O dan reolau newydd Ofcom sy’n dod i rym heddiw, mae’n rhaid i ddarparwyr telegyfathrebiadau nodi ymlaen llaw – mewn punnoedd a cheiniogau – unrhyw gynnydd mewn prisiau a fydd yn berthnasol i gontractau cwsmeriaid.
Fel y gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf, gall chwyddiant fod yn hynod o gyfnewidiol, ac mae’n anodd ei ragweld. Bydd ein rheolau’n diogelu defnyddwyr rhag y risg honno, ac yn sicrhau bod darparwyr yn glir ynghylch y prisiau y mae’n rhaid i gwsmeriaid eu talu dros gyfnod cyfan y contract.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o gwmnïau ffôn, band eang a theledu drwy dalu wedi cynnwys cynnydd mewn prisiau yn nhelerau eu contract, a oedd yn gysylltiedig â chyfraddau chwyddiant anhysbys yn y dyfodol. Roedd y telerau hyn yn ei gwneud yn gymhleth ac yn llafurus i gwsmeriaid amcangyfrif faint y byddant yn ei dalu o dan gontract newydd, ac yn cymhlethu’r broses o chwilio am fargen. Rydym bellach wedi gwahardd yr arfer hwn.
O heddiw ymlaen, bydd angen i unrhyw gynnydd mewn prisiau sy’n rhan o gontract cwsmer gael ei nodi’n amlwg ac yn dryloyw – mewn punnoedd a cheiniogau – ar adeg gwerthu; a bydd angen i ddarparwyr fod yn glir ynghylch pryd y bydd unrhyw newidiadau i brisiau yn dod i rym. Bydd hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd i ddefnyddwyr ynghylch y prisiau y bydd yn rhaid iddynt eu talu, gan eu helpu i ddewis y fargen orau ar gyfer eu hanghenion.
Dywedodd Natalie Black, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom:
Yn fwy nag erioed, mae aelwydydd eisiau ac angen cynllunio eu cyllidebau. Mae ein rheolau newydd yn golygu na fydd unrhyw sypreis cas, a bydd y cwsmeriaid yn gwybod faint y byddant yn ei dalu a phryd, trwy labelu clir.
Mae gwahanol fathau o gontractau ar gael
Mae Ofcom wedi rhoi mesurau diogelu ar waith i sicrhau bod defnyddwyr yn gallu siopa o gwmpas yn hyderus a manteisio ar yr amrywiaeth o wahanol fathau o becynnau sydd ar gael.
Mae nifer o ddarparwyr yn cynnig contractau nad ydynt yn cynnwys cynnydd mewn prisiau. Mae rhai eraill yn cynnig contractau sy’n caniatáu cynnydd amhenodol mewn prisiau yn ystod cyfnod y contract. Os byddant yn gwneud hyn, rhaid iddynt roi 30 diwrnod o rybudd i gwsmeriaid a rhoi’r hawl iddynt adael heb gosb, er mwyn i ddefnyddwyr allu osgoi’r cynnydd mewn prisiau os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Prisiau’n gostwng a chyflymderau’n codi yn sgil cystadleuaeth
Mae marchnad telegyfathrebiadau gystadleuol y DU yn darparu mwy o fuddsoddiad a phrisiau is i bobl a busnesau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae prisiau cyfartalog bwndeli band eang a symudol yn y DU wedi gostwng, a’r pecynnau cyflymaf sydd wedi gostwng fwyaf.
Ar yr un pryd, mae cwmnïau wedi bod yn buddsoddi mewn uwchraddio eu rhwydweithiau, gyda 20.3 miliwn o gartrefi yn y DU bellach â mynediad at fand eang ffeibr llawn cyflymach.
Cymorth i bobl ar incwm is
I bobl sy’n hawlio budd-daliadau penodol, mae pecynnau rhatach ar gael, o’r enw tariffau cymdeithasol. Nid yw’r rhain yn cynnwys unrhyw gynnydd mewn prisiau ar ganol contract. Mae’r rhain yn gwneud yn siŵr bod opsiynau fforddiadwy ar gael i aelwydydd incwm isel.
Mae mwy a mwy o bobl yn elwa o’r cynigion hyn, gyda dros 500,000 o gwsmeriaid wedi manteisio arnynt.