Rhaglen gorfodi telerau amrywio prisiau mewn-contract

Cyhoeddwyd: 12 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 12 Rhagfyr 2023

Ar gau

Gwybodaeth am y rhaglen

Telerau amrywio prisiau ffôn (llinell sefydlog a symudol) a band eang preswyl mewn-contract ar gyfer contractau yr ymrwymwyd iddynt rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022.

Achos wedi’i agor

1 Rhagfyr 2022

Achos ar gau

12 Rhagfyr 2023

Crynodeb

Bydd y rhaglen orfodi hon yn archwilio a fu i ddarparwyr ffôn a band eang wneud telerau amrywio prisiau mewn-contract yn amlwg ac yn dryloyw i gwsmeriaid ar yr adeg y gwnaethant ymrwymo i'w contract. Byddwn yn edrych ar gontractau yr ymrwymwyd iddynt rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022, pan gyflwynwyd gofynion ac arweiniad gwybodaeth gontract newydd.

Byddwn yn cywain gwybodaeth i asesu'r camau a gymerwyd gan ddarparwyr i wneud y telerau hyn yn amlwg ac yn dryloyw. Bydd y rhaglen yn ystyried a yw'r rhain yn codi materion cydymffurfio o dan yr Amodau Cyffredinol perthnasol, i benderfynu a oes angen unrhyw gamau pellach, gan gynnwys gorfodi.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Amodau Cyffredinol mewn grym rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022, yn benodol C1.14 i C1.17 (C1.6 i C1.9 yn flaenorol).

Heddiw, rydym yn cau ein rhaglen orfodi i amlygrwydd a thryloywder telerau amrywio prisiau mewn contractau sydd wedi'u cynnwys mewn contractau ffôn preswyl (llinell sefydlog a symudol) a chontractau defnyddwyr band eang, yr ymrwymwyd iddynt rhwng 1 Mawrth 2021 ac 16 Mehefin 2022.

Rydym wedi derbyn gwybodaeth gan ystod o ddarparwyr cyfathrebu i archwilio a oeddent yn cydymffurfio â'r Amodau Cyffredinol perthnasol oedd mewn grym ar y pryd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • a oedd darparwyr wedi gwneud eu telerau amrywio prisiau'n ddigon amlwg a thryloyw i gwsmeriaid ar yr adeg y gwnaethant gytuno i'r pris; ac
  • Os nad oeddent, p'un a oedd darparwyr wedi rhoi o leiaf mis o rybudd i gwsmeriaid a'r hawl i adael eu contract yn ddi-dâl, cyn gweithredu cynnydd mewn prisiau.

Canfyddiadau

Ym mron pob achos, nododd darparwyr y term amrywio prisiau ar ryw adeg yn ystod gwerthiannau ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod perthnasol. Roedd faint o wybodaeth a roddwyd am y term a'r ffordd y cafodd ei gyflwyno yn amrywio o ddarparwr i ddarparwr, ond yn gyffredinol nododd darparwyr sut y byddai'r cynnydd mewn prisiau yn cael ei gyfrifo a phryd y byddai'n berthnasol, cyn i gwsmeriaid gytuno i'r pris.

Nid yw nodi'r teler amrywio prisiau yn ystod taith werthu, ar ei ben ei hun, yn golygu bod teler wedi'i wneud yn ddigon amlwg a thryloyw. Trwy gydol y rhaglen hon, gwnaethom nodi sawl ffordd y gallai darparwyr fod wedi cyfathrebu eu teler amrywio prisiau yn gliriach i'w cwsmeriaid. Er nad oeddem o'r farn bod angen ymchwilio pellach i'r materion hyn, rydym wedi rhannu ein canfyddiadau â'r darparwyr perthnasol ac wedi eu hannog yn gryf i adolygu eu telerau ac amodau presennol a'u teithiau gwerthu i ystyried a ellir gwneud unrhyw welliannau.

Mewn nifer fach o achosion, mae'n bosib na wnaeth darparwyr roi digon o wybodaeth i gwsmeriaid am y teler amrywio prisiau yn ystod rhai teithiau gwerthu na mis o rybudd i'r cwsmeriaid hynny a'r hawl i adael eu contract yn ddi-dâl cyn gweithredu'r cynnydd mewn prisiau, gan arwain at bryderon cydymffurfio posibl o dan yr Amodau Cyffredinol perthnasol. O ganlyniad i ymgysylltu'n anffurfiol â'r pryderon hyn, rydym wedi sicrhau rhywfaint o weithredu adferol, gan gynnwys ad-daliadau i rai cwsmeriaid yr effeithir arnynt. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â darparwyr ynghylch unrhyw bryderon gweddilliol, gan symud i gamau gorfodi ar wahân wedi'u targedu os oes angen.

Edrych tua'r dyfodol

Rydym bellach yn cau'r rhaglen orfodi hon, sydd wedi bod yn edrych ar gydymffurfiaeth darparwyr â'r rheolau a oedd mewn grym rhwng 1 Mawrth 2021 ac 16 Mehefin 2022. Newidiodd y rheolau ar 17 Mehefin 2022 ac mae'n ofynnol bellach i ddarparwyr cyfathrebu roi gwybodaeth berthnasol i gwsmeriaid a dogfennau contract cryno, sy'n cynnwys gwybodaeth allweddol am y cynhyrchion neu'r gwasanaethau sydd ar gael, cyn i'r cwsmer ymrwymo i gontract.

Mae Ofcom bellach yn ymgynghori ar reolau ac arweiniad newydd sy'n gwahardd codi prisiau'n unol â chwyddiant yng nghanol contractau. Mae ein cynigion yn cynnwys gofynion newydd i ddarparwyr dynnu sylw cwsmeriaid, ar y pwynt gwerthu, at unrhyw gynnydd mewn prisiau sydd wedi'i ymgorffori mewn contractau. Rydym yn annog unrhyw bartïon sydd â diddordeb i ymgysylltu â'r ymgynghoriad hwn.

Heddiw, mae Ofcom yn agor rhaglen orfodi i amlygrwydd a thryloywder telerau amrywio prisiau mewn-contract sydd wedi'u cynnwys mewn contractau ffôn (llinell sefydlog a symudol) a band eang preswyl yr ymrwymwyd iddynt rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022.

Ein hamcanion ar gyfer y rhaglen hon yw:

  • Deall a fu i ddarparwyr godi ymwybyddiaeth cwsmeriaid o delerau amrywio prisiau a'u heffaith ar yr adeg y gwnaethon nhw ymrwymo i'r contract, rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022, a sut y gwnaethant hynny.
  • Archwilio a yw hyn yn codi materion o dan yr Amodau Cyffredinol perthnasol er mwyn penderfynu a oes angen unrhyw gamau pellach, gan gynnwys gorfodi.

Telerau amrywio prisiau mewn-contract

Mae telerau amrywio prisiau mewn-contract wedi'u hysgrifennu i mewn i gontractau rhai darparwyr cyfathrebu. Maent yn caniatáu i'r darparwr gynyddu'r pris tanysgrifio craidd a delir gan gwsmer ar wahanol adegau trwy gydol eu contract. Gall y telerau hyn fod ar ffurfiau gwahanol, mae rhai darparwyr yn cysylltu eu telerau â chyfradd chwyddiant (e.e., codi prisiau'n unol â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) neu Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI)), rhai i ganran o'r pris presennol, a rhai i gyfuniad o'r ddau (e.e., CPI + X%). Nid oes gan bob darparwr delerau amrywio prisiau, ond mae'r rhai sydd â nhw yn aml yn eu cymhwyso ym mis Mawrth neu Ebrill bob blwyddyn.

Gofynion rheoleiddio

Bydd ein rhaglen yn cymryd y gofynion rheoleiddio a oedd mewn grym rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022 i ystyriaeth. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Amodau Cyffredinol C1.14 i C1.17 (C1.6 i C1.9 yn flaenorol) yn mynnu bod darparwyr yn rhoi o leiaf un mis o rybudd o addasiadau cytundebol sy'n debygol o fod yn faterol andwyol i gwsmeriaid a hawl i adael y contract heb gosb (C1.14). Un math o addasiad cytundebol a oedd yn debygol o fod yn faterol andwyol i gwsmer oedd codi eu pris tanysgrifio craidd yn ystod eu cyfnod contract penodol. Fodd bynnag, nid oedd y gofynion blaenorol yn berthnasol i delerau amrywio prisiau, ar yr amod bod y telerau hynny'n ddigon amlwg a thryloyw ar yr adeg yr ymrwymodd y cwsmer i'r contract, gan olygu y gellid dweud bod y cwsmer wedi cytuno i'r telerau hynny. Os nad oedd hyn yn wir, mae'r gofynion yn Amod Cyffredinol C1.14 yn berthnasol.

Diweddarwyd ein rheolau a'n harweiniad ar 17 Mehefin 2022.

Rhaglen orfodi Ofcom  

Yn dilyn cwynion gan ddefnyddwyr, pryderon a godwyd gan nifer o randdeiliaid, a chyfnod o gywain gwybodaeth yn anffurfiol, mae gennym bryderon na wnaed rhai telerau amrywio prisiau mewn contractau yr ymrwymwyd iddynt rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022 yn ddigon amlwg a thryloyw.

Rydym yn agor y rhaglen orfodi hon i ymchwilio ymhellach i'r mater. Byddwn yn cywain gwybodaeth ac yn ymgysylltu ag ystod o ddarparwyr fel rhan o hyn. Os byddwn yn nodi materion penodol o ran cydymffurfiaeth, mae'n bosib y byddwn yn cychwyn ymchwiliadau ar wahân i ddarparwyr a enwir.

Rydym yn annog pob darparwr i adolygu'r camau y gwnaethant eu cymryd i sicrhau bod eu telerau amrywio prisiau'n amlwg ac yn dryloyw i gwsmeriaid. Os nad oedd y telerau hyn yn amlwg ac yn dryloyw, dylai darparwyr roi o leiaf mis o rybudd i gwsmeriaid a'r hawl i adael eu contract heb gosb os byddant yn cymhwyso'r telerau prisio hyn.

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon wrth i'r rhaglen orfodi fynd rhagddi.


Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01264/11/22

Yn ôl i'r brig