Padlocked-Laptop-Web

Ofcom yn ymchwilio i fesurau dilysu oedran OnlyFans

Cyhoeddwyd: 9 Mai 2024
Diweddarwyd diwethaf: 1 Mai 2024

Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i weld a yw OnlyFans yn gwneud digon i atal plant rhag cael mynediad at bornograffi ar ei safle.

O dan reoliadau presennol sy’n dyddio’n ôl i Ddeddf Diogelwch Ar-lein newydd y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i lwyfannau rhannu fideos (VSPs) a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig gymryd mesurau priodol i atal pobl ifanc o dan 18 oed rhag cael gafael ar ddeunydd pornograffig.

Mewn ymateb i’r rheoliad VSP hwn, mae nifer o safleoedd yn y Deyrnas Unedig sy’n lletya cynnwys i oedolion – gan gynnwys y mwyaf, OnlyFans – wedi cyflwyno mesurau dilysu oedran.

Fodd bynnag, ar ôl adolygu’r cyflwyniadau a gawsom gan OnlyFans mewn ymateb i geisiadau ffurfiol am wybodaeth, mae gennym sail i amau nad oedd y llwyfan wedi rhoi ei fesurau dilysu oedran ar waith mewn ffordd sy’n diogelu pobl ifanc o dan 18 oed yn ddigonol rhag deunydd pornograffig.

Rydym hefyd yn ymchwilio i weld a yw OnlyFans wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau i ddarparu gwybodaeth gyflawn a chywir mewn ymateb i’r ceisiadau statudol hyn.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn maes o law.

Ymestyn ein gwaith VSP

Wrth i ni weithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rydym yn parhau i reoleiddio VSP sy’n dod o dan ein hawdurdodaeth o dan y drefn sydd eisoes yn bodoli. Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn penderfynu ar ba ddyddiad y bydd y drefn VSP yn cael ei diddymu.

O ystyried pwysigrwydd sicrhau bod plant yn cael eu diogelu rhag deunydd pornograffig, byddwn yn parhau i asesu mesurau sicrhau oedran ar lwyfannau rhannu fideos i oedolion nes bydd y drefn VSP wedi ei diddymu.

Byddwn yn cyhoeddi diweddariad ar ôl i’r Llywodraeth gadarnhau’r dyddiad diddymu.

Yn ôl i'r brig