- Roedd TikTok wedi methu â rhoi gwybodaeth gywir i Ofcom am ei reolaethau rhieni
- Roedd oedi cyn rhoi gwybod am y broblem wedi amharu ar gyhoeddi adroddiad tryloywder diogelwch plant Ofcom
Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £1.875 miliwn i TikTok am fethu ymateb yn gywir i gais ffurfiol am wybodaeth am ei nodwedd ddiogelwch rheolaethau rhieni.
Mae casglu gwybodaeth gywir gan gwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio yn hanfodol i’n gwaith fel rheoleiddiwr. Mae’n rhaid i gwmnïau, yn ôl y gyfraith, ymateb i bob cais statudol gan Ofcom am wybodaeth a hynny mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth gywir a chyflawn.
Yn yr achos hwn, roedd Ofcom wedi gofyn am wybodaeth gan blatfformau rhannu fideos o dan reoliadau oedd yn bodoli cyn Deddf Diogelwch Ar-lein y DU, fel sail i adroddiad arfaethedig yn tynnu sylw at y mesurau diogelwch sydd ganddynt ar waith i amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol.
Fel rhan o’r broses hon, fe wnaethom ofyn i TikTok ddarparu data ar y nifer sy’n defnyddio ei nodwedd rheolaethau rhieni, “Family Paring”. Roedd yr wybodaeth hon yn bwysig i helpu Ofcom i asesu ei effeithiolrwydd wrth ddiogelu defnyddwyr yn eu harddegau ond roedd hefyd i fod i gael ei gyhoeddi er mwyn helpu i roi gwybodaeth i rieni a’u grymuso i benderfynu pa blatfformau maen nhw a’u plant yn eu defnyddio.
Roedd TikTok wedi ymateb i’n cais am wybodaeth ar 4 Medi 2023. Ar 1 Rhagfyr 2023, dywedodd TikTok nad oedd y data roedd wedi'i ddarparu yn gywir a’i fod yn cynnal ymchwiliad mewnol i ddeall gwraidd ei wallau.
Ac ystyried y datgeliad hwn, lansiodd Ofcom ymchwiliad ar 14 Rhagfyr 2023 i weld a oedd y cwmni wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau i ymateb i gais statudol am wybodaeth. Fe wnaethom hefyd ystyried a oedd TikTok wedi cydweithredu’n llawn ag Ofcom er mwyn cynhyrchu’r adroddiad diogelwch plant, ac ystyried ei bod hi’n ymddangos y bu oedi sylweddol cyn rhoi gwybod i mi am y materion.
Canfyddiadau ein hadolygiad
Datgelodd ein hymchwiliad nifer o fethiannau ym mhrosesau llywodraethu data TikTok. Nid oedd gan y cwmni archwiliadau digonol ar waith gan arwain at gyflwyno data anghywir i ni yn y lle cyntaf, ac ar ben hynny roedd TikTok hefyd wedi bod yn araf yn dwyn y gwall i’n sylw neu i ddatrys y broblem.
Er bod TikTok yn gwybod ein bod yn bwriadu cynnwys ei ddata rheolaethau rhieni mewn adroddiad tryloywder a oedd ar fin cael ei gyhoeddi, nid oedd TikTok wedi rhoi gwybod am y gwall am fwy na thair wythnos ar ôl canfod y broblem.
Roedd yr oedi hwn yn golygu ein bod wedi cael ein gorfodi, ar gam hwyr, i dynnu manylion am effeithiolrwydd rheolaethau rhieni TikTok o’r adroddiad, gan amharu’n sylweddol ar ein gwaith i hyrwyddo tryloywder.
Yn dilyn hynny, ymrwymodd TikTok i ddarparu gwybodaeth gywir am “Family Pairing” o ffynhonnell ddata arall. Ond er bod Ofcom yn pwyso am ddiweddariadau cynnydd, roedd hyn hefyd yn destun oedi. Yn y pen draw, darparodd TikTok ddata cywir, er yn rhannol, i’n cais am wybodaeth ar 28 Mawrth 2024 – dros saith mis ar ôl y dyddiad cau gwreiddiol.
Daeth ein hymchwiliad i’r casgliad bod TikTok wedi methu cydweithredu’n llawn â chais statudol Ofcom am wybodaeth ac â’n gwaith yn cynhyrchu’r Adroddiad Diogelwch Plant. O'r herwydd, roedd y cwmni wedi mynd yn groes i’w ddyletswyddau o dan s368Z10 a s368Y o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.
Cosb ariannol
O ganlyniad i’r methiannau hyn, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £1.875 miliwn i TikTok, a fydd yn cael ei drosglwyddo i Drysorlys EF.
Credwn fod y gosb yn briodol ac yn gymesur â’r tramgwydd. Wrth benderfynu ar y lefel, fe wnaethom ystyried, ymysg pethau eraill:
- Mae TikTok yn gwmni mawr gyda llawer o adnoddau, sy’n ymwybodol iawn o’i rwymedigaethau rheoleiddiol. O’r herwydd, byddem wedi disgwyl iddo fod yn llawer mwy gofalus i sicrhau bod unrhyw ddata a gyflwynir i Ofcom yn cael ei archwilio, yn cael ei groeswirio a’i adolygu’n briodol drwy sianeli llywodraethu priodol cyn ei gyflwyno i Ofcom;
- roedd y camgymeriadau yn y data wedi cael effaith uniongyrchol ar ein our gwaith rheoleiddio – sef llesteirio ein gallu i fonitro system rheolaethau rhieni TikTok yn effeithiol a thanseilio’r broses i ddarparu’r wybodaeth honno i’r cyhoedd; a
- dyma’r tro cyntaf i TikTok dorri ein rheolau. Rhoddwyd cryn bwys hefyd ar y ffaith, er gwaethaf ei fethiannau, bod TikTok wedi rhoi gwybod i ni am y gwall, ac ers hynny mae wedi cymryd camau i wella ei brosesau mewnol.
Mae’r gosb yn cynnwys gostyngiad o 25% oddi ar y gosb y byddem fel arall wedi’i rhoi, gan fod TikTok wedi derbyn ein canfyddiadau ac wedi setlo’r achos.
Gwaith Ofcom yw craffu nodweddion diogelwch platfformau, ac mae casglu gwybodaeth yn rhan hollbwysig o ddal cwmnïau technoleg i gyfrif. Pan fyddwn yn gofyn am ddata, rhaid iddo fod yn gywir a rhaid iddo gael ei gyflwyno’n brydlon. Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi os bydd unrhyw gwmni yn methu gwneud hyn.
- Suzanne Cater, Cyfarwyddwr Gorfodaeth Ofcom