Child watching content on a tablet

Y mesurau rydyn ni’n eu cynnig i wella diogelwch plant ar-lein

Cyhoeddwyd: 8 Mai 2024

Fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, rydyn ni wedi cyhoeddi pecyn o fesurau arfaethedig y mae’n rhaid i gyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau ar-lein eraill eu rhoi ar waith i wella diogelwch plant pan fyddan nhw ar-lein.

Yn yr erthygl hon, rydyn ni’n egluro beth yw rhai o’r prif fesurau a’r gwahaniaeth rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw ei wneud. P’un ai ydych chi’n rhiant, yn ofalwr neu’n rhywun sy’n gweithio gyda phlant, gall hyn eich helpu i ddeall beth sy’n digwydd i helpu plant yn y DU i fyw bywydau mwy diogel ar-lein.

Mae amddiffyn plant yn flaenoriaeth

Er mwyn i blant allu mwynhau manteision bod ar-lein heb brofi’r niwed a allai fod yn ddifrifol sy’n bodoli yn y byd ar-lein, mae amddiffyn plant yn flaenoriaeth i Ofcom.

Felly rydyn ni’n gweithredu – gan nodi’r camau a gynigiwn y byddai angen i wasanaethau ar-lein eu cymryd i gadw plant yn ddiogel, fel rhan o’u dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

O dan y Ddeddf, rhaid i apiau cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau chwilio a gwasanaethau ar-lein eraill atal plant rhag dod ar draws y cynnwys mwyaf niweidiol sy’n ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylderau bwyta, a phornograffi. Hefyd, rhaid iddyn nhw leihau’r posibilrwydd i blant ddod i gysylltiad â mathau eraill o niwed difrifol, gan gynnwys deunydd treisgar, cas neu sarhaus, cynnwys bwlio, a chynnwys sy’n hybu heriau peryglus.

Beth fydd yn rhaid i gwmnïau ei wneud i ddiogelu plant ar-lein?

Yn gyntaf, rhaid i wasanaethau ar-lein benderfynu a yw plant yn debygol o ddefnyddio eu safle – neu ran ohono. Ac yn ail, os yw plant yn debygol o’i ddefnyddio, rhaid i’r cwmni gynnal asesiad pellach i ganfod y risgiau y mae eu gwasanaeth yn eu hachosi i blant, gan gynnwys y risg sy'n deillio o ddyluniad eu gwasanaethau, eu swyddogaethau a'u algorithmau. Yna, mae angen iddyn nhw gyflwyno mesurau diogelwch amrywiol i liniaru’r risgiau hyn.

Mae ein hymgynghoriad yn cynnig mwy na 40 o fesurau diogelwch y byddai angen i wasanaethau eu rhoi ar waith – pob un wedi’i anelu at sicrhau bod plant yn mwynhau amser diogel o flaen y sgrin pan fyddan nhw ar-lein. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Gwiriadau oedran cadarn - Mae ein Codau drafft yn disgwyl i wasanaethau wybod pa rai o’u defnyddwyr sy’n blant er mwyn eu hamddiffyn rhag cynnwys niweidiol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y dylai pob gwasanaeth nad yw’n gwahardd cynnwys niweidiol gyflwyno gwiriadau oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad i’r wefan neu ap cyfan, neu gael rhannau sy’n cyfyngu ar oedran lle mai oedolion yn unig sy’n cael eu defnyddio.
  • Algorithmau mwy diogel - yn ein cynigion, mae’n rhaid i unrhyw wasanaeth sydd â systemau sy’n argymell cynnwys wedi’i bersonoli i ddefnyddwyr ac sydd â risg uwch o fod â chynnwys niweidiol ddylunio eu halgorithmau i hidlo’r cynnwys mwyaf niweidiol o ffrydiau plant, ac israddio cynnwys niweidiol arall. Rhaid i’r plant hefyd allu rhoi adborth negyddol er mwyn i’r algorithm allu dysgu pa gynnwys nad ydyn nhw eisiau ei weld.
  • Cymedroli effeithiol – mae’nrhaid i bob gwasanaeth - fel apiau cyfryngau cymdeithasol  a gwasanaethau chwilio - gael systemau a phrosesau cymedroli cynnwys sy’n golygu eu bod yn gweithredu’n gyflym ar gynnwys niweidiol a dylai peiriannau chwilio mawr ddefnyddio gosodiad 'chwilio diogel' ar gyfer plant, na ellir ei ddiffodd a rhaid ei fod yn hidlo'r cynnwys mwyaf niweidiol. Mae mesurau ehangach eraill yn gofyn am bolisïau clir gan wasanaethau ar ba fath o gynnwys a ganiateir, sut mae cynnwys yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer adolygiad, ac i dimau safoni cynnwys fod ag adnoddau a hyfforddiant da.

Pa wahaniaeth fydd y mesurau hyn yn ei wneud?

Rydyn ni’n credu y bydd y mesurau hyn yn gwella profiadau plant ar-lein mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft:

  • Ni fydd plant fel arfer yn gallu cael mynediad at bornograffi.
  • Bydd plant yn cael eu hamddiffyn rhag gweld, a chael cynnig, cynnwys a allai fod yn niweidiol.
  • Ni fydd plant yn cael eu hychwanegu at sgyrsiau grŵp heb eu caniatâd.
  • Bydd yn haws i blant gwyno pan fyddan nhw’n gweld cynnwys niweidiol, a gallan nhw fod yn fwy hyderus y bydd camau’n cael eu cymryd ar sail eu cwynion.

Mae ein hymgynghoriad yn dilyn cynigion rydyn ni eisoes wedi’u cyhoeddi ynghylch sut dylai plant gael eu hamddiffyn rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon fel meithrin perthynas amhriodol, cam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, yn ogystal â sut dylid atal plant rhag cael gafael ar gynnwys pornograffig.

Y camau nesaf

Mae ein hymgynghoriad ar agor tan 17 Gorffennaf ac rydyn ni’n croesawu unrhyw adborth ar y cynigion. Rydyn ni’n disgwyl cwblhau ein cynigion a chyhoeddi ein datganiad a’n dogfennau terfynol yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd y Deyrnas Unedig.

Yn ôl i'r brig