Broadband-engineers laying fibre optic cable (1336 × 520px)

Cwsmeriaid i gael gwybodaeth band eang cliriach

Cyhoeddwyd: 16 Medi 2024

O dan ganllawiau newydd Ofcom ar gyfer darparwyr, sy’n dod i rym heddiw, mae’n bwysig bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth glir am y dechnoleg rhwydwaith sy’n sail i’w gwasanaeth band eang wrth ymrwymo i gytundeb newydd. 

Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn cael eu cyflwyno’n gyflym ar hyn o bryd, sy’n golygu bod cwsmeriaid yn gallu dewis o amrywiaeth o dechnolegau rhwydwaith gwahanol ar gyfer eu gwasanaeth band eang. Fodd bynnag, mae’r term ‘ffeibr’ wedi cael ei ddefnyddio’n anghyson yn y gorffennol gan y diwydiant telegyfathrebiadau, ac yn cael ei ddefnyddio’n aml i ddisgrifio gwahanol fathau o rwydweithiau gan arwain at ddryswch ymysg cwsmeriaid.

O heddiw ymlaen, bydd angen i ddarparwyr band eang fod yn glir ac yn ddiamwys ynghylch a yw’r rhwydwaith maen nhw’n ei ddefnyddio yn rhwydwaith ‘ffeibr llawn’ newydd – gyda ffeibr yr holl ffordd i gartref cwsmer – neu’n rhwydwaith sy’n ‘rhannol ffeibr’, yn ‘gopr’, neu’n rwydwaith ‘cebl’. Ni fydd darparwyr yn gallu defnyddio’r term ‘ffeibr’ ar ei ben ei hun mwyach.

Rhaid rhoi’r wybodaeth hon i ddefnyddwyr cyn iddynt gytuno i brynu gwasanaeth band eang, p’un ai ydynt yn ymrwymo wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein.

Yn benodol, dylai darparwyr:

  • rhoi disgrifiad byr o dechnoleg rhwydwaith pob cynnyrch band eang gan ddefnyddio un neu ddau o dermau clir a diamwys, fel ‘cebl’, ‘copr’, ‘ffeibr llawn’ neu’n ‘rhannol ffeibr’. Dylid cynnig y disgrifiadau hyn adeg gwerthu ar y wefan, a chyn y pryniant terfynol yng ngwybodaeth y contract, ac yn y crynodeb o’r contract;
  • ddim defnyddio’r term ‘ffeibr’ ar ei ben ei hun i ddisgrifio’r dechnoleg band eang sylfaenol. Byddai hyn yn golygu, er enghraifft, bod ‘ffeibr llawn’ (neu derm tebyg) yn cael ei ddefnyddio dim ond i ddisgrifio rhwydweithiau sy’n defnyddio ceblau ffeibr optig yr holl ffordd o’r gyfnewidfa i’r cartref. Yn yr un modd, byddai ‘rhannol ffeibr’ (neu derm tebyg) yn disgrifio’r gwasanaethau hynny gyda chysylltiad ffeibr optig o’r gyfnewidfa leol i gabinet y stryd, ac yna weiren gopr fel arfer yn cysylltu cabinet y stryd â chartref y cwsmer; a
  • rhoi esboniad mwy trylwyr o’r dechnoleg band eang sylfaenol – er enghraifft drwy ddarparu dolen – er mwyn i ddefnyddwyr allu deall yn fwy manwl beth mae’n ei olygu iddyn nhw. Rhaid darparu’r wybodaeth hon mewn ffordd hygyrch sy’n hawdd ei deall.

 

Yn ôl i'r brig