Rheoleiddio gwasanaethau talu dros y ffôn yn y dyfodol Ymgynghoriad ar newidiadau i Amodau Cyffredinol C2.11 ac C2.12

Cyhoeddwyd: 25 Hydref 2024
Ymgynghori yn cau: 25 Tachwedd 2024
Statws: Agor

Ar 25 Hydref 2024 cyhoeddwyd ein datganiad ar ddyfodol reoleiddio gwasanaethau cyfradd premiwm (PRS) sy’n nodi ein penderfyniad i drosglwyddo swyddogaethau rheoleiddio’r Awdurdod Gwasanaethau Talu dros y Ffôn (PSA) i Ofcom.

Ar y 1 o Chwefror 2025 bydd Ofcom yn cymryd cyfrifoldeb o ddydd i ddydd fel corff rheoleiddio a gorfodi rheoliadau PRS. Fel a nodir yn ein datganiad ar Chwefror 1 2025, bydd y Cod Ymarfer PSA (Cod 15) sy'n rheoleiddio’r farchnad PRS ar hyn o bryd yn cael ei ddisodli gan set newydd o ofynion ar ddarparwyr PRS sydd wedi'u cynnwys mewn gorchymyn (Gorchymyn PRS).

Mae’r Amodau Cyffredinol presennol (‘y GCs’) yn cynnwys sawl cyfeiriad at y PSA a’i God Ymarfer na fydd bellach yn briodol ar ôl 1 Chwefror 2025 unwaith y bydd y PSA yn peidio â bod yn rheoleiddiwr ar gyfer PRS

Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi ein cynigion i addasu’r GC i ddileu cyfeiriad i’r PSA a’i God Ymarfer fel bod y GC yn cyd-fynd â fframwaith rheoleiddio’r dyfodol ar gyfer y PRS.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 99 KB).

How to respond

Cyfeiriad

PRS Consultation Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig