delivery driver hero

Datgelu'r cwmnïau parseli gorau a gwaethaf o ran bodlonrwydd cwsmeriaid â’r gwasanaeth

Cyhoeddwyd: 28 Hydref 2024

Mae Ofcom wedi canfod mai cwsmeriaid Evri a Yodel yw’r lleiaf bodlon â’u profiad o gysylltu â chwmnïau parseli am gymorth, ac Amazon a DHL sy'n perfformio orau. 

Heddiw, mae Ofcom yn cyhoeddi ei Adroddiad Monitro’r Post, blynyddol sy’n nodi data a thueddiadau yn y sector post, gan gynnwys profiadau pobl o anfon a derbyn post.

Roedd niferoedd y llythyrau i gyfeiriadau yn y DU wedi gostwng 9.0% i 6.6 biliwn o eitemau yn 2023-24. Er gwaethaf y duedd barhaus hon, mae ymchwil eleni yn dangos bod tua dwy ran o dair (64%) o bobl yn dweud bod y post yn bwysig iddyn nhw allu cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. Mae wyth o bob 10 (82%) yn dweud y bydd angen iddynt anfon pethau drwy’r post o hyd.

 Mae ein hadroddiad hefyd wedi canfod, er bod wyth o bob 10 person ar gyfartaledd sy’n derbyn parseli (78%) yn fodlon â’r cwmnïau parseli, bod dwy ran o dair (67%) wedi cael problem dros y chwe mis diwethaf. Y problemau a welir amlaf yw oedi (27%), parseli’n cael eu gadael mewn lleoliad amhriodol (23%), y gyrrwr ddim yn cnocio’n ddigon uchel ar y drws (20%), a ddim yn rhoi digon o amser i’r cwsmer ateb y drws (19%).  

Cymharu cwmnïau cludo

Wrth gymharu perfformiad cwmnïau parseli unigol o ran delio â chysylltiadau a chwynion gan dderbynwyr parseli, Amazon (56%) a DHL (55%) sy’n sicrhau’r lefelau uchaf o fodlonrwydd â’r broses hon eleni. Mae FedEx wedi llithro i’r trydydd safle, gyda chyfran y derbynwyr parseli bodlon yn disgyn  o 58% yn 2023 i 52% yn 2024.

 Mae Yodel yn perfformio’n is na’r cyfartaledd ar rai agweddau ar ei brosesau cyswllt i gwsmeriaid, sy’n cyfrannu at sgôr boddhad o 38%, ac Evri, unwaith eto, sydd â’r lefelau bodlonrwydd isaf. Fodd bynnag, mae’r cwmni wedi gwella ar ei berfformiad yn 2023, ac mae wedi cau’r bwlch ar waelod y tabl gyda’i sgôr bodlonrwydd yn codi o 26% i 32% yn y flwyddyn ddiwethaf.

Post Monitoring Report 2024_Satisfaction and dissatisfaction CYM

Arwyddion cynnar o welliant o dan reoliadau newydd

Hefyd, mae arwyddion eraill o welliant gan gwmnïau parseli mewn rhai meysydd o brofiadau eu cwsmeriaid.

Mae bodlonrwydd cwsmeriaid â’r broses o gysylltu â’r cwmni parseli i drafod problem neu gŵyn wedi codi o 41% yn 2023 i 44% yn 2024. Roedd gan gwsmeriaid hefyd lai o achos i gwyno am barsel hwyr (19% yn 2024 o’i gymharu â 23% yn 2023) neu barsel ddim yn cael ei ddanfon (16% yn 2024 o’i gymharu ag 20% yn 2023) na flwyddyn yn ôl.[1]

Mae Ofcom wedi cryfhau’r rheoliadau i wneud yn siŵr fod pobl yn cael eu trin yn deg gan gwmnïau parseli, ac rydym yn siarad â chwmnïau i ddeall sut maen nhw’n gwella eu gwasanaeth.

Mae cwmnïau parseli wedi gwneud nifer o welliannau o ran delio â chwynion, gan gynnwys gwell gwybodaeth ar eu gwefannau; gwelliannau i linellau ffôn a sgwrsio byw; ac maen nhw wedi cyflwyno opsiynau i gwsmeriaid ofyn am e-bost neu alwad yn ôl.

Rydym yn disgwyl rhagor o welliannau parhaus. Rydym yn dal yn bryderus iawn bod defnyddwyr anabl a’r rheini sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu arnynt yn dal yn fwy tebygol o gael anawsterau â’r broses ddanfon (71%) o’i gymharu â phobl eraill (63%).

Y Post Brenhinol a’r gwasanaeth cyffredinol

Heddiw mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar berfformiad ariannol ac effeithlonrwydd y Post Brenhinol fel y darparwr gwasanaeth cyffredinol.

Y llynedd, enillodd y Post Brenhinol rai o’r niferoedd parseli a’r refeniw a gollodd yn y flwyddyn flaenorol yn sgil gweithredu diwydiannol. Fodd bynnag, mae’r cwmni’n parhau i wneud colled; ac er ei fod wedi gwneud gwelliannau o ran cynhyrchiant, mae’r rhain yn llai na’r disgwyliadau.

Rydym yn parhau i fod â phryderon ynghylch cynaliadwyedd y gwasanaeth cyffredinol yn y tymor hwy, ac rydym yn bwrw ymlaen â gwaith ar ddyfodol y gwasanaeth, yn ogystal ag ymchwiliad i berfformiad danfon y Post Brenhinol.

 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion 

  1. Y ffigurau canrannol hyn yw’r cyfrannau o gwsmeriaid a oedd wedi cael problem â derbyn parseli yn ystod y 6 mis diwethaf a aeth ymlaen i gysylltu â’r cwmni danfon. Yn 2023, roedd 68% wedi cael problem. Yn 2024, roedd 67% wedi cael problem.
Yn ôl i'r brig