadau’n adlewyrchu’r rhai ym mis Medi i raddau helaeth. Mae gan ein hamcangyfrif o’r boblogaeth gyfwng gwall o +/- 500,000.