Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) mewn perthynas â band eang a fyddai’n rhoi’r hawl i bawb gael cysylltiad band eang teilwng ar gais rhesymol.[1] Mae hyn i gydnabod pwysigrwydd cynyddol band eang i fywydau beunyddiol pobl.
Ym mis Mawrth, ysgrifennodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon at Ofcom yn gofyn am gyngor technegol ac argymhellion ar ddyluniad yr USO band eang.[2] Gwnaethom gyhoeddi cais am fewnbwn ym mis Ebrill, gan geisio barn defnyddwyr a’r diwydiant ar ddyluniad yr USO band eang (PDF, 89.1 KB).[3] Cawsom 115 o ymatebion oddi wrth amrywiaeth eang o randdeiliaid, ac rydym wedi ystyried y rhain wrth inni ddatblygu ein cyngor i'r Llywodraeth. Gwnaethom gyhoeddi adroddiad yn crynhoi’r ymatebion hyn ym mis Awst (PDF, 390.1 KB).[4]
Mae’r ddogfen hon yn nodi ein cyngor i’r Llywodraeth ar sut i sicrhau cysylltiad band eang teilwng i bawb. Rydym wedi darparu nifer o opsiynau er mwyn i’r Llywodraeth benderfynu pa un sy’n diwallu’i hamcanion orau.
Rydym wedi cyhoeddi diweddariad ar gostau bras y gwahanol scenarios band eang. Bu dau newid sylweddol ers yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Llywodraeth yn Rhagfyr 2016: scenario band eang USO ychwanegol a chywiro’r gwall modelu ar gyfer yr LR-VDSL. O ganlyniad i’r newidiadau hyn, rydym wedi diweddaru’r tablau perthnasol yn Adroddiad Rhagfyr. Gallwch ddod o hyd i’r tablau hyn yn y ddogfen ddiweddaraf. Fel y dywedwyd yn Adroddiad Rhagfyr, nid amcan y gwaith modelu hwn yw darparu union ffigur ar gyfer pob scenario. Yn hytrach, mae’r ffygrau hyn yn cynrychioli amcangyfrifol rhagarweiniol o amcan maint costau pob scenario a’r hyn sydd y tu ôl i’r costau hynny, er mwyn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisi.